Holi a stilio a ffraeo


Mae’r byd adolygu a beirniadu Cymraeg wedi cael cryn dipyn o sylw’n ddiweddar. O gynhadledd undydd yn Aberystwyth i erthyglau difyr yn Barn a llythyrau gan gynhyrchwyr teledu piwis yn Golwg, mae rhyw awch ac awydd cyffredinol i weld mwy o drin a thrafod go iawn yn hytrach nag erthyglau broliant yn unig. Roedd cryn edrych ymlaen, felly at Pethe Hwyrach (bob nos Fercher 9.25pm), seiat dafod y celfyddydau gyda Nia Roberts a gwesteion gwadd bob wythnos. Ac er bod y rhiant-raglen, Pethe, yn cynnwys pytiau digon difyr a safonol, mae ’na ormod o naws rhaglen gylchgrawn Wedi 3aidd iddi braidd.

Er bod fformat Pethe Hwyrach yn ddigon syml a chyfarwydd - cyflwynydd a thri gwestai yn eistedd mewn stiwdio foel gyda chadeiriau esmwyth, bwrdd coffi a sét deledu - y pynciau dan sylw sy’n bwysig ac yn hoelio’r sylw. Y “tri dewr” (fel y’u cyflwynwyd gan Nia Roberts) yn y rhaglen gyntaf oedd y dramodydd a’r cyfarwyddwr Ian Rowlands, adolygydd cyfarwydd Radio Cymru Sioned Williams, a’r colofnydd Rhys Mwyn. “Mwyn” yw’r gair olaf sy’n dod i’r cof, fodd bynnag, wrth iddo lambastio crynoddisgiau diweddaraf bandiau Blaenau fel hen “hwiangerddi” plentynnaidd. Ymateb dewr ond cyfarwydd iawn i ddarllenwyr y Daily Post Cymraeg. A pham lai? Rhydd i bawb ei farn, medden nhw. O leiaf roedd y tri’n fwy unfrydol ynglŷn â ‘Deryn Du’, drama ysgytwol Theatr Bara Caws am baedoffilia, ac yn sicr wedi annog mwy o’m cyfoedion i fynd i’w gweld ar daith. Ac rwy’n siŵr fod Emlyn Gomer yn hapus iawn gyda’r sylw ffafriol a gafodd ei nofel newydd, pan fo cyn lleied o gyfleoedd i gael hys-bys y tu allan i heip a chyhoeddusrwydd mawr y Steddfod a’r Dolig. Croeso mawr felly i’r rhaglen hon. Fel yr atgoffodd Ian Rowlands ni, does dim byd tebyg wedi bod ar y sianel ers sbel – bron ers dyddiau Croma ym mabandod bregus S4C Digidol!

O drafodaeth aeddfed a deallusol, i ddiawlio a ffraeo fel ci a chath. Toedd Gordon na David ddim hanner mor serchus tuag at Nick yn yr ail ddadl brifweinidogol ar Sky News wythnos diwethaf, a toedd panel Pawb a’i Farn o Fethesda ddim yn glên i gyd chwaith. Yn wir, aeth pethau’n ddigon blêr a hyll o bersonol rhwng y Ceidwadwr Guto Bebb a’r Pleidiwr Elfyn Llwyd ar adegau, a Dewi Llwyd saff a dibynnol yn methu fel reffarî am unwaith. Ond fe gafwyd comedi anfwriadol hefyd, wrth i’r Llafurwr Albert Owen helpu’r Rhyddfrydwraig hoples Christine Humphreys i gofio am fanion polisïau trethi ei phlaid. Argoel o’r senedd grog arfaethedig, efallai?
Mae'r ymrafael diweddar ac embaras Brown a 'Duffygate', wedi dwyn i gof rai o lanast etholiadol y gorffennol gan gynnwys y Llafurwr enwog hwn yn cymryd rhan yn un o hoff weithgareddau ymwelwyr y Rhyl -paffio - yn ystod ymgyrch etholiadol 2001.



Be haru gwleidyddion a wyau? Dyma'r olygfa yn senedd Iwcrain wythnos diwethaf.



Ac fe aeth pethau braidd yn boenus o bersonol rhwng ddau aelod o lywodraeth Prague yma hefyd...



R'argian. Meddyliwch sut sut siap fyddai ar ffigyrau gwylio Y Dydd yn y Cynulliad ar S4C petai'r ACau yn bwrw iddi go iawn fel rhain!

Taflu llwch i'n llygaid?



