Pen-blwydd hapus, Pobol!




Mae cyfres sebon hyna’r BBC ar y teledu – mewn unrhyw iaith – yn 45 mlwydd oed. Naw wfft i’r cocnis, Cwmderi sy’n ben! Ac ar ôl deall hynny, dyna glicio wedyn PAM mae yna gymaint o fynd ar Pobol y Cwm ar hyn o bryd. Ffrwydrad nwy yn y Salon (voodoo'r Cwm heb os er llofruddiaeth Sheryl), gyda goblygiadau pellgyrhaeddol i Dani, Sioned, Tyler, Sara a Dylan (a Jason). Gyda'r adeilad bellach yn rhacs jibiders, hwyrach y cawn ni siop e-sigarets (Deri Vape-io?) neu siop elusen arall rwan, fel pob stryd fawr gwerth ei halen yn brexitshire.


@pobolycwm


Cyfaddefiad. Dw i heb wylio’n gyson ers wythnosau. Do, dw i wedi eistedd o flaen y bocs am wyth o’r gloch sawl nos Wener dim ond i weld gêm fyw Llanbedinodyn Rangers yn erbyn Cwmsgwt FC. Ydy, mae amserlen newydd S4C wedi ’nrysu i’n rhacs. Clic neu Iplayer amdani. 

Ond roedd hysbysebion y cyfryngau cymdeithasol yn addo pethau mawr, felly dyma ddychwelyd i’r Cwm yn nosweithiol am unwaith. Gan gychwyn gyda phennod “wîyd” nos Lun, chwadal fy nai wyth mlwydd oed. Ynddi, roedd Sioned Rees yn cerdded yn freuddwydiol o amgylch ffermdy a buarth ei mam mewn rhyw ffrog angylaidd o wen. Iaaaaaaaawn, oce, meddyliais. Cyn hynny, yng nghliffhangyr nos Iau cynt (sef y nos Wener newydd yn nhermau amserlen newydd ddryslyd S4C) roeddem wedi gweld enfant terrible Penrhewl yn llowcio pils a chlecian jin cartre’ organig Eileen. Nos Lun wedyn, mae’n syllu'n hiraethus ar hen luniau’r teulu (Denz! Anti Marian! Anti Gina! Anti Meira!) ac yn chwarae gêm o truth or dare gydag Eileen a llanc ifanc, sef – erbyn deall – ei hefaill John (Siôn Emyr), a fu farw yn y crud dros chwarter canrif yn ôl. Hyn oll i gyfeiliant cerddoriaeth biano, mewn cyfres sydd BYTH yn cynnwys sŵn cefndir heblaw ambell Elin Fflur ar jiwcbocs y caff. Erbyn inni ddychwelyd at bipian y peiriant cynnal bywyd, a’r Sioned angylaidd yn syllu ar Sioned y ddiafoles yn ward Casualty, deallwn wedyn mai rhyw limbo oedd hanner cynta’r bennod, a bod lleisiau’r gorffennol yn ei gwawdio i gallio os oedd hi eisiau byw. 

Trueni na lwyddodd y cynhyrchwyr i ddenu Gwyn Elfyn yn ôl am un wopar o bennod swreal. Mae Eileen heb Denz fel bîns heb dost. Sori, Jim. Gyda llaw, be' ddiawl ma hwnnw'n neud yn NZ o bob man y dyddiau hyn? Dw i wedi colli'r plot arall yn rhywle.



Sioned Rees (Emily Tucker) ydi un o gymeriadau gorau’r Cwm, chwip o actores sy’n llwyddo i ennyn cydymdeimlad a blydi gwd shiglad yr un pryd. Cymeriad mor eiconig nes bod ganddi’i thudalen Facebook ei hun dan y teitl ‘MAE SIONED REES POBOL Y CWM YN HAEDDU SLAP’. Creodd gymaint o lanast nes ’mod i’n disgwyl i Met Éireann fedyddio storm ar ei hôl. Cyffuriau, rhyfeloedd cartref gyda’i mam, trais domestig yn erbyn ei gŵr, caru gyda’i hanner cefnder, treisio, cyffuriau, sefydlu-a-chwalu sawl busnes, cario plentyn Gary Monk, pwl o garchar, mwy o gyffuriau, herwgipiad, ffeit gyda'i mam...

Beth arall sy’n bosib i’r cymeriad lliwgar hon? 

