Nôl i'r Nawdegau

 


 

 

Maen nhw’n brysur yn atgyfodi cyfresi’r 90au a’r mileniwm ar y bocs y dyddiau hyn. Yr Americanwyr sy’n arwain y blaen fel arfer, gyda fersiynau newydd o’r llwyddiannau comedi Frasier i Sex and the City ar y gweill. A na, welais i’r un o’r gwreiddiol chwaith. Mae S4C wedi penderfynu dilyn y llif hefyd, gyda’r cyhoeddiad y bydd Tipyn o Stad (2002-2008), am drigolion brith Maes Menai, yn dychwelyd yn 2022 dan yr enw Stad. Tybed a fydd Jennifer Jones yn ffeirio desgiau newyddion Dros Ginio a Wales Today am ddillad lledr ac agwedd Heather Gurkha, a lwyddodd i oroesi’r bwled yn y bennod olaf un? Mae’n debyg bod yna gynulleidfa barod i’r fersiwn newydd, wedi i bocsets Clic ddenu bron i 240,000 o sesiynau gwylio yn gynharach eleni. O leiaf mae ailbobiad o’r arwyddgan yn saff yn nwylo’r band lleol Ciwb – trowch i dudalen Facebook Elis Derby am berfformiad arbennig o ‘Tipyn o Stud’ efo Russell Jones (“Stud” Williams) ar y gitâr.

Criw ffilmio "Stad", haf 2021 - tipyn mwy gwledig na'r Maes Menai gwreiddiol

 

Mi fuaswn i’n bersonol wrth fy modd gydag aduniad o gyfres wedi’i lleoli 130 o filltiroedd i’r De o Dre. Dros y nosweithiau a’r wythnosau diwethaf, cefais fodd i fyw yng nghwmni breninesau canu gwlad y Gwendraeth eto. Dw i wedi glana chwerthin yn eu cwmni, wedi cyd-hymian caneuon cyfarwydd Caryl a Tudur Dylan Jones, wedi dotio at yr actorion ifanc, cofio ambell olygfa a chymeriad, teimlo i’r byw dros ambell un ac eisiau tagu un arall.

Ie, Tair Chwaer (1997-99), sydd wedi ’nghadw i fynd dros deledu symol yr haf. O holl gampweithiau sgwennu Siwan Jones, dw i’n credu mai hon sydd drechaf. Efallai bod rhai o’r props yn perthyn i Sain Ffagan bellach – y fideos VHS, bocsys ffôn BT, y Ford Capri a’r Austin Montego – ond mae’r strach a stryffig teuluol yn oesol. A does neb yn ei chanol hi’n fwy na Sharon (Donna Edwards, bellach yn fwy cyfarwydd fel Britt Pobol y Cwm) sy’n ceisio gigio’n rheolaidd gyda’i chwiorydd Janet a Lyn, glanhau cartrefi dosbarth canol yr ardal, magu tri o blant ar ei phen ei hun gan mwyaf wrth i’w gŵr Alan (Dewi Rhys Williams sy’n ardderchog fel yr hen bwdryn) drawswisgo’i ffordd i wely Yvonne y Post (Toni Carroll). Oes, mae yna blethiad o straeon go dywyll – alcoholiaeth, Alzheimer, stelcio, blacmelio ar sail rhywioldeb – ac mae rhywun yn crefu am ysbaid i ambell gymeriad weithiau. O hei! ’sdim drama mewn bywyd tawel. Diolch byth am y fflachiau o hiwmor. Mae un golygfa o’r ail gyfres yn crisialu hyn i’r dim. Golygfa gomic hyfryd rownd bwrdd y gegin, ar ôl i Alan brynu Idris yr Igwana i Sharon yn lle Twts y ci a gafodd fflatnar gan gar. Ac mae’r un o Sharon a’r plant yn canu Calon Lân ar lan bedd Twts yn yr ardd gefn, wrth i Alan herian-udo o bell, yn glasur arall.

Anghofiwch am Spice Girls Lloegr o’r un ddegawd – y chwiorydd hyn oedd (gwd) gyrl power Cymru. Sgwn i beth yw eu hanes nhw heddiw. Dal i chwarae ambell gig yng nghlwb rygbi Gors-las? Cân yr wythnos ar raglen John ag Alun ac ambell Noson Lawen? Sesiwn yn Nashville? Byddai’n braf gweld actorion angof fel Sara McGaughey, Nicola Hemsley a Llio Millward yn ôl ar ein sgriniau.

Dewch ’laen S4C. Rhowch gomisiwn newydd i Siwan Jones.