Evans Above!





“All Hollywood wneud acen Gymreig lwyddiannus?” ydi cwestiwn Cymru Fyw ar hyn o bryd.

Na.

Hyn yn sgil hys-bys ffilm ddiweddar Dolittle, a ffilmiwyd ar Bont y Borth ac sy’n cael ei llywio gan Robert “butty” Downey Jr mewn acen sydd wedi ffwndro’r Americanwyr heb sôn am feirniaid-nes-adra. Yn ol pob tebyg, mi gafodd "gymorth" gan yr hyfforddwr lleisiol a’r actor Tim Treloar o Ben-y-bont (na, na fi chwaith). Rhaid piciad i’r pics cyn barnu'n llawn, er bod yr adolygiadau cynnar yn awgrymu nad yr Acen ydi unig smonach y ffilm.


Pont y Borth, Hollywood style


Ac nid Hollywood ydi'r unig ddrwg yn y caws chwaith. Cafwyd penderfyniadau castio uffernol ar deledu Prydain yn ddiweddar, ac mae’r enghreifftiau lu wedi cael hen gormod o sylw. Cyn hir, cawn weld sut fydd yr Awstraliad Toni Collete yn siapio fel Jan Vokes, barmed go iawn o Fforest-fach Abertawe a gafodd lwyddiant anhygoel fel aelod o syndicêt ceffyl rasio’r Grand National ac ysbrydoliaeth ffilm fawr Dream Horse Warner Brothers dan gyfarwyddyd Euros Lyn. Gyda llaw, mae yna gyfweliad hynod ddifyr gyda'r dywededig grefftus Mr Lyn ar raglen Stiwdio Radio Cymru.




Sgwn i hefyd sut hwyl gaiff y darpar-Fond o Swydd Efrog ar bortreadu'r gohebydd ifanc dewr o'r Barri a ddatgelodd erchylltra newyn 'holodomor' yr Wcráin adeg Stalineiddio economi'r 1930au. Mae hanes Gareth Richard Vaughan Jones (1905-1935) wedi 'nghyfareddu erioed ers gwylio ffilm ddogfen S4C flynyddoedd yn ôl (siawns am ailddarllediad?), a dwi'n mawr obeithio y caiff Mr Jones ddangosiad helaeth mewn sinemâu ar hyd a lled y wlad. Yn gynhyrchiad Pwylaidd dan gyfarwyddyd Agnieszka Holland, mae yna bytiau o ddeialog Cymraeg ynddi hefyd ochr yn ochr ag Wcreineg, Saesneg a Rwsieg.



Ond gydag ochenaid enfawr o ryddhad y clywais am gyhoeddiad diweddar ITV am benodi’r llanc o LA-via-Aberbargoed yng nghyfres ddrama arfaethedig The Pembrokeshire Murders. Mini-series yn seiliedig ar achos a llyfr ffeithiol yr uwch dditectif Steve Wilkins (Luke Evans) a Jonathan Hill o ITV Wales (i’w chwarae gan y Gwyddel David Fynn). Cyfres am y llofrudd John Cooper (y cocni gwrth-Gymraeg o Gorseinon, Keith Allen) a laddodd bedwar o bobl ym mhen draw’r gorllewin ddiwedd yr 1980au – ac a gafodd ei ddal yn fuan ar ôl cystadlu ar sioe gwis Bullseye. Ydy, mae bywyd go iawn yn fwy honco na’r dychmygol weithiau.

Jim Bowen a'r llofrudd John Cooper

Y newydd da arall yw mai’r ddeuawd Cymraeg profiadol Mark Evans ac Ed Talfan sy’n cyfarwyddo a chynhyrchu’r gyfres o dair dan nawdd Llywodraeth Bae Caerdydd. Luke Evans, gyda llaw, ydi hyrwyddwyr Croeso Cymru a hysbysebion Chwe Gwlad BBC Wales ar hyn o bryd. Ac mae'n newid braf ar ol cael Mark Lewis Jones (a phob parch) yn actio'r Cymro stoc ym mhob cynhyrchiad Saesneg yn ddiweddar, gan brofi i'r Brits, oes, MAE yna fwy o dalent ar gael yn y parthau hyn.