"The Mire", Netflix Gwlad Pwyl |
Â’r genedl gyfan dan glo, mae’r cyfyngiadau’n pentyrru. Dim
Sioe na Steddfod, tenis na 'Lympics leni. Ac ar ben pob dim, mae toriadau’r
teli yn dechrau brathu. Mrs Brown's Boys yn lle Match of the Day. Ein hactorion sebon
yn rhoi’r gorau i ffilmio, sy’n golygu dim ond dwy bennod yr wythnos o Gwmderi
am sbel, fel cwota sebon y Gogledd. Dim penawdau newyddion o’r cyrion Celtaidd
ar sioe frecwast y BBC oherwydd diffyg staff ac adnoddau. Y canlyniad, felly,
ydi gogwydd Eingl-ganolog gyda chyhoeddiadau a chynghorion dyddiol gan Brif
Swyddog Meddygol yr Iw-cê (Lloegr) yn ychwanegu at ddryswch polisïau amrywiol
San Steffan a’r llywodraethau datganoledig. O ddifri calon, faint ohonom sy’n
gwybod mai’r Lancastriad Dr Frank Atherton ydi CMO Cymru? A dim ond ar y Post Cyntaf Radio Cymru bore 'ma y clywais Ann Beynon yn dweud fod cyllid Ewropeaidd yn cael ei ddargyfeirio yma yng Nghymru i helpu'r maes iechyd i frwydro yn erbyn Covid-19. Llawer o'r arian hwnnw'n helpu Brexitiaid sy'n erfyn am gymorth offer anadlu, siwr braidd...
Dadl pen bandits y British Corprêshyn yng Nghymru yw ein
bod hi’n rheitiach canolbwyntio popeth ar fwletinau mwy poblogaidd y pnawn a’r
nos gan fod 700,000 yn troi at stabl Wales
Today am hann’di chwech yr hwyr a chriw Newyddion hann’di saith hefyd yn derbyn cynulleidfaoedd uwch na’r
arfer yn ôl pob son. Gyda llaw, dwi fymryn yn siomedig nad ydi penawdau S4C wedi
cael ailwampiad i gyd-fynd â’r amserlen newydd.
Gyda phob rhaglen fwy neu lai wedi’i noddi gan skype y
dyddiau hyn (diolch i’r Estoniaid dyfeisgar, poblogaeth 1.3 miliwn, sylwer Gymry gaeth), mae pob cyfweliad yn ymddangos yr un fath a phawb fel petaen nhw'n darlledu o eco'r bathrwm. Ar Heno nos Lun gwelsom Celyn Llwyd o Ddinbych yn wreiddiol yn skype-ganu o Gaerdydd i skype-gyfeiliant Adam Wachter o Pittsburg, tra bod Rhodri Owen
yn ista ym mhen Porth Tywyn o’r soffa goch a Llinos Lee ar erchwyn Llangennech, ac Elin Fflur yn mentro i Lanuwchllyn. Dwi’n ofni y bydd mwy o glipiau fideos cartref o gŵn rhech ‘ciwt’ a
phobl yn torri gwalltiau’i gilydd i’n cadw’n, ym, ddiddig tan fis
Mehefin o leiaf. Mae'n hawdd chwerthin, ond dw i YN edmygu dyfalbarhad criw Tinopolis i ddarlledu'n ddi-dor yn y dyddia-aros-adra sydd ohoni, a gweithredu fel rhyw fath o wasanaeth darlledu cyhoeddus a phapur bro cenedlaethol trwy wenau Colgate.
Gyda’r byd a’i frawd yn gaeth i’r tŷ, mi fydda i’n postio
ambell argymhelliad o bethau i’w binjwylio/gorwylio mewn pyliau/awchwylio. Os
oes gan rywun awgrymiadau gwell am y gair bingewatching, anfonwch nhw draw hyd braich 2 fetr.
