Sut mae’r gwylio dan glo yn mynd? Dw i’n dal i sglaffio’n
ffordd drwy Ozark, am deulu ‘cyffredin’
o Chicago sy’n llwyddo i bechu’r byd a’i frawd troseddol yn ardal y llynnoedd
Missouri, ac wedi cyrraedd pennod 8 yr ail gyfres bellach. Mae dwy, weithiau un
bennod y noson yn hen ddigon gyda’r holl dyndra, brad a’r marwolaethau sy’n
digwydd fel peltan i’r stumog. Ond mae'r perfformiadau'n gafael, yn enwedig Julia Garner ysgubol o dda fel Ruth Langmore y benfelen siarp ei thafod sy'n ysu i wella'i byd a dianc rhag ei magwraeth baw isa'r doman. Mae'n bortread torcalonnus o rywun sy'n ceisio'i gorau glas i'w chadw ei hun a'i chefndryd ar y trywydd cywir, gyda chanlyniadau rhwystredig.
Julia Garner |
Ar y llaw
arall, dw i newydd gychwyn cyfres ddrama ddirgel newydd sy’n ymddangos, yn anghyffredin
ddigon, law yn llaw ar wasanaethau Netflix a Walter Presents. Handi felly i rai
sydd ddim am dalu £9 y mis a mwy am y gyntaf.
Mae Reckoning (10x45’),
a ffilmiwyd mewn tre glan môr Awstralaidd-cogio-bod-yn-Califfornia, yn canolbwyntio ar ddau
brif gymeriad – cwnselydd ysgol uwchradd â chyfrinach ddieflig a sheriff lleol
sy’n cael hunllefau a strach teuluol wrth ymchwilio i lofruddiaeth merch ysgol o’r
enw Gretchen McGrath, sy’n iasol o debyg i achos o serial killer bum mlynedd ynghynt. Cyn hir, mae llwybrau’r ddau yn
grisgroesi diolch i’w plant o’r un oedran, yr amheuon yn pentyrru ac ofnau’r dre fach
gapelgar barchus (ar yr wyneb) yn cynyddu.
Roedd rheol 'dim bagiau' trwm EasyAir yn creu tensiynau mawr |
Y nesaf yn y ciw fydd Into the Night, thriller
acopalyptaidd rhyngwladol o Wlad Belg wedi’i gosod ar awyren o Frwsel i Moscow sy’n cael ei
herwgipio dan derfysgwyr jesd fel mae damwain solar yn lladd popeth byw ’nôl ar
wyneb y ddaear. As iw dw. Wnâi fyth gwyno am deithiau Ryanair eto.