Tewach na dwr II



Maen nhw’n ôl. Y ddau frawd a chwaer anghymarus o ynysoedd Åland, rhwng Sweden a’r Ffindir, a orfodwyd i gallio a chymodi yn y gyfres gyntaf wrth i’w mam farw a gadael gwesty’r teulu yn eu meddiant. Gyda chyfrinach dywyll yn eu clymu i’r hen le am byth (fe laddodd Oskar, y brawd hynaf, eu tad treisgar yn ddamweiniol pan oedd yn fachgen, a chuddio’i gorff dan bwll nofio segur y gwesty) mae’n ymddangos nad oes dianc i fod - felly gwneud y gorau o’r sefyllfa a thrïo creu busnes llwyddiannus. Nid tasg hawdd i Jonna’r chwaer (weddol) gall, yr actores ddiwaith, pan fo Lasse y brawd arall yn ymhél â chyffurgwn Stockholm ac wedi cysgu gyda gwraig ei frawd. Wedi cyfres gyntaf yng nghanol hirddydd haf, mae hon wedi’i gosod tua chyfnod hudolus y Jul (Nadolig) a’r tri’n benderfynol o gael gwyliau llwyddiannus serch yr eira a’r dyledion mawr. Ond mae yna gorff arall yn bygwth golchi i’r lan…

Bues i’n binjwylio hon rhyw bnawn Sul diog wrth iddi bluo’n drwm yn y ddinas, a chael fy nghyfareddu'n llwyr nes colli amser. Mae’r ddwy gyfres ar wefan ddi-danysgrifio Walter Presents. Iawn oce, mae'r hysbysebion yn boen yn dîn, ond mae'n werth dal ati. 

Super!

Nid Poirot mohoni




Mae ’na Ewrodditectif newydd yn y dre. Un arall o stabl ardderchog Walter Presents yn slot dramâu tramor More4 bob nos Wener am 9 - sianel sy’n well nag arlwy nos Sadwrn BBC Four ar hyn o bryd. Dyna chi ddeud mawr! Un o Fflandrys y tro hwn (Gwlad Belg i chwi’r Brits), Rough Justice, wedi’i gosod yn ninas-borthladd Antwerpen ar arfordir Môr y Gogledd.
Ac fel pob cyfres Politie fodern gwerth ei halen, merch sy’n llywio pethau - merch sydd bron yn ystrydeb o gymeriadau benywaidd eraill y cyfresi noir diweddar, gyda rhyw stamp Sefyll Allan yn perthyn iddi. A dyw’r Comisiynydd Liese Meerhout (Hilde De Baerdemaeker) ddim gwahanol. Nid Ford Focus, tyaid o blant na phriodas dow-dow i hon. Dim ffiars o beryg. Mae’n gyrru o gwmpas mewn hen Ferc lliw mwstard, yn mwynhau refio mewn clybiau lesbiaidd lleol a chwarae’r drymiau yn ei hamser sbâr i gael gwared ar densiynau’r dydd. Heb son am bechu Sofie, unig aelod benywaidd arall o’r tîm, ac ennyn edmygedd Fabien y patholegydd ifanc eiddgar. Yn seiliedig ar nofelau Toni Coppers, mae’n cynnwys achos gwahanol bob wythnos ond hefyd stori drosfwaol o’r gorffennol sy’n plagio Liese - gyda rhywun yn anfon cyfres o e-byst ati am ferch fach a grogodd ei hun ar siglen. Pwy oedd hi a beth yw’r cysylltiad rhyngddi â’n harwres Ffleminaidd?

Mae’n gafael ac yn gymar delfrydol i’n gaeaf hir ni.

 



Fydd Gobaith Cariad



Ymwadiad - dw i ddim yn gapelwr.  Mi oeddwn i ers talwm, ac yn cael blas mawr ar yr ysgol Sul adra’ yng Ngharmel a’r cymdeithasu hyfryd adeg Diolchgarwch a’r Dolig pan fyddai bron pob teulu’r ardal yn cnesu’r hen feinciau treuliedig. Dw i’m yn siŵr os dw i’n fawr o gredwr mwyach chwaith.  Ac eto, dw i’n ffyddlon iawn i’r cwrdd am naw o’r gloch bob nos Sul yn ddiweddar. Yn edrych ymlaen yn eiddgar at awr o adloniant pur gyda ffrindiau hoff cytûn, tipyn o chwerthin ac ambell foeswers i bigo’r cydwybod. Heb os nac oni bai, mae Parch yn falm i’r enaid. Croeso’n ôl, Myfanwy a’r criw!


Dyma’r drydedd gyfres a’r olaf, meddan nhw. Tybed, Fflur Dafydd? Esgus felly i sawru’r ddrama am blwyfolion brith Llancemlyn (Llanfleiddan, Llanilltud Fawr a’r cylch). Digartrefedd ydi’r thema y tro hwn, wrth i Myfanwy’r Bugail Stryd gyfarfod â chradur barfog sy’n byw mewn bocsys (Ryland Teifi). Mae rhyw ymdeimlad o ddiffyg gwreiddiau yn llifo drwyddi draw, rhwng Eirug y trefnwr angladdau (Rhys ap Hywel) sy’n byw ar soffa Terwyn (Huw Davies gynnil o gomig) - cyn-ŵr ei gariad bore oes (canolbwyntiwch, bobol) - yn dilyn tor-perthynas, a’r ferch yn gadael yr aelwyd i ansicrwydd bywyd coleg. Mae Myfanwy hithau’n ddi-eglwys, ac ar ben pob dim, mae perthynas ei thad ac Osanka (yr hyfryd Wanda Opalinska o Wlad Pwyl) ar seiliau go simsan oherwydd y felan ôl-eni.  Trwy Osanka hefyd y cawsom awgrym o hylltra hiliaeth Brecshit yn y bennod gyntaf.


