Mae’n hen fyd rhemp. Y pandemig yn parhau, y gwledydd
Celtaidd wedi cau tra bod Brymis yn heidio i draethau’r Bermo, Aelod
Seneddol o Swydd Gaerwrangon yn cael dianc i’w dy haf ym Môn, a sbinddoctor
Boris Johnson yn cael rhwydd hynt i yrru 250 o filltiroedd o Lundain i Durham (ddwywaith os nad mwy) serch symptomau Covid arno fo a’i wraig. Ydi, mae’n ffycin rhemp.
Ond ym myd paralel operâu sebon, mae’r pawb yn dal i garu a checru y tu ôl i ddrysau caeedig, cofleidio a chymdeithasu yn y dafarn neu’r caff. A nos Iau diwethaf gwelais olygfa od ar y naw ar Pobol y Cwm - Kath Jones yn bwyta wyau Pasg ar y slei yn siop y pentref, bron i chwe wythnos ar ôl pawb arall. A dyma glicio – siŵr iawn! Gyda’r gyfres wedi’i thocio i ddwywaith yr wythnos, a ffilmio wedi dod i stop ers canol Mawrth, mae popeth ‘perthnasol’ a ‘chyfredol’ wedi mynd i’r gwellt. Gyda'r gwaith recordio’n cael ei wneud rhyw dri mis ymlaen llaw, doedd neb wedi dychmygu y buasai’n wanwyn dan glo arnom o Lanrwst i LA.
Ond mae arwyddion bod y cyfresi hyn yn dechrau deffro i’r
normalrwydd newydd, gyda rhai’n raddol ddychwelyd i ffilmio. Yr Aussies sydd
wedi arwain y blaen, trwy ailafael ynddi ddiwedd Ebrill yn stiwdios Neighbours
ym Melbourne - gyda’r cast a’r tîm cynhyrchu wedi’u rhannu’n griwiau bach sy’n
cadw metr a hanner i ffwrdd, a gwaith camera crefftus yn gwneud i’r
cymeriadau ymddangos yn agosach at ei gilydd nag ydyn nhw mewn gwirionedd. Dim
lapswchan, ond lot fawr o lygadu ei gilydd o bell yn ôl pob tebyg. Sy’n uffarn
o gamp, gan fod ciwpid yn rhan annatod o’r sioe 35 mlwydd oed. Mae’r cyfan yn
swnio’n dipyn o gur pen logisteg i bawb, fel yr esbonia Stefan ‘Paul Robinson’
Dennis, unig aelod gwreiddiol o’r cast ers 1985:
You're not even allowed into the building without being temperature-checked by the nurse and given the all-clear. The alleyways and hallways are divided in half and you have to get well to the wall so you have that distance. We do see other cast members and other people, and when you're in a studio it's inevitable. You have to, we're still working. But there's no touching and a certain amount of actors on set at one time.
Siop goffi enwog Harold's |
Draw ym Mhrydain, mae’r pommies hefyd yn arbrofi
gydag aelodau o gast Emmerdale (‘Dallas with dung’, chwadal yr enwog
ddiweddar Les Dawson) yn dod ynghyd i ffilmio chwe phennod arbennig y Clo Mawr.
Meddai llefarydd y gyfres:
We'll see resentments and past feuds resurface, old wounds further exposed, relationships scrutinised, with doubts and insecurities laid bare. Some seize the opportunity lockdown presents to heal divisions, while others get some sizzle back into their lives. With the backdrop of the pandemic, the characters also reflect the nation's immense gratitude and thanks for the NHS with the weekly clap for carers and the people working on the frontline keeping our country safe.
'Da chi'n gwbod y ffordd i'r Dales? |
Mater arall a ydi’r ffans am weld syrffed bob dydd ar y sgrin fach
neu’n ysu am ddihangfa’r Woolpack dan ei sang. Mae sebon radio hirhoedlog Radio
4 hefyd yn addasu i’r pandemig, wrth i actorion The Archers recordio
sgriptiau o’u cartrefi yn hytrach na stiwdios Birmingham, ac adlewyrchu bywyd
yn Borsetshire dan gwmwl Covid-19.
