Mwy na phapur newydd



Siŵr braidd bod mwy fyth o lyfrbryfed o gwmpas y dyddiau segur hyn. Dw i eisoes wedi troi ar fy nghindl hoff i sglaffio stori serch awdur a chyn-ymgeisydd seneddol tuag at aelwyd, natur a chymdogaeth arbennig ym Mro Ddyfi; nofel ddirgel am newyddiadurwraig mewn cymuned Twin Peaksaidd adeg hirddydd haf gogledd Sweden; a’r gyntaf mewn cyfres dditectif o’r Ynys Las yng nghanol tensiynau rhwng y brodorion a’r Daniaid. Dychwelais hefyd at ddwy nofel Gymraeg na lwyddais i’w cwblhau cyn y Covid oherwydd diffyg ymdrech neu ddiddordeb, y naill gan Gwen Parrott a’r llall gan Rhiannon Ifans. O ran cylchgronau, dw i’n derbyn Barn a’r Cymro drwy’r post ers i’r Cloi Mawr gau ein siopau Cymraeg lleol ni. Roeddwn am danysgrifio i e-fersiwn o Golwg, ond mae adolygiadau gwael y siop apiau yn fy ngwneud i’n betrusgar braidd. *DIWEDDARIAD* Ers hynny, cefais fy nghywiro a'm goleuo gan wybodaeth am wasanaeth newydd sbon golwg+, cylchgrawn digidol sy'n addo'r canlynol gan y golygydd newydd Garmon Ceiro:

Gyda chymaint yn cysylltu i ddweud nad yden nhw’n gallu cael gafael ar gopi o Golwg o’r mannau arferol yn ystod y cyfnod hwn, fe aethon ni ati i ddod o hyd i ddatrysiad. Ydi wir, mae cynnwys cylchgrawn Golwg bellach ar gael ar y We am y tro cyntaf... Be gewch chi ar golwg+ felly? Wel, holl gynnwys Golwg. Ac, yn y dyfodol, ambell eitem fonws hefyd, mae’n siŵr, gan nad oes prinder lle ar y We. 

Be amdanoch chi? Ydych chi’n darllen mwy, a mwy o Gymraeg yn arbennig, y dyddiau hyn? Bydd y gogs o’n plith wedi’n siomi’n uffernol gan stori ddiweddar Bethan Gwanas yn yr Herald Cymraeg, atodyn y Liverpool & North Wales Daily Post, na fydd y colofnwyr llawrydd rheolaidd - hithau, Angharad Tomos, Bethan Wyn Jones a Rhys Mwyn - yn cael ’run dime goch gan berchnogion y papur yn ystod y Covid.

Nid bod y pedwarawd yn cael ffortiwn am sgwennu’n ffyddlon yn wythnosol ers amser maith. Gwn o brofiad personol nad ydi sgwennu’n Gymraeg yn help garw i dalu’r biliau. Ond mewn ymateb i’r newydd ar ei flog, meddai @therealrhysmwyn:

Dwi ddim yn gwybod os rwyf wedi gwneud y penderfyniad iawn ond fy nheimlad i oedd fel rhywun hunnan gyflogedig na ddyliwn barhau i gyfrannu yn ddi-dal. Er fod ni yn meddwl am yr Herald Gymraeg, cwmni Reach PLC sydd yn ein cyflogi. Mae gwerth i'r golofn, mae gwerth i ddiwylliant Cymraeg. Does dim syniad gennyf os caf wahoddiad i sgwennu eto yn y dyfodol?

Reach plc, Trinity Mirror gynt, â’i bencadlys yn nociau Llundain. Mae hynny ynddo’i hun yn ddigon i wneud i chi gachu brics am gyflwr gwantan y wasg “Gymreig” a Chymraeg. Chwarae teg i Mr Mwyn am wneud safiad ar un llaw, ond hefyd i Bethan Gwanas am addo parhau i sgwennu i bapur â miloedd lawer o ddarllenwyr Cymraeg yng nghadarnle’r Gogledd. Ond pwy ŵyr beth yw’r dyfodol ôl-Covid, a pha mor barod fydd meistri’r wasg Lundeinig i barhau i dalu briwsion i awduron iaith mor estron iddyn nhw. Gwyddom pa mor ddiarhebol o ddi-hid ydyn nhw a’u hacs atom ni fel cenedl, megis dirprwy (ie, ’mond dirprwy) olygydd gwleidyddol y Daily Mail, Harry Coles, wnaeth ddim hyd yn oed trafferthu gwglo enw ein prif weinidog:

English local authorities and nhs spin teams also up in arms about being ordered to take down Stay Home messaging without clarity. Angry emails flying about insisting message will not be changed without further clarity. Burnham, Sturgeon and the Welsh chap already going public.

