Mae gan S4C hanes hir o annog siaradwyr newydd yr iaith. Llawer mwy a gwell na BBC Wales ac ITV Wales, er bod rhai'n dweud mai'r sianeli hynny ddylai fod yn darlledu rhaglenni cyfrwng Saesneg i ddysgu Cymraeg.
Mae gen i frith gof o gyfresi cwmni Acen o’r 90au, Now You’re Talking, wedi’u cyflwyno’n ddwyieithog gan Elin Rhys ac
a ddefnyddiai rhai fel Richard Elfyn (35 Diwrnod), Siân Rivers, Jenny Ogwen a
Gareth Morris oedd yn actio sefyllfaoedd bob dydd fel coginio, cyfarch pobl,
siopa neu weiddi ar y plant i fynd i’r gwely. Cafodd y fformat ei addasu fel
Speaking our Language gan Scottish Television er mwyn hybu’r iaith Aeleg yn fan’no.
Yn y mileniwm newydd, dechreuodd y Sianel borthi obsesiwn anghynnes y plebs â’r
s’lebs gyda Cariad@Iaith (2002-15) dan
law'r fythol heulog Nia Parry ac weithiau Gareth Roberts, trwy anfon llond bŵtcamp
ohonyn nhw ar gwrs dwys yn Nant Gwrtheyrn, gan gynnwys Ruth Madoc, Gareth ‘Alfie’
Thomas, Tanni Grey Thomson, Neville Southall, Lembit Öpik (cofio hwnnw?), Lucy
Cohen, Tom Shanklin a Janet Street-Porter a’i galwodd yn “ugly and ludicrous” (y
Gymraeg, nid JSP am wn i) mewn colofn bapur newydd yn 2004.
Ers hynny, ni chlywyd gair o Gymraeg o enau’r cyfryw
ddysgwyr ‘enwog’ ac eithrio Matt Johnson fu’n cyflwyno ambell gyfres ar y cyd â
Nia ac Ioan Talfryn o Ddyffryn Clwyd, a slot Dal Ati. Hefyd, Suzanne Packer wnaeth ymddangosiad clodwiw fel Ruth yn nrama hynod gyfoes Cyswllt (Mewn Covid) yr wythnos hon.
Mae’r fformat
dysgu treigladau mewn tîpis wedi hen ddiflannu erbyn hyn, ac eleni, cawsom un
newydd ar ffurf Iaith ar Daith, gyda s’lebs di-Gymraeg yn paru ag
enwogion Cymraeg eu hiaith i ddysgu a chyflawni mân dasgau. Doedd gen i fawr o
fynedd efo ambell un, fel cyn-gyfrannwr Countdown sydd wedi ailddarganfod
ei Chymreictod mwya’r sydyn a chael joban Radio Wales ar ôl i’w gwaith ar
rwydwaith teledu Lloegr sychu’n grimp heblaw am hysbysebion siwrans ar Channel
Five. Ond wythnos diwethaf, gwelsom yr actores gomedi a’r awdures Ruth Jones
mewn partneriaeth â Gillian Elisa Thomas, yn teithio o fart Llanymddyfri i
orsaf drenau Merthyr a stiwdios Pobol y Cwm gan gofleidio ei Chymraeg
i’r byw. Daeth drosodd fel menyw hollol ddidwyll, wrth hel atgofion am ei
magwraeth ym Mhorthcawl, cofio dysgu canu “Iesu Tirion” yn yr ysgol gynradd, a’r hwyl a’r
cynhesrwydd arbennig o ffilmio Stella (Sky One 2012-17) yn y
Rhondda. Roedd yn siwrnai hynod emosiynol hefyd, wrth iddi ddychwelyd i’w hoff
draeth ‘Rest Bay’ i gofio am ei diweddar dad. Ychydig nosweithiau wedyn, bu’n siarad yn fyw ar Heno trwy gyswllt skype o! mor
gyfarwydd inni gyd bellach, gyda brwdfrydedd a rhuglder. Gawn ni gyfres
reolaidd ganddi hi a Gillian Elisa, plîs S4C?
Cyfres codi calonnau, heb os. Alla i
ddim disgwyl am daith Adrian Sgorio
Chiles a’i fentor Steffan Powell nesa.