Diolchgarwch dramatig


Mae’n dymor diolchgarwch i’r capelwrs o’ch plith, cyfnod traddodiadol i ganu “deuwn ger dy fron yn awr” i ddiolch am y cynhaeaf, a sawl set fawr wedi’i haddurno â basgedaid o ffrwythau, llysiau a bara beunyddiol. Ac mae’n gyfnod ffrwythlon iawn i ni Lygaid Sgwâr hefyd. Rŵan, dwi ddim yn foi cymdeithasol ar y gorau ond mae’r myrdd o gyfresi newydd ma’n fy ngwneud i’n fwy o feudwy na’r arfer.



Mae nosweithiau Sadwrn eisoes yn sanctaidd, gyda seithfed cyfres ddrama Spiral, allforyn gorau Ffrainc ers Cantona. Os ydych chi’n gobeithio am ddelweddau neis-neis o boulevards coediog a chafé-bars chwaethus dan gysgod tŵr Eiffel, fe gewch eich siomi. Achos Paris ar y cyrion sydd yma, llawn blociau fflatiau di-raen, iardiau sgrap, haid o hwdis Arabaidd a duon, traffickers rhyw a wardeiniaid carchar sy’n sleifio hash gyda’ch baguette boreol. Ac yn eu plith, uned yr heddlu sy’n sgrialu rownd y lle mewn Clios tolciog pan nad ydyn nhw’n diawlio neu’n boncio ei gilydd cyn dychwelyd i’r gwaith oriau’n ddiweddarach â rhyw agwedd je ne sais quoi. Mae’n gyffrous, yn emosiynol (da chi wir yn ’nabod ac yn malio am y cymeriadau – gweler perthynas dymhestlog Laure a Gilou, neu un gynnes Laure a’r Barnwr François Roban) ac yn agoriad llygad i system gyfiawnder gymhleth, weithiau llwgr, Ffrainc. Yn gydgynhyrchiad rhwng Canal+ a BBC Four, mae’n enghraifft brin o gydweithio Eingl-Ffrengig ac rhagori ar lot o bethau Saesneg-yn-unig. 

Tybed ydi Boris yn gwylio?



Nos Sul wedyn, mae dogfen a drama’n cyd-daro am naw o'r gloch. Draw ar BBC Two, mae gynnoch chi The Americas with Simon Reeve gyda’r awdur a’r ecolegydd brwd. Ac fel cyfresi blaenorol o Rwsia, Iwerddon, Awstralia a Môr y Canoldir, does ganddo ddim ofn dangos y drwg yn ogystal â’r da. Rydyn ni eisoes wedi cael gwledd i’r llygaid ac ambell ’sgytwad - o ddadmer difrifol rhewlifoedd Alaska i argyfwng cyffuriau dinas lewyrchus Vancouver; yr heriau o fod yn gowbois-ffermwyr Montana ac ailgyflwyno’r byfflos ac eryrod aur i’r gwyllt, a diwydiant carchardai Colorado mewn gwlad lle mae cyfwerth â chwarter holl boblogaeth y byd dan glo. Cyfres sy’n ategu’r ffaith ’mod i’n hiraethu am rywbeth tebyg yn y Gymraeg. Yn eironig, roedd S4C yn ailddarlledu Gwanas i Gbara (2010) yn hwyrach yr un noson. 




Ar BBC One wedyn, dilynwn hynt a helyntion tri pherson ifanc ar drothwy’r Ail Ryfel Byd a thu hwnt yn World on Fire wrth i’r goresgynwyr Natsïaidd newid eu byd am byth. Cyfres berffaith, byddech chi’n tybio, i’r brexitiaid sy’n synfyfyrio’n orgasmig am bopeth Ymerodrol Churchillaidd ar hyn o bryd - ond cyfres sydd hefyd yn pwysleisio brwydrau’r Pwyliaid yn erbyn eu goresgynwyr ciaidd. Wedi’i ffilmio’n Manceinion a Prâg, mae manylion ffasiwn y cyfnod a’r ffasiwn lanast yn rhyfeddol, a’r straeon personol yn torri calon rhywun serch y darnau Mills a Boonaidd ar brydiau, a Sean Benn bron yn wawdlun o yrrwr bws dosbarth gweithiol gogledd Lloegr.



Nos Lun a nos Fawrth, cyfres dditectif newydd sy’n galw gyda deryn syndod o brin –drama o’r Ynys Werdd. Alla i ddim cofio’r tro diwethaf i mi wylio drama Saesneg o Iwerddon, heblaw Jack Taylor efallai gyda’r sgotyn Iain Glen yn chwarae rhan y cyn-garda alcoholig o Galway. Mae The Dublin Murders yn seiliedig ar nofelau poblogaidd (meddai amazon) Tana French, gyda’r heddlu ar drywydd llofrudd balerina ifanc wedi’i gadael wrth allor garreg hynafol mewn coedwig ger y brifddinas (as iŵ dw) yn 2006, pan oedd y 'Teigr Celtaidd' ar dân. Ac fel pob stori dditectif gwerth ei halen ystrydebol, mae gan y lleoliad ryw ystyr hanesyddol poenus i’r ditectifs Cassie Maddox (Sarah Greene) a Rob Riley (Killian Scott). Serch fersiwn y Gorfforaeth Ddarlledu Seisnig, mae’r actor Killian Scott yn mynnu bod yna deimlad Dulynaidd i’r cyfan - er bod cryn dipyn ohoni wedi'i ffilmio dros y ffin ym Melffast.

"As for the version of Dublin that is portrayed, we see tightly-knit small communities completely unravel due to a local incident, in this case a murder. That element was particularly Dublinesque for me...  the show also doesn't romanticise Dublin, it shows the gritty, dark underbelly of the place... there is also this mythical quality to Dublin Murders, there is an ominous presence, you start to get this idea that these woods are somehow alive”.

Dw i’n edrych ymlaen yn fawr iawn at y Craith Gwyddelig hon.




’Sdim modd osgoi Siapan ar hyn o bryd, rhwng rhyw dwrnamaint chwaraeon a rhaglenni di-ri gyda Gareth Rhys-Owen, Sue Perkins a Joanna Lumley. A bydd cywaith arbennig rhwng BBC Two a Netflix ymlaen bob nos Iau sy’n ennyn chwilfrydedd – thriller rhyngwladol Giri/Haji (“Dyletswydd/Cywilydd”) sy’n pontio Tokyo a Llundain. Ynddi, mae’r ditectif a’r dyn teulu Kenzo (Takehiro Hira) yn hedfan i Brydain i chwilio am ei frawd gyda chymorth Sarah (Kelly Macdonald) o Heddlu'r Met, ond mae’r personol a’r proffesiynol yn cymhlethu pethau wrth i’r ddau ddisgyn dros eu pen a’u clustiau mewn rhyfel gangiau. Un arall sy'n swnio'n hynod ddifyr, a bydd y metropolis neon yn siwr o ychwanegu lliw a bwrlwm i'r cyfan.