Dan glo




Gydag ailddarllediadau’n bla ar S4C ddiwedd Awst, rhaid troi at gyfryngau eraill am adloniant. Os ‘adloniant’ hefyd, achos dw i newydd orffen sglaffio (be ’di binge yn Gymraeg ’dwch?) cyfres frawychus pedair pennod ar Netflix, yn seiliedig ar ddigwyddiad go iawn. Drama ddogfen When they see us, yn olrhain ymosodiad treisgar ar fenyw ifanc yn Central Park Efrog Newydd 1989, a bywyd a theuluoedd y pum llanc ifanc du a Latino a gyhuddwyd ar gam wedyn. Pedair ar ddeg oedd yr ifanca, cerddor ifanc dawnus yn lle anghywir ar yr adeg anghywir, ac roedd y golygfeydd o’r ditectifs yn ei waldio’n gorfforol a geiriol, yn boenus drybeilig. Felly hefyd hysteria’r wasg a’r dyn busnes croenwyn oedd yn galw am ailgyflwyno’r gosb eithaf i’r dalaith. Meddai un o’r mamau wrth wylio’r dyn yn poeri’i wenwyn ar y bocs:
“They need to keep that bigot off TV...Don’t worry about it... His 15 minutes almost up”
Donald Trump oedd hwnnw.

Achos lawn mor anghredadwy, a thipyn nes adref, ydi testun podlediad Shreds y BBC - cyfres ddogfen a’m gadawodd yn fud nes dagrau bron, dros dair pennod ar ddeg.
Hanes lled-gyfarwydd am bump a garcharwyd ar gam am lofruddio Lynette White yn nociau Caerdydd, ar noson San Ffolant 1988 – pum dyn du, er mai llun o ‘distinctive white man’ gafodd ei blastro dros bapurau newydd a Crimewatch y cyfnod. Mewn gwirionedd, roeddwn i’n hollol anwybodus o'r hanes a ddaeth yn fyw diolch i waith ymchwil trylwyr y newyddiadurwraig Ceri Jackson – yn gymysg o gyfweliadau â’r rhai a arestiwyd, eu teuluoedd, cyfreithwyr, ditectifs Heddlu’r De, bwletinau newyddion a Panorama. Mae’r creithiau yno o hyd, sawl bywyd yn rhacs a chymuned glos Butetown wedi newid am byth. Sobor o beth oedd gweld John Actie wedi torri mewn sesiwn drafod adeg Cwpan y Byd Digartref Caerdydd fis diwethaf. Gobeithio’n wir y daw cyllid ffilm i’r fei er mwyn rhannu’r cywilydd cyfoes hwn â chynulleidfaoedd ehangach.



Roedd rhaglen ddogfen Radio Cymru yn ddiniwed, bron yn ddiddychymyg ei steil mewn cymhariaeth. Yn syml, atgofion pedair aeth i’r Carchar dros yr iaith yn y 1970au, wedi’u plethu â chaneuon protest Chwyldro a Dafydd Iwan. Serch y boen “fel rhwyg corfforol” o orfod gadael eu plant bach adref, a'r gwaharddiad ar siarad a llythyru’n Gymraeg, soniodd llawer am gydgarcharorion “digon ffeind” a “neis iawn”.  Y syndod mwyaf oedd y cyfeiriad at “lais hyfryd” y llofrudd plant Myra Hindley fu’n rhan o chwechawd canu Holloway hefo Enfys Llwyd a Meinir Francis. Ac er gwaethaf tristwch Angharad Tomos am y to ifanc newydd sy’n cymryd S4C mor ganiataol (nid bod Aur y Noson Lawen yn helpu’r achos), roedd hi’n teimlo’n fwy gobeithiol bellach o weld Prydain “yn dadfeilio”, a Chymru’n annibynnol.

Testun rhaglen ddogfen arall, heb os.


·         When They See Us Netflix
·         Shreds: murder in the dock BBC Sounds
      Carchar dros yr iaith Radio Cymru a BBC Sounds