Cyfarchion y Tymor


Mae’r hen flwyddyn ar fin darfod. Sy’n golygu pwyso a mesur y deuddeg mis diwethaf wrth i’r eira ffug a s’lebs Nia Parry o wenog ymddangos mewn hysbysebion Dolig.  Bydd tomen o golofnau papurau Sul a rhaglenni yn tafoli’r gorau a’r gwaethaf o 2018 - boed yn nofel, drama deledu neu’n bersonoliaeth chwaraeon. Geraint Thomas aiff â hi siawns, wedi’i berfformiad ar Seiclo dros yr haf hirfelyn tesog. Edrychaf ymlaen weld at Siân Harries a Tudur Owen yn bwrw golwg ddychanol ar y byd a’i Brexit yn O’r Diwedd: 2018

Dim pwysa, hogia.

Mae gwobr gormodiaith y flwyddyn yn mynd i Keeping Faith, a ailddarlledwyd i’r genedl Brydeinig ar ôl i’r twitteratis feddwi ar Eve Myles â thwtsh o ystum OTT Britt Pobol y Cwm yn chwarae ditectif cot felen ar hyd a lled Talacharn. Pob Parch, ond ry’n ni wylwyr S4C yn gwybod bod pethau lot lot gwell yn hanu o’r parthau hyn. Fe ges i, a sawl un arall, ein llorio wrth i’r annwyl Fyfanwy (Carys Eleri) ein gadael yn ddisymwth ar ddiwedd y gyfres olaf. Mawr yw’r hiraeth am gymeriadau brith fel Mr Jarman, Oksana a Sheridan Milton-Morgan. Sgwn i beth ddaw i lenwi’r bwlch yn 2019, pan mae dramâu Cymraeg mor brin â straeon o sylwedd ar WalesOnline?  

Gwell peidio gwastraffu inc drud y Cymro yn sôn gormod am sioe ddartiau Oci! Oci! Oci! a ddarlledwyd yn hwyr nosweithiau Sadwrn. Roedd angen i rywun fod mor feddw â rhai o'r cystadleuwyr i’w gwylio. Mae Celwydd Noeth ar y llaw arall – ffrwyth cydweithio rhwng Cymru, Iwerddon a’r Alban - yn dal i blesio’n fawr, a llwyddodd rhaglenni dogfen fel Y Wal i roi golwg Gymraeg ar hylltra polisïau Trump, Israel a Gogledd Corea ymhlith eraill. Mae peryg i’r bedwaredd sianel Saesneg gyhuddo S4C o “deli-ladrad”, fodd bynnag. Naw wfft iddyn nhw am ddewis Leeds ar draul Ciardiff fel cartre’ pencadlys newydd Channel Four efallai. Dyna chi Gwesty Aduniad, awr emosiynol sy’n dod â theulu colledig, criw o ffrindiau neu gleifion rhyw nyrs arbennig, at ei gilydd mewn gwesty ym Môn, dan oruchwyliaeth ‘staff’ fel yr actores Gwen Ellis sy’n digwydd bod yn gwnselydd go handi. Nid bod pob elfen yn taro deuddeg chwaith. Trodd aduniad cyn-filwr rhyfel y Malvinas a chwaer ei ffrind a laddwyd ar faes y gad yn First Dates anghyfforddus mwya’r sydyn. Ac mae staff y bar a’r bwyty yn trio’n rhy galed i seilio’u hunain ar farmyn y gyfres Saesneg. Mae Dianc! yn drewi o Hunted braidd, lle caiff pâr gwahanol eu gollwng mewn safle anhysbys yng Nghymru, cyn rasio yn erbyn y cloc i ddatrys cliwiau a bachu mil o bunnau. Roedd hon yn f’atgoffa i o Helfa Drysor ym mabandod S4C, ond heb yr hwyl na’r gyllideb aruthrol i fforddio hofrennydd a Sioned Mair.

Un o uchafbwyntiau Radio Cymru eleni oedd rhaglen arbennig Rhyfelgan a ddarlledwyd ar Sul y Cofio. Beth bynnag yw’ch barn am yr adeg yna o’r flwyddyn – a’r arfer gynyddol, anghyfforddus, o drimio canol trefi â phabis enfawr a chyflwynwyr teledu dan orfodaeth i wisgo bling coch (heblaw am Adam Price a wisgodd pabi gwyn ar Heno) – roedd casgliad o ganeuon clasurol, gwerin ac emynau propaganda, a monologau dirdynnol Aled Jones Williams yn arbennig. Un o brofiadau mwyaf swreal y flwyddyn oedd gyrru lawr yr M5 i gyfeiliant y tenor Trystan Llŷr Griffiths yn morio ‘Mae’r ffordd yn hir i Aberaeron’ yn lle Tipperary. Ac oedd, mi roedd Radio Cymru Digidol yn glir fel cloch cyn belled â de Gwlad yr Haf. Mae’n gwbl farw i’r gogledd o Ferthyr.

Hei lwc i’r golygydd newydd Rhuanedd Richards â’i thasg ddiddiolch o blesio cynulleidfa Caniadaeth y Cysegr a Penwythnos Geth a Ger dan yr un donfedd.  Gobeithio y caiff air bach clên yng nghlustiau darlledwyr newyddion sy’n cyfieithu “National” yn slafaidd heb drafferthu deall y cyd-destun. Sawl gwaith bues i’n rhincian dannedd eleni wrth glywed sgolorion Cymraeg yn adrodd “Yswiriant Cenedlaethol”, “Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol”, “Canolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol” er mai pethau gwladol Prydeinig ydyn nhw. British Broadcasting Corporation neu beidio, mae’n hollbwysig ategu’r ffaith taw Cymru yw ein ‘cenedlaethol’ ni yn y flwyddyn newydd ansicr o’n blaenau.

Mwynhewch y gwylio a’r gwrando dros yr Ŵyl.