Accéder au contenu principal

Tewach na dwr II



Maen nhw’n ôl. Y ddau frawd a chwaer anghymarus o ynysoedd Åland, rhwng Sweden a’r Ffindir, a orfodwyd i gallio a chymodi yn y gyfres gyntaf wrth i’w mam farw a gadael gwesty’r teulu yn eu meddiant. Gyda chyfrinach dywyll yn eu clymu i’r hen le am byth (fe laddodd Oskar, y brawd hynaf, eu tad treisgar yn ddamweiniol pan oedd yn fachgen, a chuddio’i gorff dan bwll nofio segur y gwesty) mae’n ymddangos nad oes dianc i fod - felly gwneud y gorau o’r sefyllfa a thrïo creu busnes llwyddiannus. Nid tasg hawdd i Jonna’r chwaer (weddol) gall, yr actores ddiwaith, pan fo Lasse y brawd arall yn ymhél â chyffurgwn Stockholm ac wedi cysgu gyda gwraig ei frawd. Wedi cyfres gyntaf yng nghanol hirddydd haf, mae hon wedi’i gosod tua chyfnod hudolus y Jul (Nadolig) a’r tri’n benderfynol o gael gwyliau llwyddiannus serch yr eira a’r dyledion mawr. Ond mae yna gorff arall yn bygwth golchi i’r lan…

Bues i’n binjwylio hon rhyw bnawn Sul diog wrth iddi bluo’n drwm yn y ddinas, a chael fy nghyfareddu'n llwyr nes colli amser. Mae’r ddwy gyfres ar wefan ddi-danysgrifio Walter Presents. Iawn oce, mae'r hysbysebion yn boen yn dîn, ond mae'n werth dal ati. 

Super!

Posts les plus consultés de ce blog

35 Diwrnod II

Am sgwp. Ar ôl tri-chwarter gobeithio y byddai S4C yn gweld sens ac yn comisiynu cyfres arall o lwyddiant dramatig y Sianel y llynedd wnaeth danio brwdfrydedd gwylwyr a'r twitteratis fel ei gilydd gyda chyfres murder mystery prin yn y Gymraeg, mae'n ôl! Neu, o leiaf mae Siwan Jones a Wil Garn wedi cael sêl bendith i ddechrau sgriptio yn barod ar gyfer ffilmio ym mis Mehefin. Fel y tybiwyd, stori, cymeriadau a marwolaeth newydd fydd sail yr ail, gyda chwmni yswiriant yn y brifddinas yn lle swbwrbia Caerffili. Croesi bysedd, gweddio, gobeithio y cawn nhw hwyl arni. Mae dilyniant i premiere anhygoel o lwyddiannus yn dalcen di-ddiolch o galed. Dw i'n deud dim (Broadchurch). Datganiad yma.

Losing Faith

“A critical acclaim and social media buzz” – The Times“A TV trailblazer… a delight to watch” – Grazia“Big Little Lies relocated to rural Wales” – The Guardian“A tale of organized crime and domestic strife” – The New York Times
She’s back!
"She" being our yellow mac’d mam-slash-sleuthing solicitor, who spent much of the first series driving back and forth along the stunning Carmarthenshire (and Southerndown) coast in search of errant hubby Evan, whilst singalonging with her kids, downing prosecco with the girls, being pursued by a dodgy cop straight outta Line of Duty and lapswchin’ with Mark Lewis-Jones. The rest of Britain know her as Faith Howells off Keeping Faith from last summer’s network hit (and smashed iPlayer as the 5th most popular TV programme of 2018) now with an added duck egg blue coat and killer heels.

We, however, are more familiar with Faith from Un Bore Mercher (One Wednesday Morning) on S4C starring a plethora of familiar faces like Rhian Morgan and Aneurin H…

Cometh the Awr

Sorry Vera and Les Mis. There’s a spanking brand new exciting Welsh language kid on the block to occupy our Sunday nights. Set in a bland courtroom and an eerie hotel in Bridgend County, 35 Awr (35 Hours, 8x60’, S4C) works its way back following the trials (boom! boom!) and tribulations of a jury thrown together to decide the fate of a troubled young man accused of killing his neighbour. Personally, the case itself plays second fiddle to the delicious mixture of members of the jury - an OCD librarian, randy accountant,  scarily silent fireman, gay travel agent, a student with a fuck y’all attitude - who wouldn’t normally look twice at each other, but who are forced to cooperate in Her Maj’s name. Here’s hoping that the wonderfully blunt Val (GillianElisa) Taz (Iestyn Arwel) and Moira (the evergreen Christine Pritchard) get their own spin-off show. FflurDafydd’s dialogue is utterly believable, flows like the Taff after a storm, and peppered with knowingly cultural references and jokes …