Sbinoff Saesneg Sioned and The City ar BBC Wales, gydag ambell gip a chyfeiriad at Gwmderi bob hyn a hyn i ddenu mwy fyth i wylio’r fam-gyfres ar S4C wedyn?

Diflannu i grombil llong ofod mewn lei-bai ar heol Llanarthur? 





Ac unwaith eto, Sioned Charles-Rees sydd wedi sbarduno daeargryn diweddara' Pobol. Yr wythnos hon, mae’n debyg fod stori fawr y flwyddyn yn dod i fwcl. Ewch nôl i fis Gorffennaf a pharti drwgenwog fflat y caffi, pan gymerodd Ricky E’s yn ddamweiniol o baced parasetemols ym mathrwm Sioned, a hedfan i’w goma o ben to Siop y Pentref. 

Dros yr wythnosau canlynol, wrth i Mark Jones ei dad (postmon pat parchus heddiw ond cyn-ddeliwr yn ei ddydd) chwarae ditectif am waed y gwerthwyr cyffuriau gan amau Garry Monk a hyd yn oed Kath ei fam, daeth i’r amlwg yn raddol mai Debbie - gwraig Mark, mam Rickaaay - oedd y dosbarthwr cudd desbrét am arian i dalu am ei phriodas a bywyd coleg Ricky. Â'i heuogrwydd yn ei bwyta'n fyw, trosglwyddodd yr awenau i Gwyneth Jones (sy’n mynd ben-ben â Sioned am deitl Cymeriad Mwyaf Amhoblogaidd y Cwm) a oedd yn desbrét am gash i brynu’r Salon a ddygodd oddi wrth Sheryl (RIP) yn y lle cyntaf.

Ydych chi’n dal efo fi?

Yng nghanol hyn i gyd, ac yn ystod yr wythnosau a gollais, mae pawb (Ffion, Geinor, Izzy, Tyler) yn rhyw alaru-gyfeirio at ddisgybl o’r enw Jamie fu farw o orddos. Ac mewn pwl o wendid dainous, aiff Sioned at yr heddlu - wel, CID Janet Aethwy - i ddatgelu taw rhywun o’r enw Jesse (Siân Beca, Cathryn Rownd a Rownd gynt) ydi’r pen bandit tu ôl i hyn i gyd. Yn anffodus, dyw’r heddlu aka Janet Aethwy ddim yn gallu ffeindio Jesse serch y lliw gwallt mwyaf anghynnil y tu draw i Bont Abram, ac mae sawl bywyd yn y fantol.

Teulu da. Bechod am y jympyrs

Yn y cyfamser, mae'r teulu Parri wedi ennill eu plwyf. Dyna chi dad a mab syndod o debyg (castio da!), Mali Harries ar secondiad o'r Archers a Lois Meleri-Jones yn ymuno â'r rhestr anrhydeddus o Gogs sy'n llwyddo i argyhoeddi'n llwyr fel Hwntws. Ac wedyn Sharon Morgan sy’n actio’r fam-yng-nghyfraith ddireidus Brenda, ei thrydydd cymeriad gwahanol yn y gyfres. Mae gen i frith gof o Sylvia Bevan (1984-87) gwraig gyntaf Stan, ond nid Siân Jones yr athrawes (1978). 

Chwarae teg, ’mond pedair oed oeddwn i.


Beth Robert yn cynllwynio cymbac arall

Ac mae wynebau cyfarwydd fel Cassie Morris a Lisa Morgan yn dal i gadw cysylltiadau’r gorffennol yn fyw, gyda'r naill bellach yn awdures Fifty Shades of Gray Cymraeg a’r llall yn un o ferched y nos (“sex worker yw’r term dyddie ma”) er mwyn fforddio lle i’w mam yng nghartre gofal Brynawelon. Ac ydy, mae’r hen gi o Gynghorydd Hywel Llywelyn wedi cael ei fachau ar y ddwy eto.

Gymaint yn digwydd, cymaint o gwestiynau. Ond gyda'r gyfres i fod yn seiliedig ar Gwm Gwendraeth, y peth mwyaf sy’n peri penbleth i mi ar hyn o bryd yw hyn:

Ble iyffach mae’r byntings rygbi a’r cyfeiriadau at Gwpan y Byd yn y Deri Arms?

"Wel y jiw jiw.
Sa i'n gwbod beth sy' di dicwdd i'r Cwm, nagw i wir"