Ac eto, dangosodd ymchwil gan Geraint Talfan Davies yn 2005 fod y rhacsyn yn boblogaidd ymhlith “the Welsh” gyda 325,000 o ddarllenwyr dyddiol (3ydd mwyaf poblogaidd wedi’r Sun a’r Daily Mirror) o gymharu â’r cyhoeddiad Cymreig (ond nid cenedlaethol) gorau sef 172,000 i’r South Wales Echo. Ac mae pobl yn dal i synnu fod y Cymry bondibethma wedi taro croes dros Brexit? O! am fersiwn brint o nation.cymru, y gwasanaeth newyddion ardderchog Saesneg sydd ar waith ers 2017.

Daniel Sandford - diawl y wasg Seisnig... 

... a'i hamddiffynnydd


Daeth gwendid difrifol y wasg a’r cyfryngau Prydeinig Seisnig yn amlycach fyth adeg yr argyfwng presennol – gyda phenawdau’r Daily Mirror (“Brits told they can go on day-trips from Wednesday under new rules”) a’r Daily Telegraph (“Stay Alert: PM’s new message to the Nation”) yn ategu’r dryswch rhwng polisïau Lloegr niwlog a’r gwledydd Celtaidd unedig. Er, roedd BBC News at Ten neithiwr yn pwysleisio’r hyn oedd yn berthnasol i England only cyn canolbwyntio ar ohebwyr o Glasgow, Caerdydd a Belfast, ac yn rhoi mwy o sylw i Drakeford na Sturgeon am unwaith. A do, buodd Huw Ni yn amddiffyn y Gorfforaeth i’r carn wrth i eraill ladd arni. Wnaeth adroddiad nawddoglyd Daniel Sandford, y gohebydd Materion Cartref ddim helpu’r achos wrth honni ei bod hi’n “ridiculous” na allai pobl o Loegr deithio i Gymru oherwydd cyfyngiadau teithio, ac nad oedd yn ddim byd mwy na llywodraethau datganoledig yn “flexing their muscles” yn erbyn llywodraeth San Steffan. Mae’n sobor o sefyllfa, fel yr ategodd yr Athro Roger Scully o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd, mewn melin drafod ar-lein ddiweddar i Public Affairs Cymru:

It’s been scary in recent weeks to see quite how many senior political journalists would fail devolved politics 101. There’s not only substantial ignorance about devolution both within and outside Wales, there’s also hostility for devolved institutions. 

Mae’n un o’n sylwebwyr gwleidyddol gorau ni, yn y ddwy iaith. Da chi, gwrandewch ar ei gyfweliad ar Beti a’i Phobl. 

Neges glir a chadarn papur dyddiol y brifddinas 


Ond yn ôl at sefyllfa cyhoeddiadau Cymraeg. Faint ohonon ni sydd wir yn trafferthu eu prynu a’u darllen wedyn? Bues i’n euog o’u cymryd yn ganiataol yn y gorffennol – gan ddarllen copi’r swyddfa o Golwg (a gaiff ei rannu rhwng dwsin cydweithiwr arall, y mwyafrif yn brysio drwyddo dros ginio yn hytrach na darllen o glawr i glawr) a phiciad i’r llyfrgell ganolog i gael sbec ar Barn ddechrau’r mis. Pan af adref i weld y teulu, mae’r tri phapur bro lleol yn barod amdanaf – Yr Odyn, Y Pentan a’r Gadlas – gyda brecin niws am enedigaethau, priodasau a marwolaethau pob pentref, hynt ysgolion a chapeli prin, ambell golofn natur, dyddiaduron o’r gorffennol, llwyddiannau’r Aelwyd a’r CFfI, a bwrlwm chwaraeon ar y cefn. Oll mewn lliw llawn bellach, ond nid cweit ar-lein eto fel bron i dri deg y dyddiau hyn – llawer yn rhan o gynllun uchelgeisiol bro.360.cymru, isgwmni Golwg i ddatblygu rhwydwaith o wefannau bro. Ac yn oes y darllen ar-lein, mae’n siŵr y bydd hi’n hawsach nag erioed mesur nifer y darllenwyr Cymraeg fesul ‘clic’, o i Dregaron i Drelew, Aberdaron i Auckland. Ond beth am gyfrwng hen-ffash y papur print, sydd lawn mor bwysig?

