Haf ganol gaeaf




Mae trefnwyr amserlenni teledu wedi deall hi i’r dim. Gyda’r Bod Mawr yn pledu trowyntoedd, cesair peli golff ac eira taranau arnon ni feidrolion y ddaear gythryblus hon yn ddiweddar, dyma’r adeg berffaith i ddianc i ddramâu sy’n fôr o oleuni. Gydag ail gyfres siomedig sy’n datblygu i sterics sebon, llys barn amheus, sainladrad o The Killing ac ail blot diddrwg didda efo Eve Myles, yr unig achubiaeth i Broadchurch i mi ydi traethau a chlogwyni ysblennydd Dorset. Mae cyfres ddrama newydd nos Fercher hefyd yn wledd i’r llygaid, megis hysbys sgleiniog Croeso Cymru. Sut gythraul gafodd criw Lan a Lawr gymaint o haul wrth ffilmio?

Wedi pennod agoriadol awr o hyd, rydym bellach yn ôl i hanner awr wrth ddilyn hynt a helyntion Delia o Abertawe (Beth Robert) sy’n llwyddo i bechu pawb ar ôl cyflwyno’i merch 17 oed i’w thad Mal (Dewi Pws) am y tro cyntaf adeg gwibdaith o’r Gŵyr i Eryri. Mae yna lot o olygfeydd godidog o’r henwlad ’ma. Lot lot fawr. Olreit, gormodedd. Achos mae’r holl luniau llanw, y siots panoramig o’r môr a’r mynyddoedd cyn torri i siots sefydlu swbwrbia a ’Sbyty Gwynedd yn ailadroddus ac yn arafu llif y stori. Mae yna gyfuniad da o wynebau hen a newydd, heblaw’r penderfyniad od ar y naw i gastio actores ifanc o Gaerdydd fel Elen, sy’n swnio’n hollol wahanol i’w brawd sy’n Lanbêr rhonc. Efallai fod ganddi hi dad diarth o’r De hefyd. Dyn a ŵyr.

Trueni, achos mae’n tynnu oddi ar berfformiadau hyfryd y fam a’r ferch (Beth Robert ac Anni Dafydd), a’r ysgafnder rhwng mam a mab (Heulwen Haf a Dewi Rhys Williams) a’r brawd a chwaer (Llion Williams a Gwenno Hodgkins mewn aduniad C’mon Midffild). Ac mae deialog naturiol Gareth F Williams yn llifo fel mêl wedi’r holl gyfieithu a fu mewn dramâu blaenorol. Wn i ddim sawl cyfres gawn ni gyda’r prif gymeriad yn dioddef o diwmor yr ymennydd, ond mewn cyfweliad radio diweddar â Caryl, awgrymodd Beth Robert yn gryf bod ’na ragor i ddod. Gyda llai o siots llanw gobeithio.

Gwaith Cartref ydi un o’r enghreifftiau prin hynny o ddrama gredadwy wedi’i gosod yn y De-ddwyrain (cofio Glan Hafren?) lle pawb yn siarad Cymraeg yn rhwydd braf â’i gilydd, yn Gog, Hwntw, dysgwr a dwli Wyn Rowlands. Ac mae mor Gymreig hefyd, gyda’r bardd-odinebwr Geraint Penlan (John Pierce Jones) yn diawlio dedleins cylchgrawn Barn a chael ei ‘urddo’ yn y garafán gan fam ei blentyn yn Steddfod Meifod 2003. Ond atgoffwch fi i ddiffodd y teli cyn i’r credits cloi ddifetha syrpreis a hanner am Lolita feichiog Bro Taf...

Broadchurch, ITV, 9 o’r gloch nos Lun
Lan a Lawr, 8 o’r gloch nos Fercher
Gwaith Cartref, 9 o’r gloch nos Sul