Wyneb cyfarwydd y Cwm, Mali Harries, sydd hefyd yn llais cyfarwydd yr Archers fel Natasha Archer, entrepreneur sudd ffrwythau |
Ond beth am ein cyfresi Cymraeg hollbwysig ni? Rwy’n deall fod yna ddigon o benodau o Pobol i bara tan ganol Mehefin, ond wedyn, pwy a ŵyr? Dywed gwefan S4C bod pen bandits y sianel wedi cynnal fforwm ar-lein â chynhyrchwyr
Pobol y Cwm, Rownd a Rownd, Un Bore Mercher, Craith a 35
Diwrnod i drafod a rhannu syniadau am ffyrdd newydd o weithio gyda'r “heriau sy'n wynebu'r sector ddrama yng Nghymru yn sgil effaith coronafeirws
a'r ansicrwydd mae'r diwydiant teledu yn ei wynebu ar hyn o bryd”. Ac wrth
gyhoeddi ton o gomisiynau newydd ganol Ebrill mewn ymateb i’r amserlen newydd ffwr-bwt, fel cyfres skype glodwiw ond braidd yn dipresing Cyswllt (mewn
Covid), dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:
Yn ychwanegol mae cynlluniau ar waith gyda chymeriadau Pobol y Cwm... er mwyn sicrhau bod nhw'n parhau i ymddangos ar y sianel.
Prin yw’r manylion hyd yma, ond rwy’n amau mai rhywbeth tebyg i
saga Swydd Efrog welwn ni - casgliad o benodau arbennig gyda
rhai o hoelion wyth Cwmderi naill ai mewn monolog neu sgwrs fideo â ffrindiau a
pherthnasau o bell. Am sgôp! Am gyfle euraidd i groesawu rhai o wynebau’r
gorffennol yn ôl, megis Diane yn ffonio ei merch Emma Francis née Rossiter yn
Awstralia bell neu Dai yn dal i fyny â’i frawd, y chwedlonol Dic Deryn yn
Iwerddon. Beth am aduniad yr hen stejars, Megan a Nerys a Sabrina a hyd yn oed
Doreen Bevan, Nansi Furlong? Beth am bryderon Britt am ei phlant colledig
Chester ym Mhortiwgal a Catrin yn Llundain? Eileen yn ailgysylltu â Cadno neu
Meira (Sara McGaughey) ei chyfnither yng nghyfraith?
Mae gen i frith gof o Gwmderi cyfan yn dod i stop o'r blaen, wrth i salwch rhyfedd daro'r pentrefwyr a'u gadael i gysgodi mewn ofn yn eu cartrefi. Roedd yn stori ryfedd ar y naw o be' gofia i, gyda braidd dim shots Stryd Fawr a phopeth yn digwydd o fewn pedair wal gardbord. Diolch i dduw am erthygl Dail y Post o fis Ionawr 2012 am brofi nad breuddwydio'r cyfan wnes i.
Could it be the cheap meat Andy served in the Deri, or Penrhewl’s Christmas turkeys? The panic spreads when taxi driver Gwilym is found dead at the Deri Deithio office. Siôn turns to God to answer his prayers, while Cadno and Eifion flee from Cwmderi to keep the baby safe.
Sôn am fyd o bosibiliadau. Cawn weld beth ddaw, ac a oes cynlluniau tebyg i griw tref harbwr Glanrafon. Meddyliwch am sesiynau skype hwyrol Aled a Carys (Daniel Lloyd a Ceri Lloyd, dim perthnasau) wrth lafoerio am ei gilydd o bell, reit dan drwyn Barry.
Mae tymor yr ailddarllediadau ar ein gwarthaf, a myn duw,
rydan ni angen mwy o amrywiaeth nag erioed.