S4/Covid




Mae’n nos Wener, dwi’n y parlwr gyda laptop a photel o’r Brawd Houdini tra mae mam/Nain a’i hwyrion drws nesa’n gwylio Côr Digidol Rhys Meirion yn y lolfa (da ni’n un teulu mawr cyn i chi sgrechweiddi HUNANYNYSU!!). Dw i’m balchach. Dw i chwaith heb ymuno ag unrhyw Gôrona ar gweplyfr, pobi torth fanana na cheisio rhyw gwis tafarn zoom neu beth bynnag arall mae rhywun "i fod" i’w wneud dros y cyfnod govidus hwn. 

Galwch fi’n Victor Meldrew.

Does gennai fawr o awch nag awydd gwylio unrhyw beth sy’n ein hatgoffa o’n bywydau dan glo ar hyn o bryd chwaith. Ond dyna’n union mae S4C am ei wneud dros yr wythnosau nesaf, gyda thon o gomisiynau newydd i lenwi gwagle’r haf ers i bopeth byw – o’r Sioe i’r Steddfod, Ewro 2020 a phenllanw’r Pro14 – gael ei ganslo. Comisiynau gwerth £6 miliwn, cofiwch, gan sicrhau buddsoddiad a hwb aruthrol i’n cwmnïau annibynnol ni yn y fath ddyddiau digyffelyb. Pob clod i’r Sianel felly, fel y nodais mewn colofn i nation.cymru yn ddiweddar yn fy Saesneg clapiog.

Beth ydy’r cyfresi coronabethma felly?      
  • Syrjeri Amlwch (Darlun) – rhaglen bry ar y wal yn dangos sut mae canolfan feddygol a chymuned ym Môn yn ymdopi â sefyllfa Covid-19. Sgwn i a fydd perchnogion tai haf lleol â phwl o beswch drwg yn bresennol?
  • Priodas Dan Glo (Boom) – Trystan ag Emma a llond skype o s’lebs yn trefnu cymorth a syrpreis i gwpl sy’n ysu i briodi ers tro byd. Buasai rhaglen arall sy'n cwrdd â chyplau'r gyfres dros y blynyddoedd yn ddifyr hefyd, i weld a ydyn nhw'n dal yn hapus neu wedi ysgaru. Meddyliwch am y fath ddrama! 
  • Babis Covid - cofnod o adegau hapus ond heriol/anodd wrth i deuluoedd fethu dod ynghyd i ddathlu’r newyddanedigs o’n plith.
  • Ffermwyr Ifanc yn Cicio’r Corona – cip ar ymdrechion aelodau’r mudiad i ymdopi ar hyn o bryd. Gyda naill ai Ifan neu Meinir, siŵr o fod, os ydyn nhw wedi gorffen wyna.
  • Tŷ Bach Mawr - y syniad odiaf hyd yma, sef “edrych ar greu pob math o adeiladau bach trawiadol yn ein gardd gefn”. Tai bach? Cwt offer garddio? Tŷ coeden i’r plant? Dyn a ŵyr. Prosiect nesaf sardonig Aled Sam efallai.
  • Mae cwmni Boom Cymru hefyd yn chwilio am gystadleuwyr brwd ar gyfer cwis soffa newydd, yn ymwneud â’r byd teledu o be’ ddealla i.



Fel yr atega blyrb Swyddfa’r Wasg:

Yn ychwanegol mae cynlluniau ar waith gyda chymeriadau Pobol y Cwm, Goreuon Priodas Pum Mil, Goreuon Gwesty Aduniad ac Ysgol Ni Maesincla: Diwedd Tymor er mwyn sicrhau bod nhw'n parhau i ymddangos ar y sianel.

Ond y comisiwn mwyaf atyniadol i mi, a welwyd nos Iau yma, oedd cyfres ddrama tair rhan Cyswllt (mewn Covid). Wedi’i chreu o bell gan griw o actorion adref ar eu gliniaduron a’u ffonau clyfar eu hunain, a gwaith ffilmio ar wahân i bontio straeon y cyplau gwahanol, cawsom hanner awr emosiynol o unigrwydd, ofnau a gobeithion y cymeriadau. O ŵr sy’n gorfod gwersylla yn yr ardd er mwyn cadw pellter rhag ei wraig sy’n taclo canser, dwy ffrind sy’n ei chanol hi fel nyrsys rheng flaen, a nain ac wyres annwyl, cawsom sawl agwedd ar fywyd ar hyn o bryd. Wedi’i chynhyrchu gan gwmni Vox Pictures, a oedd wedi gorfod rhoi’r gorau i ffilmio trydedd gyfres Un Bore Mercher am resymau amlwg, mae’n anorfod fod llawer o’r actorion hynny yn ymddangos yma (minws Eve Myles). Mae’n gynhyrchiad teuluol ar y naw hefyd, gyda’r cyfarwyddwr Pip Broughton yn wraig i Aneurin Hughes (Dewi) sy’n rhieni i Ela Hughes, cyfansoddwraig rhai o ganeuon siwgraidd y ddrama.

Cymru fach.

Ond mae’n gyfres fach werth chweil, a’r gwaith ffilmio cartref agos-atoch, yr eco a’r seibiau heb na cholur na gimics camera arbennig i ‘fireinio’ popeth yn creu naws dim lol sy’n boenus o real ar adegau. Mi alla i wylio monolog cyfan efo Christine Pritchard. Beth amdani, Gomisiynydd Drama? 

Mae S4C wir wedi achub y blaen ar sianeli fel ITV a Netflix sy’n brolio eu dramâu Covid eu hunain. Gair i gall, Guardian a’u teips – tydi’r Saesneg ddim yn torri tir newydd bob tro.