Dal i fyny




Cyfres achlysurol sy’n cynnig pum peth sy’n werth dal i fyny â nhw, yn fy marn fach ddibwys i. Pethau i roi cynnig arnyn nhw os ydi teli arferol yn sobor o sâl.

Wisting (BBC Four) Does yna dal ddim pluen o eira eto’r gaeaf hwn, ond roedd penodau cynta’r gyfres dditectif hon o Norwy yn llawn lluwchfeydd a chyrff wedi’u dympio mewn hen ffynhonnau. Neis. Ac os nad ydi pethau’n ddigon heriol i William Wisting (Sven Nording), gwr gweddw ac uwchdditectif yn Larvik ar lannau de-ddwyreiniol Norwy, sydd hefyd yn wynebu achos disgybl r’ol carcharu’r llofrudd anghywir – mae ei niwsans o ferch Line (Thea Green Lundberg) yn dychwelyd adre i hel sgandals ar ran un o dabloids Oslo a pheryglu’i hun bob gafael.

Thea Green Lundberg


Gwesty Aduniad (S4C Clic/iPlayer) Mae’r gyfres bresennol newydd orffen, ond yn dal ar gael i’w ffrydio. Anghofiwch am y fformat braidd yn ffals - gwesty moethus ym Môn llawn actorion rhan-amser yn seilio’u hunain ar weinyddion First Dates, a’r rheolwraig lleiaf cynnil ers Sybil Fawlty (“Da chisho tissues rwan does” a “Newyddion da.... da ni ’di darganfod bod gynno chi bedwar brawd ag un chwaer goll... ond ma nhw i gyd di marw”). Y gwesteion sy’n cyfri, ac mae rhai o’r hanesion yn gwbl dorcalonnus - megis y gŵr a’r gwraig o’r Blaenau sy’n daer i ddysgu mwy am eu tadau a’i heglodd hi pan oedden nhw’n blant bach.

Killer Inside: The Mind of Aaron Hernandez (Netflix) Mewn sianel llawn dop o straeon trosedd ffeithiol, mae hon wedi gafael. Hanes trist am seren pêl-droed Americanaidd o dras Puerto Ricaidd, a ymunodd â’r New England Patriots ar gontract $40 miliwn - ond a arestiwyd dan amheuaeth o saethu dyn yn gelain. Mae’r ddogfen yn holi ffrindiau a theulu Hernandez, yn defnyddio lluniau CCTV a chlipiau’r achos llys go iawn, ac yn olrhain ei fagwraeth dymhestlog. Os ydych chi'n sgut am ddogfennau tebyg, mae gan All4 un am ficer ifanc-dan-hyfforddiant aeth ar sbri gwenwyno dau o bobl oedrannus yn Swydd Buckingham, ar ol ennyn cyfeillgarwch a meithrin perthynas afiach efo nhw. Mae'r ffilm awr a hanner Catching a Killer: A Diary from the Grave wir yn codi ias.



Deadwood Fell (All4) Drama ddirdynnol 4 rhan am deulu cyfan sy’n trengi mewn tân yn eu cartref, a’r pwyntio bys cymunedol yn sgil hynny - yn enwedig ar yr unig oroeswr, y meddyg teulu Dr Tom Kendrick (David Tennant). Mae’n actor ysgubol, sy’n gallu dweud cyfrolau â stumiau’n unig wrth ymdrin â themâu anghynnes fel alcoholiaeth, cam-drin meddyliol, torcalon IVF a mwy o affêrs na’ch sioe sebon arferol. Mae wir angen i mi ddechrau gwylio comedis…



King Gary (iPlayer) … ydi hwnnw, am deulu o fildars dosbarth gweithiol sydd wedi gwneud yn dda a symud i swbwrbia dosbarth canol Gogledd Llundain. Tom Davis ydi prif atyniad, fel Gary King â chalon (a chorff) enfawr sy’n trïo gormod i ffitio mewn.