Araf




Mae’n eironig. Mewn cyfnod pan mae pawb yn arafu lawr, aros adre, dod i stop – heblaw am ambell syrffiwr a beiciwr o Loegr (cym on, byddwch yn onest, pobl ddwad, Brits abroad, di 99% ohonyn nhw) – mae gwasanaethau newyddion Cymraeg fel petaen nhw heb gael y memo. Mae ambell raglen Radio Cymru yn dal yn gaeth i’r cloc, yn rhuthro siarad a thorri cyfweliadau yn eu blas jesd er mwyn penawdau’r awr. A rheiny’n benawdau creu Govid sydd prin yn newid. Diolch byth nad fi ydi’r unig un sy’n meddwl hyn.

Trueni mawr oedd torri sgwrs yr arbenigwr meddygol ardderchog ar @Newyddion9 heno ar yr union adeg pan oedd ar fin egluro rhywbeth pwysig iawn, er mwyn mynd i’r eitem nesaf. Gawn ni fwy ohono, a digon o amser iddo ddelio’n drylwyr efo’r pwnc, os gwelwch yn dda? @EmyrLewis4

Digwyddodd ryn peth heddiw ar newyddion bore @BBCRadioCymru er mwyn rhuthro i fewn i stori beldroed a ddilynwyd gan raglen hanner awr peldroed yn syth ar ol yr eitem am beldroed er bod dim peldroed yn cael ei chware .... @GaynorJones15

Maen nhw'n wasanaethau anhepgor, ardderchog, ydyn, a'r gohebwyr yn y maes yn gwneud job wych o holi a hel straeon ar garreg y drws dau fetr i ffwrdd. Mae slot newydd ffonio-i-mewn gyda Dylan Jones a'i westeion arbenigol yn ateb cwestiynau'r gwrandawyr tan 9yb yn ategiad da i'r diwrnod. Ond mae'r holl beth yn llethu rhywun braidd, fel carthen felan 24/7. Felly, dim ond bwletinau ben bore'r Post Cyntaf i mi (ond dw i'n poeni braidd am Rhian Haf a Llyr Griffiths-Davies hefyd, ers i Kate a Dylan gymryd drosodd y traffig a'r tywydd). Yna Newyddion 7.30pm ambell dro, efallai prif benawdau hwyrach News at Ten efo Huw.

Ond prin ein bod ni’n cymryd sylw o’r cloc mwyach. Nac yn gwybod pa ddiwrnod ydi hi’n iawn, wrth i’r naill ymdoddi’n ddiog i’r llall fel y tir neb rhwng Dolig a’r Calan. Dim ymarfer côr, sesiwn gampfa, rhyw bwyllgor bwygilydd na phlant i’w cludo i ymarferion yr Urdd. Dim chwaraeon. Ac yn niffyg gohebwyr/bwletinau chwaraeon o werth, beth am ddefnyddio’r munudau ychwanegol hynny i ymhelaethu ar gyfweliadau. Estyn sgyrsiau. Cymryd eich amser. Dal eich gwynt. Gwagswmera. A pheidio â chael haint am fys yr eiliad yn taro deuddeg.

Un sydd ddim i’w weld yn slofi lawr ydi Dewi Llwyd. A diolch byth am hynny. Efallai na fydd o’n llywio mwy o Pawb a’i Farn ond mae’n dal yn llais cyfarwydd ar ein tonfeddi, deugain mlynedd yn ddiweddarach. Hir oes i Mr Dow-Dow ar foreau Sul ac awr ginio.