Fy holl gymeriad rheolaidd newydd, y cawsom gip ohoni yn y gyfres ddiwethaf, ydi Sheridan Milton-Morgan (Beth Robert) fel pen bandit yr ymgymerwyr angladdau. Mae ei henw’n crisialu’r cymeriad i’r dim.



 

Wrth gwrs, mae’r elfen oruwchnaturiol yma o hyd, wrth i Myfanwy weld ysbrydion ac ambell wyneb o’r gorffennol sy’n dal yn nhir neb rhwng y byd hwn a’r nesaf. Roedd ffans Phylip Hughes wrth eu boddau. Er hynny, dw i wedi clywed ambell un yn dweud nad ydi’r golygfeydd ffantasïol at eu dant nhw, fel y clasur Con Passionate gynt.


Da chi, peidiwch â gadael i hynny eich atal rhag gwylio a mwynhau un o ddramâu mwyaf gwreiddiol y Sianel os nad unrhyw sianel ar hyn o bryd.  Mae’r cymeriadau’n siarad Cymraeg naturiol nid Cyfieitheg, ac wir, wedi’r holl ymdrybaeddu mewn dramâu noir diweddar, mae’n chwa o awyr iach croesawus dros ben.




Sut i wella Cân i Gymru...


...cael gwared â’r gystadleuaeth am byth! mi glywaf y sinigiaid mwyaf yn gweiddi.

Yn gam neu’n gymwys, mae Eurovision Cymru yn rhan annatod o ddathliadau Gŵyl Ddewi S4C, law yn llaw â thwrnamaint lluchio cennin(!) Pobol y Cwm, lluniau o blant mewn gwisgoedd Cymreig yn plastro’r papurau lleol a twitter a phaced o Welsh Cêcs o’r Co-op. Dw i’n cofio oes aur S4C diferu-o-bres, a ffilm fawr yn cael ei darlledu ar ddydd ein nawddsant gan un o’n hawduron amlycaf ni - o Nel Meic Povey i Sigaret? Saunders Lewis.

Ac eleni, efallai fod nifer gwylwyr Cân i Gymru fymryn yn uwch na’r arfer oherwydd eiramagedon. Fe wyliais tan hanner ffordd drwodd, meddwl "ma hyn yn shit" nid yn annhebyg i’r nain yma, cyn lapio amdanaf a mynd am dro i’r lluwchfeydd yn yr Eglwys Newydd. Wedi’r cwbl, mae eira mawr yng Nghaerdydd yn ddigwyddiad mewn oes. Mi fydd Cân i Gymru nôl flwyddyn nesaf doed a ddêl, i ddathlu’r hanner canrif.

Os felly, mae eisiau ailwampiad difrifol fel a ganlyn:
  • Rhyddhau’r gynulleidfa. Er mwyn dyn, rhyddhewch nhw o hualau’r blydi byrddau coctel crwn a naill ai gadael iddyn nhw eistedd mewn rhes neu sefyll o flaen y llwyfan. Agorwch far. Unrhyw beth i gael mwy awyrgylch, wmff a sŵn i’r cyfan. Roedd yna fwy o awyrgylch yn achlysur urddo'r Trymp Ddyn.
  • Llai o’r Rheithgor. Mae clywed cantorion proffesiynol fel Al Lewis yn paldaruo am “safon” y caneuon yn embaras a diflas ar ddechrau’r rhaglen. Ewch syth iddi i’r caneuon.
  • Pleidlais y panel. Dewiswch gerddorion proffesiynol i farcio’r caneuon. Ychwanegwch eu sgôr hwythau at un y gynulleidfa hynod blwyfol, sydd ond yn dueddol o bleidleisio dros Tom wyr Vera Bryngwran neu honna sy’n Coleg Metropolitan y Drindod De Cymru Dewi Sant. Go brin wnawn nhw bleidleisio dros y gân.
  • Wynebau newydd. Mae hyd yn oed y criw cefndir yn drewi o glique #CiG. Non Parry, Tesni Jones, Steffan Rhys Williams, wynebau'r gystadleuaeth yn y gorffennol.  Roeddwn i’n gwingo efo’r berthynas rhwng Trystan, Elin Fflur a twitter – yn enwedig y seibiau hir wrth sgrolio-chwilio am bethau gweddus a chanmoliaethus i’w hadrodd yn ôl wrth y genedl. Efallai ei bod hi’n bryd dilyn ôl troed Dechrau Canu a rhoi’r job i gwmni cynhyrchu newydd.
  • Y Ban Geltaidd. Leitir Ceanainn (Letterkenny) Swydd Donegal yw’r lleoliad ddechrau Ebrill eleni. Ddim bod ni fawr callach yma yng Nghymru, a hanes y gân fuddugol yn Iwerddon yn cael fawr o fensh wedyn. Iawn, mae’r wobr ariannol o £5,000 o bunnoedd yn neis (ond tipyn is na’r £10,000 a gynigiwyd diwethaf yn 2010 pan aeth Tomos Wyn gyda Bws i’r Lleuad), ond beth am hynt yr enillydd wedyn? Byddai eitem ar Heno neu rhywbeth yn well na nada.
Ta waeth. Dyma rywbeth bach i godi'r galon a dau o uchafbwyntiau'r gystadleuaeth - y llynedd. Peidiwch â ffonio mwyach, mae'r llinellau wedi cau, ac efallai y cewch eich tsiarjio.