"Mae yna bobl clên allan yna"


Am chwarter i hanner nos, 29 Chwefror 2016, cysylltodd Heddlu’r Gogledd â chriw achub mynydd Aberglaslyn. Gofyn am gymorth oedden nhw i chwilio am lanc deunaw oed ar goll. Un o aelodau’r criw oedd Dion Llwyd, a’r hogyn dan sylw oedd ei fab Josh Llwyd-Hopcroft o Lanfair ger Harlech. Buon nhw wrthi tan oriau mân y bore canlynol, heb lwc. Ar doriad gwawr, aeth Dion allan i chwilota ei hun, cyn dod ar draws ei fab am 8.30 y bore. Canfuwyd ei gorff mewn cae ger cartre’r teulu. Roedd wedi gwneud amdano’i hun.

Tair blynedd yn ddiweddarach, ac roedd ei deulu eisiau cymorth i gwblhau cwt yng ngwaelod yr ardd er cof am Josh. Caban cwnsela, lle cartrefol i siarad dros baned a chacen yn hytrach na mewn awyrgylch clinigol. Hafan â golygfeydd godidog dros ddyffryn Ardudwy a’r môr. Achos, fel y dywedodd Dion a Sue ei wraig trwy lwmp yn eu gyddfau, roedden nhw’n teimlo wedi’u hynysu yn eu galar ac felly am sicrhau cymorth a chysur i eraill yn yr un sefyllfa dorcalonnus.



Ac wele Trystan ac Emma, fel gwenyn prysur teitlau agoriadol Prosiect Pum Mil, a’u byddin o helpars a’r dylunydd Gwyn Eiddior. Doeddwn i ddim yn wyliwr brwd iawn o’r fam gyfres briodasol, BAFTAidd, ond roedd hi’n gryn ffefryn gan sawl cydnabod. Y tro hwn, fel DIY SOS ar dipyn llai o gyllideb, mae’r ddau’n teithio ledled y wlad i weithio ar brosiectau cymunedol dros benwythnosau. ’Sdim dwywaith bod nhw’n dîm da, yn asio’n ogleisiol hefo’i gilydd a bellach wedi bachu slot cyflwyno ar donfeddi Radio Cymru rhwng unarddeg a dau bob dydd Sadwrn. Ac fel pob cyflwynydd teledu gwerth ei halen, does ganddyn nhw ddim ofn dangos eu hemosiynau fel bo'r angen. Ac wedi’r her o osod cegin yn y caban, chwalu concrid i blannu blodau gyda garddwr Portmeirion, codi wal sych hefo ffrind ysgol Josh, gosod giât enfys symbolaidd a chodi cerflun anhygoel o oleudy a broga (gwyliwch i ddeall y cyd-destun) - mae’r teulu a ffrindiau’n dod ynghyd i gofio a chofleidio. Gyda’r rhan fwyaf yn cyfrannu am ddim, dyma gyfres berffaith i’n hatgoffa am ddaioni'r hen fyd ’ma hyd yn oed os nad ydi’n gwleidyddion yn brawf o hynny.

Gwylio gwirioneddol dwymgalon felly, coffadwriaeth dda i Josh, a dangosiad amserol iawn adeg Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Siaradwch da chi. 

Achos fel y dywedodd Emma, “mae yna bobl clên allan yna”.



Mae’n debygol fod y criw cynhyrchu yn chwilio am fwy o heriau’r flwyddyn nesaf, yn ôl blyrb S4C: 

Bydd cyfres arall o Brosiect Pum Mil flwyddyn nesaf ac mae’r cwmni cynhyrchu Boom Cymru yn chwilio am brosiectau cymunedol uchelgeisiol i gymryd rhan. Os ydych chi yn gwybod am brosiect sydd angen help, cysylltwch â Boom Cymru drwy ymweld â’u gwefan: www.boomcymru.co.uk/ ffurflen-gais-prosiect-pum-mil