Mynadd. ’Da chi’n disgwyl yn nerfus am ailwampiad newydd o
hen ffefryn – ac maen nhw’n llwyddo i wneud cawl potsh ohoni. Y dihiryn ydi
Netflix, a’r gyfres dan sylw yw Young
Wallander. Roeddwn i wedi hanner disgwyl pethau gwell, o gofio mai
cynhyrchwyr y cyfresi Swedeg gwreiddiol o 2005-2013, Yellow Bird, sydd hefyd yn
gyfrifol am hon. Ond hold on Now John. Nid Sweden y 70au sydd yma, pan ddylai’r
Kurt Wallander gwreiddiol fod yn ennill ei streips fel cyw aelod o’r Polis – ond Sverige heddiw. Ac nid gwlad
Swedeg ei hiaith gawn ni chwaith, ond un lle mae pawb – o’r prif gopyn i
ddihirod mawr a mân Malmo (neu Vilnius, prifddinas hyfryd Lithwania yn yr achos yma) – yn siarad Saesneg y sgowsar, y geordie a’r gwyddel.
Dim ond Adam Pålsson sy’n
gneud unrhyw ymdrech i swnio fel brodor. Does ryfedd fod y cr’adur yn edrych yn gyfan gwbl ar
goll drwy’r cyfan, ac allan o’i ddyfnder yn llwyr, sy’n biti o gofio pa mor
effeithiol oedd o yn nrama gangstyrs Before
We Die Walter Presents.
Mewn oes lle mae dramâu wedi’u hisdeitlo yn gyffredin, dair
blynedd ar ddeg wedi i Forbrydelsen
o Ddenmarc ennill ei phlwyf yma ym Mhrydain a mwy, mae penderfyniad Yellow Bird
a Netflix i eingl-americaneiddio un o allforion mwyaf Sweden yn benderfyniad od
a rhwystredig ar y diawl. Da ni 'di bod yma o'r blaen wrth gwrs, gyda fersiwn Syr Ken Branagh o'r ditectif pruddglwyfus o Ystad a wnaed gan y BBC rhwng 2010 a 2016, gyda sinematograffi hynod drawiadol. Alla i ddim credu bod y diweddar awdur Henning Mankell wedi rhoi sêl bendith i nytsrwydd netfflics cyn marw o gancr yn 2015.
Bocset arall i’r bin felly. O wel. O leia’ ga i
ganolbwyntio mwy ar ragor o Ynys Fadog y Dr Jerry Hunter.