35 Jours


Ydych chi wedi trefnu’ch gwyliau haf eto? Dwi ddim yn eich beio chi wedi bron i bedwar mis cyfyngedig i’ch pedair wal a balconi neu gardd hancas boced, ac ambell drip hanfodol i’r Co-op.

Ac wedi’r pwl o dywydd poeth diweddar (pwl dau ddiwrnod, cofiwch), roedd hiraeth uffernol am neidio i’r môr nefolaidd braidd i gwlio lawr ar ôl crwydro arfordir Sir Benfro, o Dre-fin i Dyddewi adeg fy mhen-blwydd ddwy flynedd nôl. 16 Gorffennaf, gyda llaw, os da chi awydd anfon cerdyn. Ond gyda thraethau Aberogwr a Bournemouth yn denu’r lluoedd (chavllyd), mae gen i awgrym gwell - Riviera Ffrainc, neu’n fwy penodol, ardal hyfryd Cassis gyda’i thraethau cyn wynned â’r clogwyni calchfaen sy’n cosi Môr y Canoldir.

Dipyn brafiach nag Aberogwr 

Pam Cassis yn benodol felly? Am mai dyna ydi lleoliad caffaeliad diweddaraf yr ardderchog Walter Presents, A Deadly Union (Noces Rouges, Priodas goch/waedlyd, yn yr iaith wreiddiol). Ynddi, mae Alice (Alexia Barlier fodelaidd o dal) y chwaer afradlon (am ryw reswm teuluol a ddaw i'r amlwg eto) yn dychwelyd adre'n annisgwyl o Awstralia i briodas ei chwaer fach Sandra – dim ond i ffeindio’r briodferch yn gelain ar ôl disgyn o falconi bwyty swanc eu rhieni. Meddyliwch am yr holl fwyd aeth yn wastraff... Ta waeth, un o’r gwesteion ydi’r ffrind teuluol a’r ditectif Vincent Tambarini (Lannick Gautry, gendarme Dirgelwch y Llyn, ewrogyfres S4C a welais dro’n ôl ar Channel 4) sy’n wfftio’r syniad o hunanladdiad ar unwaith. Ac wrth gwrs, mae ’na hen hanes rhyngddo fo ag Alice wrth i’r ddau geisio canfod y gwir a chodi hen grachod teuluol.


Meddyliwch am 35 Diwrnod gyda chast Givenchy-aidd a lleoliadau ganwaith brafiach. Nid bod y deialogi cweit mor gynnil ag un Fflur Dafydd chwaith, wrth i’r awdur frysio braidd i esbonio pwy di pwy, be di ben:

 

Y Tad (wrth ei gyn-wraig, yn ystumio i’r camera tu allan i’r eglwys gyda’r cwpl hapus): O leia ’nathon ni un peth yn iawn.

Y Fam: Hwnna a’r difors.

(Gweld tacsi'n cyrraedd y llan)

Y Tad: Sbîa! Ein hail ferch ni!

Y Fodryb: A’r ddwy chwaer nol gyda’i gilydd unwaith eto ar ol degawd. C’est formidable!

 

Falle bod gan y Ffrancwyr lai o fynedd na ni wylwyr Cymraeg. Ond wir, mae’n werth neilltuo amser i’r gyfres o chwech, ar sail y ddwy bennod gyntaf a welais hyd yma. Ac mae’r golygfeydd yn falm i enaid caethiwus y Clo Mawr.

Ydi easyjet yn mynd i Marseille?