Mae’r BBC wedi mynd yn rhy bell rŵan. Yn
ein cadw ar binnau, a’n herian efo hysbysebion o’r gyfres ddrama am dditectifs
honco Paris - Spiral, neu Engrenages i chwi Francophiliaid. Mae’r
Ffrancwyr lwcus wedi gweld y seithfed gyfres ers mis Chwefror - ie CHWEFROR - a
ninnau i fod i’w chael rhywbryd cyn Dolig. Nadolig eleni, gobeithio. Achos byth
ers i’r gyfres hynod ddu o Ddenmarc orffen wythnos diwethaf, dw i wedi bod yn
tyrchu drwy’r Radio Times am gadarnhad. ’Sdim sôn amdani’r wythnos hon na’r
nesaf beth bynnag, gyda ffilm Sbaenaidd gan Pedro Almodovar a ffilm hanesyddol
o Norwy’r 1940au yn hawlio slot naw o’r gloch nos Sadwrn BBC Four.
Mynadd!
Anturiaethau a charwriaethau rhemp Laure Berthaud a Gilou Escoffier ry’n ni
eisiau ei weld, heb son am yr arch-gynllwynwraig bengoch Joséphine Karlsson sydd bellach dan glo am ladd ei threisiwr, a’r
barnwr doeth Francois Roban sy’n raddol ddirywio o ran iechyd. Mae’r trelyrs yn
awgrymu ei bod hi’n ta-ta Tintin wrth i’r hen dditectif gael ei glwyfo gan ei
ysgariad a’i ddadrithio gan ei bartneriaeth hir oes â Gilou a Berthaud. A beth
ydi hanes babi Romy erbyn hyn, wedi i’r fam newydd Berthaud sgrialu mewn panig
o’r ’sbytu rhag tedi bêr panda anferthol Gilou a chyfrifoldebau teuluol ar
ddiwedd cyfres chwech?
Dw i’n gobeithio, yn gweddïo, mai Hydref y deuddegfed fydd y première...
Yn y cyfamser, mae yna ddigon o gyfresi
tramor i’ch cadw’n ddiddig, diolch yn bennaf i wasanaeth ffrydio ardderchog Walter Presents.
The Lawyer (Advokaten) - un arall o stable Frans Rosenfeldt, sydd heb cweit
lwyddo i gyrraedd uchelfannau The Bridge eto (a gorau po leiaf ddwedwn i
am ei gyfres Brydeinig Marcella ar ITV). Cyfres deg pennod am dwrna
ifanc o’r Frank a’i chwaer drwblus a’r blismones Anna, sydd mewn dyfroedd
dyfnion iawn ar ôl dod wyneb yn wyneb â’r prif droseddwr fu’n gyfrifol am osod
bom dan gar eu rhieni flynyddoedd maith yn ôl. Gyda chyffro, cymhlethdodau a
digon o olygfeydd o’r Bont eiconig rhwng Malmö a København!
Guardian of the Castle (Čuvar Dvorca) - cyfres o Groatia y tro hwn, y brifddinas Zagreb yn benodol a thriller gwleidyddol o ganol yr 1980au mewn oes pan oedd
Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia yn dal ar fap y byd. Hanes Boris
Biscan, dyn unig yn ei chwedegau, biwrocrat mawr y blaid sy’n dal i warchod y
gorffennol a’r wladwriaeth i’r byw mewn byd modern sy’n prysur geisio’i
ddisodli - yn llawn sbïwyr Traws-ewropeaidd, saethwyr cudd, ffasiynau uffernol
a chymeriadau-smocio-fel-stemar. Mini-gyfres pedair pennod yn unig, yn
ddelfrydol i’w mwynhau mewn dim o dro.
Thou Shall Not Kill (Non uccidere) - yr Eidal sy’n galw’r tro ma, a dinas
bictiwresg Torino sy’n gymaint o gymeriad ynddo’i hun, diolch i’r gwaith camera
godidog - gydag amgueddfa’r Mole Antonelliana yn tyrru dros y ddinas, a’r Alpau
yn y cefndir - heb sôn am bencadlys baróc y polizia lleol sy’n gartre i Valeria
Ferro (Miriam Leone). Wrth gwrs, mae ’na lofruddiaethau i’w datrys hefyd heb son
am strach a stryffig personol gan gynnwys cysgu efo’r bos. Un o gyfresi mwyaf
chwaethus eleni, heb os, wedi’i phecynnau mewn penodau awr a hanner yr un.
Draw ar netflix, mae yna berl o thriller
Daneg. Hanes heddwas Asger Holm (Jakob Cedergren) fu’n hogyn drwg ar y ffrynt
lein, ac sydd wedi’i neilltuo i uned galwadau brys København øst wrth aros am
ei achos llys. Ac yno mae’r ffilm wedi’i leoli am 85 munud gron gyfan. Na,
peidiwch â jibio, mae’n wir werth sticio iddi. Mae rhwystredigaeth ei shifft
ddiflas o ateb galwadau gan foi off ei ben ar gyffuriau neu feiciwr wedi cael
codwm meddwol yn prysur droi’n un llawn tensiwn, a ninnau ar binnau gydag e,
wrth i Asger dderbyn galwad gan fam ifanc sy’n dweud iddi gael ei herwgipio o’i
chartref a’i phlant bach. Mae’r cloc yn tician, y seibiau'n boenus, ac Asger yn dibynnu ar lygaid a
chlustiau eraill wrth i ddifrifoldeb y sefyllfa ei daro - gan dorri’r rheolau a
llusgo eraill i weithredu drosto. Ond dyw pethau ddim cweit fel maen nhw’n
ymddangos, ac mae’r diweddglo’n dorcalonnus. Fe welais i hon mewn un eisteddiad
ar fws blinderus o Lundain i Gaerdydd, a wir, fe hedfanodd y siwrnai. The Guilty ydi’i henw gyda llaw, ac
mae Hollywood am ei haddasu gyda Jake Gyllenhaal wrth y llyw.
Fydd honna ddim hanner cystal. Da chi, gwyliwch y gwreiddiol.
Fydd honna ddim hanner cystal. Da chi, gwyliwch y gwreiddiol.