Mewn glân briodas?


Roedd gynnon ni briodas deuluol i fod ddechrau Ebrill. Ond fel pob sbloets cyhoeddus arall, gohirio tan yr hydref fu raid gan nerfus-gymryd y bydd pethau’n ôl i drefn erbyn hynny. Doedd hyd yn oed Trystan ag Emma ddim yn gallu cynnig cawod o gonffeti achubol y tro hwn. Efallai fod y gyfres codi calonnau wedi dod i ben ar nos Sul, ond mae chwip o un arall wedi dechrau. Un sydd fymryn yn nes ati, gyda pherthnasau pwdlyd yn dod ynghyd i ddymuno’r gorau i’r cwpl ifanc. Priodas lle mae tensiwn yn ffrwtian dan y fascinators, y bwffe’n rhy sbeislyd i’r to hŷn, a mab afradlon y teulu’n cyrraedd â boliad o Stella ac yn gadael gyda llygaid du. Neu gorff yn y môr, yn achos 35 Diwrnod.


Iawn, efallai fod pumed - ia, PUMED - cyfres y fformat hynod lwyddiannus hwn (heblaw’r ail symol mewn swyddfa ’siwrans yng Nghaerdydd) braidd yn eithafol, ond bu cryn edrych ymlaen ati ers sbel. Mae’r brand ‘35’ wedi talu ar ei ganfed i S4C gan sicrhau gwobrau BAFTA Cymru i gwmni cynhyrchu Boom a gwerthiant i Seland Newydd a’r Unol Daleithiau. Cafwyd addasiad llai llwyddiannus 15 Days i Channel 5 Prydain y llynedd hefyd, yn seiliedig ar etifeddion fferm cecrus y drydedd gyfres Gymraeg. Ond y gyntaf wedi’i gosod ar stad barchus, fyglyd, Crud yr Awel nôl yn 2014 oedd yr orau gen i o bell ffordd, ac mae'r ddeuawd Val a Taz (Gillian Elisa ac Iestyn Arwel) yn saga’r rheithgor y llynedd yn dal i aros yn y cof hefyd.

Fel yr esbonia’r awdures Fflur Dafydd:

Mae’r stori yn agor gyda chriw o ferched (ac un bachgen) mewn fitting ffrog briodas, 35 diwrnod cyn y briodas. Y syniad craidd yw eu bod nhw wedi nabod ei gilydd ers yn ifanc ond mae ’na densiynau yn eu perthynas nhw yn dilyn rhywbeth digwyddodd rhyw bum mlynedd yn ôl.

Mae pennod gyntaf unrhyw gyfres ddrama newydd yn dipyn o her. Yn ogystal â’n diddanu, rhaid iddi hefyd ennyn diddordeb a chwilfrydedd. Mae angen cyflwyno myrdd o gymeriadau rydyn ni’n barod i falio amdanynt a buddsoddi’n hamser iddynt dros yr wythnosau nesaf. Mae fflachiau o hiwmor yn hollbwysig. Os oes gormod o ddüwch, waeth inni roi’r gorau iddi ac ymdrybaeddu yn Eastenders ddim.

Dylan (Geraint Todd) a Beth (Gwenllian Higginson) - y cwpl hapus?

O dipyn i beth, dechreuodd darnau jig-sos y bennod gyntaf ddisgyn i’w lle. Daethom i wybod pwy sy’n perthyn neu’n arfer canlyn ei gilydd, pwy sy’n celu rhywbeth rhag eu hanwyliaid, a bod rhyw ddigwyddiad yn clymu pawb. Dw i eisoes yn amau/gobeithio nad Dylan, y pensaer o briodfab â’r cartref clinigol o wyn sy’n euog - petai dim ond er lles yr actor Geraint Todd iddo beidio cael ei deipcastio, ar ôl gadael Cwmderi fel llofrudd. A ’sdim sicrwydd mai Bethan y briodferch (Gwenllïan Higgingson) sy’n gelain ymysg y gwymon chwaith, gan fod ei morwynion mewn lifrai gwynion tebyg.

Fflur Medi fel Ffion sy'n dychwelyd o Lundain â llond trol o drwbwl

Angharad - mam y flwyddyn? 

Ydi Dyl (Sion Ifan) y ffotograffydd yn dryst?

"...tra byddwn ni'n dau byw"

Mor braf ydi gweld llu o wynebau newydd law yn llaw â’r hen bennau fel Delyth Wyn, Catrin Fychan a Richard Elfyn. Mae Delyth Wyn yn serennu fel Alwen, mam sengl sy’n ei dweud hi fel y mae, ac yn ddoethach na mae rhai’n ei feddwl serch niwed i’w  hymennydd yn dilyn damwain. Rhieni’r darpar briodferch wedyn, Clive a Nesta (Elfyn a Fychan), â chlamp o sgerbwd yn y cwpwrdd. Roedd Fflur Medi yn ffefryn cynnar fel Rhian “y Gog o’dd yn cario babycham yn ei bag ysgol” sy’n llwyddo i bechu sawl un, a chelu poenau prifio’r gorffennol. Dyn a ŵyr beth ydi cysylltiad perchennog y B&B methiannus, Lynwen (Shelley Rees) a’i merch gegog Charlie (Hana Evans) â hyn oll, ac roedd rhywun weithiau’n teimlo bod gormod o gymeriadau ac isblotiau i’w traflyncu mewn awran arferol. Ond go brin fod awdur mor brofiadol Fflur Dafydd am wastraffu’i hamser ar unigolion dibwys, ac y bydd yn llwyddo i blethu pawb a phopeth erbyn y bennod olaf.

