Gwledd nos Sul





Mae’n dda iawn ar nosweithiau Sul ar hyn o bryd. Am wyth ar y dot, dwi’n troi at BBC2 am fy ngwibdaith wythnosol i Dde America yn Race across the world. Ynddi, mae pedwar cwpl (pump yn wreiddiol) yn rasio 25,000km o ddinas Mecsico, metrpolois fwyaf Gogledd America i’r ddinas mwyaf deheuol y byd, Ushuaia yn yr Ariannin, ar gyllideb o £1,453 yr un (tua £26 y dydd) heb na chymorth ffôn symudol nac apiau teithio, dim awyren a braidd dim Sbaeneg – sy’n golygu tipyn o iaith arwyddion, lot o gamddeallwriaeth, bysiau hirbell (siwrnai o 28 awr mewn un achos! nid yn annhebyg i Trawscambria o’r Gogledd i’r De), tacsis a chychod modur os nad canŵod ar draws y cyfandir. Bu sawl her ar y ffordd, rhwng terfysgodd gwrth-lywodraeth a stadau o argyfwng yng ngwledydd Guatemala, Chile ac Ecwdador, a swnian di-baid Jen o Reading. Mae Rob ei gwr trwm ei glyw yn haeddu medal (neu ysgariad).

Mae gwledydd fel Periw a Bolivia wedi’u hychwanegu at fy rhestr bwced orlawn bellach, o wastadeddau halen Salinas Grandes i anialwch Tataoca, rhaedrau ysblennydd Iguazú a dinasoedd enfys Granada a San Juan. Efallai mai da o beth yw bod tafarndai a bwytai ar gau ar hyn o bryd, gan fod fy mhot peint yn prysur droi’n goffrau gwyliau.

"Pwy sy'n gyfrifol am y pres?"


Channel Four sy’n galw am naw, gyda chyfres 8 a’r olaf o Homeland. Dw i wirioneddol wedi’n hoelio gan hon, ar ôl colli pob diddordeb gyda’r cyfresi digyfeiriad diwethaf, gyda stori gyfeillgarwch-bron-yn-garwriaethol Carrie (Claire Danes) fyrbwyll a Saul (Mandy Pantinkin) mwy diplomataidd nôl wrth galon y cyfan. Gyda nytar wrth y llyw yn y Tŷ Gwyn, tyndra-bron-at-ryfel ym Mhacistan ac Afghanistan, a Carrie bron fel asiant dwbl i’r Rwsiaid a’r CIA, mae’r awran yn hedfan.



Ond bydd rhaid i Carrie aros tan ddangosiad Channel 4+1 am ddeg yr hwyr dros yr wythnosau nesaf, wrth i S4C am 9 gael y flaenoriaeth? Pam? Achos mae pumed cyfres 35 Diwrnod: Parti Plu ar ein sgriniau yn barod i chwalu’n pennau a gwneud inni amau pawb a phopeth, wrth riweindo’n ôl o’r corff gwisg briodas wen a welwyd yn arnofio yn y môr. Dw i eisoes wedi gweld y ddwy bennod gyntaf, ac ar ôl gweu ein ffordd drwy’r myrdd o gymeriadau a’u cysylltiadau - pwy sy’n perthyn/yn gyn-gariadon/drwglecio pwy - mae pethau’n dechrau disgyn i’w lle. Ac mae yna wynebau newydd yn ogystal â’r cyfarwydd (croeso’n ôl Catrin Fychan!) deialog cynnil Fflur Dafydd, a gwaith camera ffilmig sy’n creu naws ac awyrgylch codi ias - i’r dim!

Mi fydd yna adolygiad llawnach yng ngholofn Y Cymro fis nesa (a da nhw am dal i gyhoeddi dan amgylchiadau mor anodd), ond mae hon eisoes yn argoeli i fod gyda’r gorau o frand llwyddiannus '35’ eto. 

Yn cychwyn am 9 o'r gloch nos Sul 26 Ebrill.

Cwpl hapus? Dylan a Beth (Geraint Todd a Gwenllian Higginson)

Rhian (Fflur Medi) - seren y sioe

Efan (Sion Ifan) - ffotograffydd a ffrind - ond tybed?

Angharad - (Emmy Stonelake) mam newydd fythol bryderus
Bu'r parti plu'n llwyddiant ysgubol