Gwlad yr Iâ. Gweriniaeth
Lychlynnaidd â phoblogaeth Caerdydd yng nghanol unigeddau gwyllt gogledd yr
Iwerydd. Lle mae pen dafad ar y fwydlen i’w olchi lawr â chwrw nawpunt y peint.
Gwlad gyfoethog ei chwedloniaeth a’i chariad at lenyddiaeth - gydag arferiad
hyfryd y jólabókaflóð (fflyd o lyfrau Nadolig - peidiwch â gofyn i mi ynganu) lle mae pob un wan jac yn rhoi nofel yn anrheg dan y goeden. Does
ryfedd mai Ísland yw’r wlad sy’n cyhoeddi’r nifer fwyaf o lyfrau yn y byd fesul
pen y boblogaeth. Gwlad o bensaernïaeth eiconig - mae cadeirlan goncrid
Reykjavik yn ffefryn personol – a rhaeadrau, ffynhonnau poethion ac anialdir du
sy’n debyg i greadigaeth CGI-aidd Hollywood. Ac yn y gogledd pell, 387km a
phedair awr a hanner o’r brifddinas, ail ddinas Akureyri a chartref Andri.
‘Pwy ddiawl?’ meddech chi. ’Ol Ólafur Darri Ólafsson 'de, Wyddfa o
blisman a chwaraeir gan Ólafur Darri Ólafsson. Croeso mawr yn ôl iddo fo ac ail
gyfres o Trapped ar BBC Four bob nos Sadwrn.
Roedd angen canolbwyntio cryn dipyn ar hon,
yn enwedig gyda phennod gyntaf llawn enwau egsotig-ddieithr lle mae pob Thór, Dagnýr
a Heiðar naill ai’n perthyn o bell neu’n meddu ar farf a siwmper ’sgotwr. Ond
sticiwch iddi a gadewch i’r dirgelwch a’r dirwedd anhygoel eich tywys am ddwy
awr ar y tro. Ac os na lwyddodd yr olygfa agoriadol o ddieithryn yn cofleidio
un o weinidogion y llywodraeth ar y stryd fawr cyn tanio petrol drostyn nhw, yna
ewch nôl i Noson Lawen.
Cawsom ein difetha’n rhacs gan thrillers
Ewropeaidd y penwythnos diwethaf, gyda chyfres newydd Baptiste ar BBC
One nos Sul. Cyfres newydd, ie, ond yn seiliedig ar brif gymeriad dwy gyfres o Missing
am y Ffrancwr cloff (Tchéky Karyo) sy’n sgut am ffeindio pobl ddiflanedig.
Wedi cyfresi blaenorol yng Ngwlad Belg a’r Almaen, yr Iseldiroedd piau hi’r tro
hwn, ac mae strydoedd pwdr Amsterdam yn gymeriad ynddo’i hun ochr yn ochr â’r
tramiau cyflym a’r enfys o diwlips. Cynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol gyda
phlethwaith o Ffrancwyr, Isdeldirwyr, Saeson a Rwmaniaid, a rhesiad o isdeitlau
i wylltio’r Rees-Mogg-garwr selocaf. Mae
’na flas Cymreig iddi hefyd, gyda Trystan Gravelle o Lanelli yn chwarae rhan
Greg, perchennog siop goffi a chymar Kim Vogel sydd SBOILAR! SBOILAR! wedi newid
ei rhyw.
Tydi ddim yn hawdd i’w gwylio ar
adegau - meddyliwch am gorff a llif gadwyn - ond pwy sydd isio bwyd llwy
syrffedus o Call the Midwife bob tro? Braidd yn llugoer fu’r adolygiadau
cychwynnol, ond wfft iddyn nhw, dw i wrth fy modd. A jyst fel ydych chi’n
dechrau coelio cymeriad, mae’r sgwenwyr yn llwyddo i sgubo’r carped o dan eich
traed.
Dw i’n dechrau ofni’r gwaethaf am Mme
Baptiste a’i hwyres fach yn barod...
- Trapped // BBC Four // Nos Sadwrn 9-11
- Baptiste // BBC One // Nos Sul 9-10