Gair mawr ailadroddus yr wythnos, heb os, oedd “hanesyddol”. Gair a ddefnyddiwyd i ddisgrifio’r cyntaf o dair dadl deledu fawr rhwng tri o arweinwyr gwleidyddol Lloegr, sori, Prydain ar ITV nos Iau diwethaf. Ac mae’n rhaid bod yr holl heip wedi llwyddo, gan i mi wylio’r rhan fwyaf o’r 90 munud o’r hyn a oedd, i bob pwrpas, megis Question Time heb ddim smic gan y gynulleidfa. Ac yn sgil yr ymateb cadarnhaol, mae’n debyg y caiff y trafodaethau hyn sy’n rhan annatod o syrcas etholiadol America ers 1960, eu mabwysiadu’n barhaol yn yr ynysoedd hyn. Wnaeth Brown, Cameron na Clegg ddim smonach ohoni - dim baglu dros eu geiriau, chwysu dan oleuadau’r stiwdio na phigo’u trwyn ar y slei - yn wir, roeddynt yn ddiflas o broffesiynol. Ond dyna ni, maen nhw’n feistri corn ar drin y cyfryngau, gyda’r camerâu’n eu dilyn bob cam o’r daith canfasio y dyddiau hyn. Ac mae’n debyg fod protestiadau Plaid Cymru a’r SNP wedi dwyn ffrwyth, wrth i’r darlledwyr mawr Seisnig, sori, Prydeinig gymryd sylw ohonynt. Fore Sul diwethaf, mi fentrodd criw Sky News i’r Gyfnewidfa Lo yng Nghaerdydd i holi pedwar cynrychiolydd y pleidiau Cymreig - gydag Ieuan Wyn yn ennill y ‘Clegg Ffactor’ a dod drwyddi orau ym mhôl piniwn y gwylwyr, a Cheryl Gillan yn codi cywilydd ar y Ceidwadwyr trwy awgrymu fod Rhodri Morgan yn dal yn ben bandit y Cynulliad. Ac mae ITV Cymru a BBC Cymru am neilltuo llwyfan i’r Cymry yn ystod yr oriau brig, heb sôn am yr hen ffefryn dibynadwy Pawb a’i Farn o Fethesda nos fory.

Bob tro yr oedd y cyflwynydd Alistair Stewart yn pwysleisio fod y pwnc dan sylw wedi’i ddatganoli ac felly’n amherthnasol i’r gwledydd Celtaidd, roedd hi’n gyfle i droi i’r ochr arall. Ar BBC2, roedd pennod gyntaf o Welcome to Lagos - rhaglen ddogfen am brifddinas sy’n gartref i 16 miliwn o Nigeriaid. Cawsom gip ar fywyd a gwaith pobl mewn siopau, tafarn, caffis, bwytai a siop farbwr. Dim byd yn anghyffredin am hynny, meddech chi, heblaw eu bod yn byw yng nghanol baw a budreddi Olusosum, un o domennydd gwastraff y ddinas. Er gwaetha’u hamgylchiadau uffernol, roedd y bobl yn dal i wenu fel giât ac yn gobeithio am y gorau. Gwers fach i’r “trueiniaid” hynny a oedd yn swnian am fod yn sownd mewn maes awyr oherwydd llosgfynydd Eyjafjallajoekull. Rhywbeth arall roddodd gwên ar fy ngwep oedd Dathlu! o Borthmadog. Y dasg oedd trefnu parti syrpreis ym Mhortmeirion gyda thema Tsieineaidd, sef hoff wlad y wraig dan sylw - i fod. Yr unig broblem, oedd iddi benderfynu mai India oedd ei gwlad ddelfrydol bellach. Ond wrth gwrs, roedd hynny’n rhy hwyr i Nia a Leah a oedd bron â thynnu’u gwalltiau mewn rhwystredigaeth.


Digon tebyg i Brown a Cameron, wrth weld ’rhen Clegg yn ennill y blaen o nunlle bron.

