Trafferthion symud ty

 


 

Mae 25 o staff S4C wedi symud i’w cartref newydd ym mhencadlys BBC Cymru, Sgwâr Canolog, Caerdydd ers ddiwedd Ionawr. Criw’r adran gyflwyno, llyfrgell, marchnata a hyrwyddo mae’n debyg. Hyfryd, a chyfleus iawn i fwrlwm canol y brifddinas a’r orsaf fysus newydd sbondonics draws ffordd.

Ond pam symud, â swyddfeydd blaenorol Parc Ty Glas i'w gweld yn ddigon modern a tsiampion ers ugain mlynedd? Efallai nad oedd drysfa stad ddiwydiannol yn Llanishen, ger campfa gadwyn, swyddfa ddidoli'r post, warws storio geriach a fan byrgyrs ddim yn gweddu i ddelwedd y Sianel mwyach.

Hen swyddfa 'Park Tee Glass' ys dywed y locals

 

Dyma resymeg y prif weithredwr Owen Evans:

 

O hyn ymlaen mi fydd y BBC yn gyfrifol am ddarlledu a dosbarthu S4C ar deledu ac ar-lein, yn ogystal â bod yn gyfrifol am isadeiledd technegol S4C.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio'n ddiwyd i sicrhau'r trosglwyddiad llwyddiannus hwn.

 

Calla dawo, OE - achos bu’n siop siafins inni wylwyr wrth golli arlwy dal-i-fyny ar wasanaethau Clic ac iPlayer, heb son am isdeitlau ar streic.

Er gwaetha’r holl heip, doedd bocset Fflam ddim ar gael. Ddim bod hynny’n fy mhoeni i, fel un fethodd yn lân â chymryd at gynhyrchiad diweddara Vox Pictures, flavour of the month (os nad y flwyddyn) y Sianel ys dywed y Cadeirydd Rhodri Williams

Ond roedd colli’r isdeitlau yn boen, fel un trwm ei glyw. Dw i’n ffan mowr o Clic gan fod opsiwn isdeitlau Cymraeg ar gael i’r cyfresi sebon tra mai dim ond Saesneg ydi’r iaith ddewisol ar iPlayer, ond bod hwnnw ar gael ar deledu clyfar hefyd. Mae’n siŵr y bu’n niwsans i’r miloedd o wylwyr di-Gymraeg a dysgwyr yr iaith hefyd, sy’n dibynnu cymaint ar isdeitlau i fwynhau’r arlwy. Roedden nhw ar goll o bennod neithiwr (23/2/21) o Pobol y Cwm pan wnes i ddal i fyny dros frecwast heddiw. Alla' i wir ddim gorbwysleisio pwysigrwydd isdeitlau i ddeall a gwerthfawrogi rhaglenni i’r carn. Does dim modd darllen a deall gwefusau actorion a chyflwynwyr o hyd. Dyna pam mae theatr byw yn gallu bod yn brofiad hynod rwystredig i mi weithiau, yn ogystal â rhai rhaglenni radio a phodlediadau.

Heb isdeitlau, waeth i mi ddiffodd y set a pharhau i ddarllen mwy o nofel ragorol AberNoir ddim. Ac nid lleiafrif ydw i. Mae ffigurau’r Action on Hearing Loss yn awgrymu bod tua 575,000 o bobl byddar a thrwm eu clyw yma yng Nghymru.

Efallai bod angen ymgyrch farchnata newydd, ar lun Transl888, i hybu a hyrwyddo'r gwasanaeth a denu mwy fyth o wylwyr i gorlan S4C.

Mae symud cartra newydd yn ddigon anodd fel mae hi, heb ychwanegu pandemig byd-eang syrffedus at gymhlethdodau logisteg a thechnolegol i ddarlledwr cenedlaethol. Gair i gall S4C – ewch ati orffen gwagio’r bocsys, sortio’r stafell baned, gwneud eich nyth a bodloni ar aros lle'r ydych chi am flynyddoedd mawr i ddod.