Holl amrantau'r sêr


Y syniadau symlaf ydi’r rhai gorau meddan nhw. Dwy gadair, holwr a gwestai cywir, falle potel o win neu ddanteithion (“bisgedi Berffro blas cibabs”). A chan ein bod ni yng nghanol yr C19 fawr, dim stiwdio na chynulleidfa glapiog. Yn hytrach, gardd neu batio (go sylw€ddol mewn rhai acho$ion) y gwestai dan sylw, llond silff ikea o ganhwyllau yma a thraw, tân gwersyll, a gweddïo am noson sych. Garantîd nôl ym mis Ebrill crasboeth, llai sicr ym Mehefin soeglyd. Ac wedi iddi dywyllu, mae’r byd mawr tu allan ynghwsg ac yn caniatáu i’r ddau sgwrsio’n dow dow braf heb na sŵn traffig na thrybestod last orders y pyb agosa.

Dyna gawson ni efo Sgwrs dan y lloer, comisiwn eiliad ola Tinopolis i S4C yn slot nos Lun Pobol y Cwm wedi i fywyd ddod i stop yng Nghwmderi. Yr holwraig ydi’r gantores a’r gyflwynwraig hawddgar Elin Fflur. Tasa hi’n Saesnes, byddai wedi hen ennill teitl nashiynyl treshyr a’i hwrjio mewn ffrog bling Jac yr Undeb ar gyfar seremonïau wobrwyo ITV a chanu molawd wellmeetagain i soldiwrs hen a slacwyr y teulu brenhinol. Fel mae’n digwydd, mae rhyw Gath Jenkins o Gastell-nedd eisoes wedi primarkeiddio ei hun i’r rôl honno.

Diolch i dduw, felly, mai Cymraes go iawn ydi hogan yr Harbwr Diogel. Roeddwn i braidd yn amheus i ddechrau, gyda’r gyntaf yng ngardd arfordirol (nid cwt tatws) Daloni Ffermio Metcalfe. Cyflwynydd yn holi cyflwynydd? Hmm. Ond dw i, ac aelodau eraill o’r teulu, wedi’n swyno am hanner awr bob nos Lun. Roedd rhai’n agoriad llygad.  Tudur Owen bron dan deimlad wrth ddifaru na chafodd ei fam fyth ei weld yn ennill ei blwyf fel diddanwr proffesiynol, a’r emosiwn o gael ei urddo i’r wisg las yn Eisteddfod Sir Conwy Llanrwst y llynedd.

A dyma’r peth yn fy nharo i. ’Da ni heb gael sioe siarad go iawn ar S4C ers amser maith. Tydi soffa Heno na Prynhawn Da ddim yn cyfri. Yno i hyrwyddo rhyw nofel, sioe gerdd Lundeinig, cân gorona neu gyfres deledu maen nhw'n bennaf.



Mae gen i gof plentyn/arddegol o weld tomen ohonyn nhw yn yr wythdegau, o Hywel Gwynfryn (BBC) i Vaughan Hughes (â’r teitl gwych O Vaughan i Fynwy, 1987-1991), Elinor Jones yn y ddwy iaith, Nia Roberts wedyn yn y nawdegau, efallai’n cyd-fynd ag oes aur Croes Cwrlwys a HTV. Gobeithio’n wir fod hyn yn arwydd o aileni’r hen genre cyfarwydd yn y Gymraeg. Sdim angen bysio aelodau o Ferched y Wawr Cwm-sgwt i ryw hongliad o stiwdio na chael eitem gerddorol yn y canol. Cadwch bethe’n syml. Trefnwch westai difyr, a holwr(aig) sy’n barod i ista’n ôl a gwrando. Rhywun fel, ie, Elin Fflur.



Efallai fod y deheuwyr yn teimlo allan ohoni braidd gan nad oes Un Ohonyn Nhw wedi ymddangos hyd yma. Allan nhw ddim defnyddio’r rheol bum milltir fel esgus, achos mae Elin a’i chriw cynhyrchu wedi teithio i bellafoedd Dyffryn Clwyd i holi Nic Parri a Robat Arwyn. Efallai’n wir y gwnawn nhw fentro i’r de o'r Ddyfi, wrth i Drakeford lacio pethau’n raddol ofalus. Waeth beth ddywed y Toris hurt bost a'u #CruelRule. 

Ond plîs, ddim gwleidydd am y tro. ’Da ni di clywed hen ddigon ganddyn nhw dros y can niwrnod diwethaf.

Fel y soniais eisoes, mae'r gyfres hon yn rhan o becyn o gomisiynau eiliad ola i lenwi gwagle gwyliau, sioeau a chwaraeon yr haf ar S4C. Dw i'n siwr fod rhaglenni dogfen nos Sul, Drych, am drefnwyr angladdau a darpar rieni yn ystod y cyfnod govidus hwn yn werth chweil, ond ddim i fi sori. Do, fe fwynheais i ddrama untro Cyswllt (Mewn Covid) rhaglen bry ar y wal Ken Hughes yn cadw ni fynd fis neu ddau yn ôl. Ond na. Bellach, dw i'n dueddol o osgoi popeth pandemig fel, ym, y pla.

Ddy Ffab Ffôr 

Na, dihangfa dwi isio bellach. Ddim adlewyrchiad o'r byd dan glo wrth roi traed i fyny o flaen y bocs. Dw i eisiau gwylio llond pafiliwn o bobl yn g'lana chwerthin ar jôcs Ifan Jones Evans (hyd yn oed os dw i ddim). Dw i eisiau dogn o hiraeth o weld cymeriadau sebon yn cwtsio a chwffio, fel rhifyn diweddar Cassie yng nghwmni Sue Roderick (pa mor dda oedd pennod Dolig 2018 efo Cassie a Jean yn Tenerife, gyda llaw). A dw i eisiau chwarae ditectif efo’r Ffrancwyr, Belgiaid a’r Pwyliaid. 

Ac oes, dwi isio mwy o sgwrsio diddan dan y lloer.