Perl nos Sadwrn bach


Help! Wn i ddim beth ar y ddaear i’w wneud ar nosweithiau Mercher o hyn ymlaen. Achos dros y ddeufis diwethaf, dwi wedi treulio’r oriau difyr yng nghwmni Don a Betty Draper, Pete, Paul a Ken, Peggy a’r hyfryd rywiol Joan mewn niwl sigaréts a sawl wisgi mawr. Dw i wedi chwerthin a chrïo yn eu cwmni, wedi dotio o weld ambell un yn blodeuo, diawlio ambell un am gymryd cam gwag, a rhannu’u pryderon priodasol ac economaidd mewn byd sy’n prysur newid. Prin yw’r cyfresi dramâu sy’n ennyn cymaint o deyrngarwch a diddordeb. Efallai eich bod prin wedi clywed sôn am Mad Men, ond mae’r gyfres Americanaidd a orffennodd ar BBC Four neithiwr, yn ticio’r bocsys i gyd. Drama gyfnod Americanaidd yw hi, wedi’i gosod yng nghanol bwrlwm y byd hysbysebu ym Manhattan, Efrog Newydd, yn y chwedegau - ble mae byd braf a breintiedig y cymeriadau yn dadfeilio’n araf o flaen eu llygaid, wrth i ddigwyddiadau’r byd mawr eu hysgwyd i’r byw, o orymdeithiau hawliau sifil yn nhaleithiau’r De i egin-ryfel Fietnam. Ac wythnos diwethaf, roedd llofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy yn gefnlen effeithiol i’r bennod gyfan wrth i fyd a phriodas Don Draper, y prif gymeriad, chwalu’n deilchion. Mae ambell un sydd wedi rhoi cynnig arni’n cwyno ei bod yn rhy araf, ond dyma un o’i rhinweddau pennaf i mi. Mae’r gwaith camera trawiadol, y manylder arbennig i arferion a chwaeth y chwedegau, a’r golygfeydd hirion heb eiriau, yn rhoi cyfle i’r stori a’r cymeriadau ddatblygu dow dow dros 13 wythnos. Ac mae hynny’n fendith, mewn byd o gyfresi sebon sy’n gwasgu llofruddiaeth, ffrwydrad a ffeit gyhoeddus yn y dafarn mewn cwta hanner awr. Da chi, mynnwch gip ar yr iplayer neu prynwch DVDs o’r gyfres. Chewch chi mo’ch siomi.

Mae’n f’atgoffa i raddau o berl arall o’r gorffennol, Our Friends in the North, a ddarlledwyd ar y BBC ym 1996 - epig fodern am griw o ffrindiau bore oes o Newcastle, o gyffro’r chwedegau i obeithion Llafur newydd yn y nawdegau. Mae Pen Talar, cyfres ddrama arfaethedig S4C a ddarlledir ym mis Medi eleni, yn gado rhywbeth tebyg, wrth olrhain hanes dau ffrind o’r 1960au tan 2010. Mae’n swnio’n debyg i gyfres Gareth Miles, Llafur Cariad, a ddilynodd ddaeargryn wleidyddol Cymru o ddyddiau du Thatcher i’r Refferendwm ar ddatganoli. Adloniant, llond sgrin o actorion amlycaf Cymru, a gwers hanes diweddar y genedl felly. Dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar yn barod.

Clwy’r Encyclopaedia Britannica

Yn gynharach eleni, mi soniais am gynlluniau uchelgeisiol BBC Cymru i agor stiwdios newydd sbon danlli grai ar gyfer Pobol y Cwm, Doctor Who a Casualty ym Mae Caerdydd, fel rhan o’r bwriad i ddyblu nifer y rhaglenni o Gymru ar rwydwaith Prydain erbyn 2016. Gwych, meddyliais, mewn ton o optimistiaeth ddechrau’r flwyddyn newydd. Mwy o gyfleoedd i sgriptwyr, actorion a chyfarwyddwyr Cymreig, a mwy o ddramâu cyffrous am y Gymru fodern i wylwyr Dundee, Dolgellau a Dagenham. Bedair mis yn ddiweddarach, mae clwy’ rygbi Cymru wedi cydio ynof. Wedi’r heip a’r gobeithion cychwynnol, dwi ddim mor hyderus bellach.

Nos Sadwrn diwethaf, daeth Doctor Who yn ôl i greu ias a chyffro i’r teulu cyfan, gyda Chaerdydd a’r cyffiniau yn smalio bod yn Llundain a phentref gwledig yn Swydd Gaerloyw. Ac er bod Matt Smith (Sais) a Karen Gillan (Albanwraig) wedi ffitio i’w rôl newydd yn ddidrafferth o dda, meddyliwch pa mor wych fuasai pe bai Cymraes yn gydymdaith i’r Doctor newydd! Wedi’r cyfan, roedd Gwen Cooper (Eve Myles) yn gymeriad tu hwnt o boblogaidd yn Torchwood. Yr unig stamp Cymreig sydd ar gyfres fythol boblogaidd nos Sadwrn yw logo BBC Cymru Wales ar ddiwedd bob pennod.

Ymddengys mai dyma fydd patrwm cyfresi drama BBC Cymru yn y dyfodol agos hefyd - actorion a chriw cynhyrchu yn croesi Clawdd Offa i ffilmio yn ne-ddwyrain Cymru. Cyn hir, bydd Royal Wedding, drama unigol 90 munud, i’w gweld ar BBC2 fel rhan o dymor o raglenni’r sianel am yr Wythdegau. Drama wedi’i gosod yng nghymoedd y De yw hon, lle mae’r teulu Caddock yn ceisio anghofio am galedi bywyd Thatcher trwy drefnu parti stryd i ddathlu priodas Charles a Di yn ystod haf 1981. Swnio’n ddifyr, er mai actorion o Loegr fel Jodie Whittaker a Darren Boyd sy’n chwarae’r prif rannau. Mae’n ddigon i wneud i’n hactorion cynhenid dagu ar eu Brains a thaflu’u cardiau Equity i ddyfnderoedd afon Taf mewn rhwystredigaeth lwyr.