Mae’r gwaith camera unwaith eto’n gelfydd, yn llwyddo i ddal pob ystum a chreu awyrgylch anghysurus. Ac mae’r gyfres hon yn well o ran y lleoliadau niferus hefyd - o gartref gothig teulu Gwenllïan i hongliad gwyn modern Dylan, aelwyd deuluol Rhian wedi rhewi mewn amser er damwain drasig ei rhieni, swbwrbia lawn mor bland â Bill druan (Rhodri Meilir), arcêds afler Owen y brawd afradlon (Alex Harries) i’r tŷ gwyliau ar yr arfordir - llawer ohonynt wedi’u ffilmio gefn liw nos gaeafol i ychwanegu at y naws noiraidd. Dw i’n amau Barri a’r cylch. Cymharer hynny ag undonedd y tribiwnlys 35 Awr y llynedd.

Os oes beirniadaeth, yna’r defnydd diog o eiriau Saesneg sy’n britho’r ddeialog ambell dro. ‘Motsh am y rhegi, yr iaith fain sy’n poeni dyn. Wel, fi o leia, gan ategu cwynion ambell un arall diweddar fel Cynog Dafis am safon iaith sathredig rhai o ddramâu’r Sianel yn ddiweddar. Adlewyrchu realiti iaith gyfoes y stryd ydi’r amddiffyniad bob tro, ond siawns mai camp pob awdur Cymraeg ydi sgwennu’n glir a  chywrain heb faglu’n ormodol i gors y Wenglish. Roedd Y Gwyll yn fwy euog o siarad Saesneg yn Gymraeg, Craith i raddau helaeth ac Un Bore Mercher wedyn – oll wedi’u sgwennu’n Saesneg yn gyntaf, a’u trosi’n chwithig i Welsh wedyn er gwaethaf ymdrechion awduron proffesiynol fel Caryl Lewis. Sgriptiau a brofodd fod cyfieithu yn dipyn o gamp a chrefft. O leiaf Cymraeg ydi iaith wreiddiol sgriptiau brand 35 i gyd, o stabl Siwan Jones a Wil Garn i Fflur Dafydd.

Ers sawl blwyddyn bellach, mae rhywun weithiau’n cael yr argraff mai polisi comisiynydd Parc Tŷ Glas/yr Egin ydi dramâu bei-ling bob gafael. Ac mae rhywun yn hiraethu am ddeialogi coeth y diweddar grefftwr Meic Povey, yn frith o ddywediadau a dawn deud naturiol Eifionydd yn y clasur Talcen Caled ac yn fwy diweddar yn saga’r Senedd Byw Celwydd â llond gwlad o idiomau naturiol. Felly hefyd ei gyd awdur o ddyddiau cynnar (ac oes aur yn ôl llawer) Pobol y Cwm, y diweddar ddewin Siôn Eirian.

Ond dw i’n mynd ar gyfeiliorn. Er gwaethaf popeth, dw i’n dal wedi’n rhwydo gan 35 Diwrnod

***PEIDIWCH Â DARLLEN HEB WELD Y BENNOD OLA***

Wedi smonach y parti plu, a hunllef Gwlad Thai, daeth y Diwrnod Mawr. Rhwng mam a gyffesodd ei bod am newid ei rhyw, brawd yn dweud ei fod yn dad i blentyn siawns, a phrif forwyn yn cyfaddef iddi roi ‘anrheg’ cynnar i’r priodfab noson gynt, roedd am fod yn un cofiadwy i’r briodferch am y rhesymau cwbl anghywir. Bu’n rhaid aros tan y gwrthdaro mawr olaf ar ben clogwyn gwyntog i weld pwy oedd wedi boddi. Erbyn deall, Angharad (Emmy Stonelake) y fam orbryderus a gafodd ei bwlio’n feddyliodd gan ei gŵr gydol y gyfres, aeth gyda’r llif. Sy’n eironig, gan iddi geisio cerdded i’w marwolaeth yn y môr ar noson y parti plu.

Do, fe lwyddodd Fflur Dafydd i blethu pawb a phopeth erbyn yr eiliad olaf, hyd yn oed os oedd yn teimlo fel ras wyllt tan y credits clo. Efallai fod angen pennod fach arall i ategu ambell stori, neu ryw chwarter awr ychwanegol fel finale chwe mis, flwyddyn yn ddiweddarach. A barodd y briodas? Ddaeth Nesta mas i’r byd a’r betws fel Hywel? Ai ‘mumsnet’ fwy nag apiau bachu ficeriaid sy’n mynd â bryd Rhian bellach? Ydi Colsyn yn dal yn fyw? A gafodd Bill ei haeddiant?

Efallai ddim. Hwyrach ei bod hi’n well cadw’r cyfan yn benagored, a gadael i’r gwyliwr benderfynu drosto’i hun. Felly, diolch griw 35 Diwrnod am chwe wythnos afaelgar aeth â ni i gyfeiriadau annisgwyl, am godi gwên law yn llaw a’n dychryn (y blincin CCTV na!). Diolch am waith camera a goleuo crefftus ac arwyddgan gofiadwy sydd gyda’r gorau yn y diwydiant. A diolch i dduw am ddrama newydd ar S4C, mewn cyfnod lle maen nhw mor brin â PPE yng nghartrefi nyrsio’r wlad.