Alba Noir






Shetland! Croeso’n ôl, gyfaill triw. Ar ôl darllen nofelau gwreiddiol Ann Cleeves (awdures cyfresi Vera hefyd) am ymchwiliadau’r Ditectif Jimmy Perez (Douglas Henshall) a’i dîm i fwrdwrs go hyll ar yr ynys bellennig yng nghanol tonnau gwyllt Môr y Gogledd, roeddwn i’n awchu i weld hon. Ac mae’n dal i blesio, bedair cyfres yn ddiweddarach, ac ymlaen am 9 bob nos Fawrth ar y Beeb. Gwylio ar BBC Scotland ydw i, yn naturiol ddigon (sianel Sky 977) gan fod Keeping Faith aka Un Bore Mercher yn cael y flaenoriaeth gan BBC Wales. Dw i’m eisiau gwybod ble’r aeth Evan eto fyth, na chlywed fersiynau Saesneg o’r bali trac sain Mills & Boonaidd.

Ond yn ôl at Alba Noir, ac mae’r gyfres hon yn canolbwyntio ar Thomas Malone, boi lleol a garcharwyd ar gam 23 mlynedd yn ôl am lofruddio Lizzie Kilmuir a ganfuwyd yn gelain mewn hen odyn galch. Pan mae Malone, yn ei ddoethineb amheus, yn dychwelyd i fro ei febyd (pam mae dihirod drama’n gwneud hyn dro ar ôl tro?) elyniaethus, a merch arall yn cael ei llofruddio’n fuan wedyn, sdim angen Einstein i feddwl pwy sydd dan y lach. Ac yng nghanol y golygfeydd wirioneddol drawiadol sydd wedi’u peintio’n llwydlas, lle fedrwch chi bron â theimlo’r heli yn sgubo drwy’ch gwallt wrth i Perez igam-ogamu yn ei Volvo newydd sbon (lle gafodd o’r syniad yna ’dwch?), mae ’na hagrwch yn yr harddwch naturiol - gydag enydau ysgytwol o drais - fel y trigolion lleol yn chwarae vigilantes wrth geisio claddu Malone yn fyw, ac ymosodiad ffiaidd â morthwyl. Dim ond awgrym, cofiwch, cyn i’r credits cloi lifo. Mae hynny’n llawer llawer mwy effeithio na phistyllio gwaed ar gamera.

Diolch, efallai i grefft y cyfarwyddwr. Un ohonon ni, fel mae’n digwydd, heb swnio’n Wales on Sunday-aidd o blwyfol. Lee Haven Jones o Aberpennar sydd wrth y llyw, eto’n ffres o Vera, ac wyneb cyfarwydd cyfresi Caerdydd a Gwaith Cartref yn y gorffennol.

Mi allwch chi wylio hon fel newydd-ddyfodiad llwyr. Ac eto, mae yna hanes i’r cymeriadau, megis Cassie Perez sy’n cael ei magu gan ddau dad, ac Alison “Tosh” Macintosh (AlisonO’Donnell gynnil o dda) a gafodd ei threisio yn y gyfres ddiwethaf. Mae’r berthynas dadol rhyngddi hi a Jimmy Perez yn hyfryd, ac heb unrhyw awgrym o ramant sy’n dueddol o ddifetha rhai cyfresi ditectifs.


Ac i goroni’r cyfan, mae elfennau o bennod wythnos nesaf yn dod o Norwy. Mi fuasai’n wirion peidio piciad yno dweud y gwir, â’r ynysforoedd yn eiddo i’r Llychlynwyr tan y bymthegfed ganrif, ac yn nes at Bergen na Chaeredin.