Mae BBC Cymru newydd gychwyn ffilmio cyfres newydd arall ar gyfer y rhwydwaith - tair ffilm 90 munud yr un o’r enw Sherlock, sef ailbobiad cyfoes o dditectif chwedlonol Arthur Conan Doyle. Unwaith eto, awduron dŵad fel Steven Moffat (prif sgwennwr a chynhyrchydd newydd Doctor Who) a Mark Gattis sy’n gyfrifol amdani, a Chaerdydd yn gorfod smalio bod yn Llundain eto fyth. Ac yn olaf, mae BBC Cymru wedi ennill comisiwn i greu rhaglen beilot o’r enw Dappers, drama gomedi am hynt a helynt mamau sengl ifanc ym Mryste, ar gyfer BBC Three.

Gan aralleirio’r nodyn drwgenwog yn yr Encyclopaedia Britannica gwreiddiol – “For BBC Wales, see England”.

Rhaglenni'r bore fin nos


Dwi wedi drysu’n lân efo’r busnes troi’r awr. Mae’r adar yn canu yn nhywyllwch y bore bach wrth y ffenestr llofft, a dwi’n dal i gael trafferth newid cloc y car. Ac ar ben pob dim, mae rhaglenni’r bore i’w gweld fin nos ar S4C. Neu, dyna feddyliais wrth wylio Cyfnewid (8.25pm nos Fercher) - cyfres sy’n rhoi cyfle i bobl ffeirio eitemau diangen am ddim. Neu ffair sbarion ar y bocs, i chi a fi. Yn y rhaglen gyntaf, tro trigolion tre’r Sosban oedd clirio’u cypyrddau a’u hail-lenwi hefo mwy o bethau, o fideos Tomos y Tanc i hetiau priodas. A rhwng cyflwyniadau byrlymus Mari Løvgreen a Rhodri Williams, sydd wedi dychwelyd i’r gorlan Gymraeg wedi’r secondiad i Sky Sports, roedd dwy ‘arbenigwraig’ ffasiwn a chynllunio mewnol yn dweud wrthym sut i addurno’n cartrefi a ni’n hunain ar gyllideb. A chafwyd eitem ddibwys o fer am “barti swisho”, lle’r oedd Beryl a Meryl yn ceisio ailwampio’u hunain fel Joan Collinsiaid Sir Gâr gyda chymorth sgarff sidan a mwclis amryliw. Nid yr oriau brig yw lle hon, ond slot ganol dydd yn erbyn cyfresi hen-geriach-yr-atig, coginio-mewn-cachiad a sioeau-siarad-gwag-i-wragedd-tŷ ar y sianeli Saesneg. Mae cyflwynwraig gystal â Mari Løvgreen yn haeddu gwell.

Roeddwn i’n ofni’r gwaethaf gyda Dathlu! (8.25pm nos Iau) hefyd, cyfuniad o Gwaith Cartref a Halen y Ddaear gyda Nia Parry yn camu i sgidie Carol Smillie. Yr her oedd addurno ystafell wely merch ifanc o Gwm Gwendraeth, a threfnu parti syrpreis iddi ar thema sioe gerdd Chicago gyda gwesteion arbennig o Barc y Scarlets. Er gwaetha’r sinig “rhaglen-rad-a-chas!” ynof, cefais fy nallu gan frwdfrydedd heintus Nia Parry â’i natur famol at bawb o’i chwmpas, a’r holl dynnu coes gyda Leah 04 Wal Hughes ac ‘Ifs’ yr adeiladwr. Ac er gwaetha’r holl banig ffug a’r elfen o ‘ras yn erbyn y cloc’ sy’n rhan annatod o raglenni fel hyn, roeddech chi’n gwybod yn iawn y byddai popeth mewn trefn yn y diwedd. Dim ond gobeithio na fydd Nia’n cyffroi gormod i roi genedigaeth cyn-pryd ar y sét!

Fe wellodd pethau’n arw nos Wener, wrth i gyfres boblogaidd Tudur Owen o’r Doc ddychwelyd. Pwy sy’n malio am Jonathan Ross, efo’r comedïwr o Fodorgan wrth y llyw ar S4C heb unrhyw westai’n hyrwyddo rhyw record, ffilm neu sebon sent dragwyddol? Yn hytrach, digonedd o chwerthin wrth i Eleri Siôn drïo siarad gogs a hanes Julian Lewis Jones (ffrind gorau Clint Eastwood, rhag ofn na welsoch chi raglen Jonathan!) yn ymarfer clyweliad ffilm Hawaii Five-O. A chwarae teg i’r aelodau dewr o’r gynulleidfa am fod yn gymaint o gocynau hitio’r cyflwynydd crafog!