A dyna ni. Y Dolig a’r flwyddyn uffernol honno drosodd. ’Da ni di gadael un Undeb ond yn dal yn gaeth i un jingoistaidd arall. A dw i newydd ddal i fyny ar gyfweliad sobreiddiol Dewi Llwyd efo’r Athro Richard Wyn Jones o Oslo a Chaerdydd, lle mae’n rhagweld “rhyfel diwylliannol ehangach ym Mhrydain rhwng y dde a’r chwith rhyddfrydol” o safbwynt perthynas yr Alban a’r Undeb a hyd yn oed dyfodol y BBC (lleihau’r arian i’r Gorfforaeth Ddarlledu, dileu’r drwydded, gyda goblygiadau difrifol i S4C).
Ond dw i ddim am ymdrybaeddu dan y felan. Yn hytrach, ymhyfrydu yn y ffaith bod un o’m hoff Ewrogyfresi’n ôl ar ein sgriniau. Ydy, mae’r wythfed gyfres o’r clasur Ffrengig Spiral (Engrenages) ymlaen ar BBC Four bob nos Sadwrn. Ar olaf un hefyd, wedi pymtheg mlynedd. Ond da ni’m isio meddwl am bethau trist felly rŵan.
Diweddglo hapus i Gilou et Laure? |
Peidiwch da chi â disgwyl llawer o olygfeydd ystrydebol o’r Paris twristaidd yma. Yn hytrach, Paris yr ymylon, lle mae heddweision llwgr yn y clinc, cyfreithwyr yn hapus i gael cildwrn, pentref pebyll digalon y digartref dan drosffyrdd llawn graffiti, a’r gymuned Ffrengig-Arabaidd yn berwi o densiwn. Ydy, mae’r hen ffefrynnau yma’n rasio rownd strydoedd perig yr 18e arrondissement fel Les Keystone Cops yn eu Clios tolciog a’u Golf GTE secsi, yn mynd yn groes i’r graen awdurdodol ac yn caru a checru eu ffordd drwy fywyd.
Josephine, Laure & Souleymane y Morociad ifanc
A dw i’n edrych ymlaen yn fawr at weld beth fydd tynged y cariadon anghymarus Capitaine Laure Berthaud (Caroline Proust) a’r Lieutenant Gilou Escoffier (Thierry Godard) wrth i’r olaf gael ei ryddhau o’r carchar yn ei henw hi mewn achos o flacmel ar ddiwedd y gyfres ddiwethaf – ond sy’n gorfod ymatal rhag cadw mewn cysylltiad fel rhan o amodau’r barnwr. A gaiff y gochen ddadleuol Joséphine Karlsson (Audrey Fleurot) getawê efo pethau eto? Da ni’n sicr yn gweld ei hochr ddynol bob hyn a hyn, wrth iddi geisio achub y Morocan ifanc Souleymane rhag cyffurgwn yr isfyd a rhoi llety i’w chleient Lola mewn achos o dreisio. A fydd y Capten Amrani ifanc uchelgeisiol (Tewfik Jallab) yn llwyddo i gadw’i ben wrth fod yn bartner i Laure fyrbwyll? A tybed oes yna ramant yn blaguro rhwng y prif gopyn Beckriche a Barnwr Bourdieu? Tydi sgwenwrs Spiral heb fod yn glên iawn i gariadon yn y gorffennol, rhwng saethu’r pishyn Pierre yng nghyfres pump a lladd Samy mewn bom swyddfa’r heddlu yng nghyfres pedwar. Sori i bawb sy’n dechrau binjo o’r dechrau’n deg gyda llaw!
Yn wahanol i’r tro diwethaf, mae’r gyfres gyfan eisoes ar gael ar iPlayer ond dw i’n trio ’ngorau glas i beidio ildio i’r demtasiwn a sawru bob pennod yn fyw ar nosweithiau Sadwrn gyda botel o goch.
Mae'n gyffrous, yn amlweddog, yr iaith Ffrangeg yn byrlymu, ac yn llawn cymeriadau dw i wir yn malio amdanyn nhw serch eu ffaeledddau.
Mon dieu, mae’n dda.
Y 'dream team' gwreiddiol