Un o'n papurau bro mwyaf llwyddiannus ni - 1,200 o brynwyr y mis, neu 1 o bob 5 o oedolion G'narfon

Mae unrhyw wybodaeth gyfoes am werthiant papurau a chylchgronau Cymraeg mor hygyrch â neges ddiweddaraf Boris Johnson am Covid-19. Dywedodd Cymru Fyw yn 2013 fod bron i 3,000 o gopïau o Golwg yn cael eu gwerthu bob wythnos, a Barn yn llwyddo i shifftio rhwng 1,200 a 1,500 y mis. Mae Y Cymro wedi cael ail-wynt fel misolyn ers 2018, wedi 85 mlynedd fel wythnosolyn. Arferai’r cylchrediad hofran oddeutu 3,000 o gopiau yn y 2000au, cwymp aruthrol ers oes aur 28,000 a mwy o ddarllenwyr dan olygygiaeth yr enwog John Roberts Williams rhwng 1942 a 1962. Mae’n her a hanner a dal ati, wrth i’r wasg brint orfod cystadlu â’r we am ddarllenwyr a hysbysebwyr. Fel y dywedodd y golygydd presennol Barrie Jones wrth y Bîb:

Mae lot o ewyllys da tuag at Y Cymro. Mae pobl yn cydnabod bod o wedi bod yn rhan o hunaniaeth Cymru a ddim eisiau ei weld yn dod i ben, ond maen un peth i ddweud bod rhaid iddo gario ymlaen ond yn y byd masnachol mae'n rhaid cael rhyw blatfform ariannol sy'n gwneud y peth yn bosib. All o ddim mynd ymlaen ac ymlaen dim ond ar ewyllys da.

Y Cymro II

Ond weithiau, jesd weithiau, mi fuasai’n braf petaen ni’r Cymry yn dangos mwy o ewyllys da ac yn buddsoddi yn ein cyfryngau cynhenid ni. Yn ffwdanu prynu copi bob wythnos neu fis, sy’n rhatach na’r Times neu’r Guardian gyda’u flat white o Waitrose Borth neu’r Bont-faen. A gwerthfawrogi’r sgwenwyr hynny sy’n ceisio’u gorau glas i greu cynnwys difyr, amrywiol yn eu hiaith gyntaf. Meddyliwch tasa’ breuddwyd papur dyddiol Y Byd (c.2008) wedi dwyn ffrwyth. Dw i’n cofio cyfrannu’n ariannol at y fenter (ac yn dal i ddisgwyl am ad-daliad) ac anfon CV wrth i’r golygydd hysbysebu am staff o 24 ar gyfer swyddfa Machynlleth. Byddai’r rhifyn Llun-Iau wedi costio 70c ac un mwy swmpus y penwythnos ar ddydd Gwener yn £1.20. Ond serch lot o ewyllys da, a chefnogaeth Archesgob Cymru a holl arweinwyr pleidiau’r Cynulliad Cenedlaethol ar y pryd, gwrthod y cais ariannol wnaeth y Gweinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas ar y pryd. Ie, aelod Plaid Cymru. Sôn am golli cyfle.

Y gwir yn erbyn "Y Byd" 

Efallai’n wir y byddai’r fenter wedi methu maes o law, a baich ariannol y llymder economaidd, problemau difrifol dosbarthu i bedwar cwr o’r wlad, ac ie, dihidrwydd arferol Cymry Cymraeg yn drech. Ond gallasai fod wedi llwyddo hefyd, fel atodyn am ddim i’r papurau bro cenedlaethol ni i ddechrau ennill tir, a chydfodoli fel fersiwn print a’r we wedyn. Neu beth am gyhoeddiad cyfan gwbl am ddim, fel y Metro bondibethma yr arferwn ei weld ar drenau’r cymoedd gyda phwyslais ar bopeth San Steffan, Selebryti Cym Dansin a ffwtbol Lloegr, neu bapur dyddiol (di-dâl) mwyaf poblogaidd Gwlad yr Ia, Fréttablaðið â chylchrediad o ryw 70,000.


