Tymor newydd


Mae llwyddiant S4C dros y cyfnod clo yn amlwg iawn. Dyrnaid o gomisiynau funud ola, ar gyllideb go bethma dan reolau cadw pellter caeth. Atgyfodiad o’r hen sioeau siarad sy’n dod i’r brig, ac roedd pawb yn falch o glywed bod yna gyfres arall o Sgwrs dan y lloer i ddod gydag Elin Fflur a’i photel o win a blanced gynnes yng ngerddi rhai o enwogion (gogleddol) y genedl. Roedd cwis chwaraeon Owain Gwynedd (sydd isie trefnu apwyntiad barbwr erbyn hyn - maen nhw ’di ailagor bellach sdi Ows) Gêm Gartre yn llwyddiant annisgwyl bob nos Wener hefyd, fel sgyrsiau Morgan Sgorio Jones o erddi a stad ’sblennydd Garreglwyd, Môn, yn Natur a Ni. Ches i ddim cymaint o flas ar Lle Bach Mawr, rhyw brosiect pum mil rhatach o gartrefi tri chynllunydd - yn wahanol iawn i Bwrdd i Dri - addasiad/sgrînladrad Cymraeg o gyfres hirhoedlog Channel 4, Come Dine with Me, lle mae dieithriaid yn cystadlu am goron y gegin wrth baratoi pryd o fwyd yng nghartrefi’i gilydd.

Siŵr braidd mai gwesteion ffraeth a difyr ydi prif gynhwysyn rhaglenni o’r fath, ac wnaeth yr un gyntaf gyda Carys Eleri, Aled Sam ac Ameer Davies-Rana ddim siomi o gwbl. Yn wir, buasai’n hawdd i hon fod yn gyfres awr o hyd (c’mon, os ydi’r Dechrau Canu newydd yn cael hanner awr o estyniad...) gyda’r tri’n eistedd rownd bwrdd heluog braf i drafod eu ‘bechingalws’ (bhajis nionod o lyfr ryseitiau Ameer) wrth i’r gwin lifo a llifo. A gyda sylwebaeth tafod-yn-boch Tara Bethan, mi ges i andros o hwyl ac ambell ysbrydoliaeth i swper. Gawn ni Carys Eleri yn westai bob wythnos plis?

Gyda chyfres arall o’r gystadleuaeth gerdded Am Dro ar y gweill, a'n dwy sioe sebon yn ailgychwyn nos Fawrth 8fed o Fedi, mae’n argoeli i fod yn dymor go ffrwythlon.