Gwynt yr hydref ruai neithiwr...





Diwrnod cyntaf o Fedi. Diwrnod cynta’r hydref meterolegol, medd Derek Tywydd. Fy hoff dymor o’r flwyddyn, sy’n addo dyddiau braf ag awgrym o ias, y coed yn raddol gochi a melynu, mwg coelcerth yn yr aer, estyn siwmper Sarah Lund o gefn y wardrob a mynd am dro hir wedi boliad o gwstard a chacen mwyar duon. 

Dyna’r ddelfryd. 


Mewn gwirionedd, slwtsh dail a baw cwn ar lwybr y Taf, draeniau’r ddinas yn gorlifo, cagŵl methu dal dŵr, a’r siopau mewn sterics Dolig-cyn-Calan Gaeaf. Ond i fi, mae’n esgus perffaith i fod yn slebog soffa heb deimlo’n euog am beidio bod allan yn yr ardd. A diolch i’r drefn, mae BBC Four wedi rhoi’r gora i’w nonsens Eidalaidd a chanolbwyntio ar ei USP – Scandi Noirs. Y tro hwn, Den som dræber neu Darkness: Those who kill i ni dramorwyr na chawsom y fraint o’n geni’n Ddaniaid. Hanes Jan Michelsen (Kenneth M. Christensen, wyneb cyfarwydd i ffans Legacy Sky Arts ers talwm), yr unig ymchwilydd Politi lleol sy’n dal i gredu bod merch ifanc o’r enw Julie Vinding aeth ar goll o un o faestrefi Copenhagen chwe mis yn ôl, yn dal ar dir y byw – ac felly’n cydweithio â’r proffilwraig Louise Bergstein (Natalie Madueño) i gael y maen a’r mord i’r wal. Cyn hir, mae ’na ferch arall ’run sbit â Julie yn cerdded ar ei phen ei hun dan oleuadau stryd gwantan yn oriau mân y bore oer, cyn diflannu’n ddisymwth i gefn fan. Tydi’r genod ’ma heb ddysgu dim o wylio The Killing dwch?!

Diwrnod cyffredin arall yn ardal y llynnoedd Denmarc


Fel pob cyfres Lychlynnaidd gwerth ei halen, mae yna ddigon o greu awyrgylch iasol - fforestydd tarthog, tanlwybrau’n drwch o graffiti, arwyddgan atmosfferig (Saesneg) ditectif trwblus yn ei 40au sydd ar fin ysgaru ac yn rhannu fflat-drewi-o-fyfyrwyr-mwg-drwg. Ond cyfres Gymraeg ddaeth i’r cof wrth i’r ddwy bennod gynta fynd rhagddynt. Coedwigoedd tywyll? Dyn cythryblus wedi’i fwlio hyd ei oes gan ei fam? Merched yn cael eu cadwyno’n anifeilaidd? Mwy o bwyslais ar ‘pam’ yn hytrach na ‘phwy’, gan ein bod ni a’r ditectifs eisoes yn gwybod pwy sydd wrthi. Mae’r gymhariaeth â Craith ond gyda lampau drudfawr yn syfrdanol, ac o gofio bod cyfres gynta’ honno wedi’i ffilmio yn ystod haf 2017, a’r cynhyrchwyr Danaidd yn comisiynu Those who kill tua’r gwanwyn 2018, mae yna achos cryf dros sgrînladrad yma.

(Deja vu)

Ond hei! mae gwreiddioldeb yn brin yn yr oes amlsianel a chwalu ffiniau (’blaw Merica a Phrydain o bosib), a phawb yn prysur addasu neu hogi hen hen syniadau. 

Ac mae yna wastad groeso cynnes i bopeth Sgandi yng nghalon y Cymro bach obsesiynol hwn.