Mae’r gymhariaeth â Gwlad yr Iâ yn ddiddorol. Ynys â rhyw 300,000 o siaradwyr Islandeg (o gymharu â’n 875,000 o siaradwyr Cymraeg ni yn ôl ffigurau gorobeithiol diweddar) sydd eto’n llwyddo i gyhoeddi a chynnal dau bapur newydd dyddiol a phum wythnosolyn.

Fel y dywedodd Elin Haf Gruffydd Jones, un o gyfarwyddwr Y Byd yn 2009:

Mae gwledydd eraill yn rhoi cyllid sylweddol i hybu newyddiaduraeth safonol. Mae hyn yn gyfraniad pwysig i ddemocratiaeth yn y pen draw.

Roedd criw Y Byd wedi galw am o leiaf £600,000 gan Lywodraeth Cymru’n Un ym mlwyddyn gyntaf y fenter. Y llynedd, fe wnaeth y Cyngor Llyfrau rannu £380,500 o nawdd rhwng rhain i gyd. Doedd gan ein papur dyddiol ddim gobaith caneri, nag oedd.

 

Barn £80,000

Golwg £77,000

O’r Pedwar Gwynt £34,000

WCW £30,000

Y Cymro £24,000

Barddas £20,000

Lingo Newydd £18,000

Cara £10,000

CIP £20,000

Lysh £20,000

Mellten £14,000

Y Selar £11,000

Y Wawr £8,000

Llafar Gwlad £7,000

Y Traethodydd £4,000

Cristion £2,000

Fferm a Thyddyn £1,500

 

Dw i’n nabod gormod o Gymry ifanc proffesiynol sy’n elwa ar yr iaith, ond prin yn darllen/ gwrando/gwylio’n Gymraeg. Llawer o Gymry Cymraeg cefn gwlad wedyn bron yn brolio’r ffaith nad ydyn nhw wedi darllen Cymraeg ers yr ysgol uwchradd (ond yn driw i’r papurau bro lleol). Camargraff ydi’r bwgan mawr, a’r myth fod cyhoeddiadau Cymraeg yn rhy ‘anodd’ neu’n steddfod genedlaethol o uchel-ael.  Mi heria’ i nhw i chwalu’r myth hwnnw trwy ddarllen safbwyntiau gwleidyddol craff a chroyw Richard Wyn Jones, bydolwg Bethan Kilfoil o Ewrop, sylwebaeth chwaraeon Alun Wyn Bevan, erthyglau bwyd Lowri Cooke a rhai nodwedd Aled Sam, Elin Llwyd Morgan yn Golwg a Barn. Oll mewn Cymraeg rhywiog, agos-atoch, heb orfod fentro’n ormodol i dir tabloid sathredig. Ond pwy fyddai’r adolygydd radio a theledu crafog?

Ydi, mae’n Wyddfa o her.

Y gwir amdani ydi bod difaterwch yn rhan o’n DNA ni cenedl. Diffyg diddordeb sy’n gyfrifol am dranc llawer o’n cyhoeddiadau Cymraeg, o safbwynt darllenwyr parod sy’n fodlon mynd i’w pocedi a pherchnogion anhysbys o bell sy’n poeni fwy am eu cyfranddalwyr na’ rhyw tipyn iaith leiafrifol mewn cilfach gefn.

Mae’n ddydd Mercher, a dw i am wneud fy siwrnai hanfodol i’r dre i wneud neges a phrynu unig gopi’r wythnos o’r Daily Post blinderus o blwyfol er mwyn colofnau’r Herald. Chwarae teg i Gwanas am ddal ati, ond dw i’n cytuno i’r carn â Rhys Mwyn. Ddylai’r un awdur Cymraeg fyth golli tâl am ddarn o waith, dim ond achos ei fod o’n Gymraeg. Iawn gwneud am ddim i’r papurau bro, ac i’r blogbyst niferus dwi’n eu creu er lles, mwyniant a rants personol. Llafur cariad ydi shitclic, ac mae nifer y darllenwyr/cliciau yn amrywio o ugain am flog Ozark i 74 am un Cyswllt (mewn Covid) yn ôl dadansoddiadau blogger.com.

A’r teitlau cenedlaethol? Na. Dw i di blino ar friwsion, wedi laru ar wirfoddoli, ar 'ewyllys da' a derbyn tâl is na’r gyfradd ffrilans arferol. Mae’r oes honno drosodd, bobol, ac mae pawb eisiau byw.

Mae hen hen bryd i ni Gymry Cymraeg ddechrau cefnogi neu golli'r cyfan.