Mae ’na doreth o gyfresi newydd ar netflix, rhai lot gwell
na’i gilydd, a gormod o bethau symol. Fe wnes i lowcio The Stranger (8 pennod) o nofel ias a chyffro Americanaidd Harlan
Coben wedi’i thrawsblannu i Fanceinion fodern, mewn tair noson – am giang o
hacwyr y we sy’n canfod cyfrinachau duaf pobl a’u blacmelio wedyn am arian mawr
– gan gynnwys Adam Price (Richard Armitage) sy’n canfod mai twyll oedd
beichiogrwydd ei wraig (Dervla Kirwain ddieithr) flynyddoedd yn ôl. Cyfres lol
botas o gyffrous, gyda sawl tro annisgwyl. Ond pwy ddiawl gath y brenwêf amheus
o gastio Jennifer Saunders mewn rôl ‘strêt’, wn i ddim.
"Y Dieithryn" |
Os dy’ch chi’n ffansio ffilm dramor, yna trowch i The Invisible Guest (2016) o Sbaen neu Contratiempo yn yr iaith wreiddiol. Chwip o ffilm annisgwyl am
ddyn busnes ifanc llwyddiannus sy’n deffro mewn stafell gwesty anghysbell ger
ei gariad celain – ac sy’n cyflogi un o dwrneiod gorau’r wlad i’w gael yn
ddieuog. Gyda thomen o ôl-fflachiadau a stori o safbwyntiau gwahanol, megis
Hitchcock Catalaneg. Jesd gadewch eich hygrededd adra.
Dw i ar fin gorffen gwylio (ar ôl sgwennu’r hyn o lith)
cyfres bum rhan o Wlad Pwyl - newid yn chenj o’r holl gyfres o orllewin Ewrop
ar netflix. Mae The Mire yn ein cludo’n ôl i Polska’r wythdegau cynnar,
lle mae pawb yn smocio fel stemars, yn clecio fodca i frecwast (rhywbeth tebyg
i’n dyddiau cwarantîn ninnau?!) ac yn byw mewn bloc o fflatiau digon llwm cyn
ymuno â’r ciwiau siopau prin eu bwyd (rhywbeth tebyg i’n etc etc).
Llofruddiaeth ddwbl putain a rhyw wleidydd comiwnyddol sy’n sbarduno’r stori, a
dau ohebydd y Courier yn dal i fynnu ymchwilio er bod yr awdurdodau wedi dal a
charcharu’r “drwgweithredwr” yn amheus o sydyn. Ond a fydd yr hen hac Witold (Andrzej Seweryn) yn bradychu Piotr (Dawid Ogrodnik) gydweithiwr ifanc delfrydyddol, wedi i'r awdurdodau ei 'gynghori' i gau pen y mwdwl ar y stori neu golli ei docyn unffordd i Orllewin Berlin.
Mae’r awyrgylch Llen Haearnaidd, yr actio gafaelgar a’r naws sinistr reit at fy nant i.
Mae'r iaith Bwyleg wedi atseinio cryn dipyn acw'n ddiweddar - o ffilm ddu a gwyn arbennig Cold War (Amazon Prime) am garwriaeth dymhestlog yng nghanol cythrwfl comiwnyddol y 1950au, i ail gyfres thriller The Border (Walter Presents) am y Capten Wiktor Rebrow sy'n gwarchod y ffin anghysbell rhwng Gwlad Pwyl a'r Wcrain gyfoes, ac ar ffo ers cael ei gyhuddo ar gam o ladd ei gariad ac eraill mewn ymosodiad terfysgol.
Da chi, rhowch gynnig arnyn nhw.
Mae’r awyrgylch Llen Haearnaidd, yr actio gafaelgar a’r naws sinistr reit at fy nant i.
Piotr a Witold |
Mae'r iaith Bwyleg wedi atseinio cryn dipyn acw'n ddiweddar - o ffilm ddu a gwyn arbennig Cold War (Amazon Prime) am garwriaeth dymhestlog yng nghanol cythrwfl comiwnyddol y 1950au, i ail gyfres thriller The Border (Walter Presents) am y Capten Wiktor Rebrow sy'n gwarchod y ffin anghysbell rhwng Gwlad Pwyl a'r Wcrain gyfoes, ac ar ffo ers cael ei gyhuddo ar gam o ladd ei gariad ac eraill mewn ymosodiad terfysgol.
Da chi, rhowch gynnig arnyn nhw.
Zimna wojna (Cold War, 2018) |
Wataha (The Border, 2014-) |