Calon cenedl frenhinol

Anti Gladys yn barod am ddarllediadau cynhwysfawr S4C o'r Briodas Fowr


Ro’n i’n swp sâl wrth wylio’r newyddion un noson wythnos diwethaf. Na, nid teimlo dros brotestwyr gorthrymedig Tripoli na thrueiniaid Christchurch. Doedden nhw ddim yn haeddu’r brif flaenoriaeth gan olygyddion newyddion Prydain - a’r Post Prynhawn ar Radio Cymru. Yn hytrach, rhoddwyd sylw di-ri i bâr o Saeson breintiedig a lansiodd fad achub newydd sbon ym Môn. Roedd trigolion a thwristiaid Bae Trearddur yn gwlychu’u hunain mewn perlewyg, a gohebwyr Wales Today a Wales Tonight yn sefyll yn dalog ochr yn ochr â gohebwyr CBS ac NBC News America wrth adrodd y stori frenhinol “fawr”. A chlywyd bonllefau a chanmoliaeth gan Fwrdd yr Iaith ar ôl i Kate ganu fersiwn “word-perfect” o Hen Wlad fy Nhadau yn ôl The Telegraph. Neu fersiwn John Redwood i chi a fi.

Anghrediniaeth wedyn o ddeall bod y Sianel Gymraeg yn bwriadu ymuno â’r syrcas fawr i ddod, yn ôl datganiad i’r wasg ar raglenni’r gwanwyn. “Gyda phriodas y flwyddyn yn digwydd ddydd Gwener 29 Ebrill, bydd S4C yn dathlu gyda’r Tywysog William a Kate Middleton mewn rhaglen arbennig Y Briodas Frenhinol”. Beth felly? Beti George yn gyrru bws Posh a Becks i Abaty Westminster, Glyn Wise yn gyfrifol am goluro’r Cwîn, a Dai Llanilar yn rhoi eisin ar y gacen, mewn fersiwn newydd, arbennig, o’r
Briodas Fawr (2004-07)?

Yn ôl y Sianel, gallwn ddisgwyl darllediad o’r briodas gan BBC Cymru, a rhaglenni eraill gan dîm Y Byd ar Bedwar ac Wedi 7. Efallai na fydd pob rhaglen yn chwifio Jac yr Undeb o blaid y cwpl hapus. Hwyrach y cawn ni drafodaeth ar bwrpas a pherthnasedd y frenhiniaeth i Gymru ddatganoledig-fregus yr unfed ganrif ar hugain. Ond a oes wir angen hyn o gwbl? Byddai’n ganmil gwell pe bai’r gwyliwr cyffredin yn gallu troi at S4C fel dihangfa rhag y sbloets fawr ar 29 Ebrill. Dylai Huw Edwards, cyflwynydd y seremoni ar BBC1, fod yn ddigon i blesio’r Cymry Prydeinig o’n plith hyd yn oed os
nad yw'r Saeson yn cytuno. Neu ydy pen bandits Parc Tŷ Glas yn ceisio chwarae’n saff a swcro Adran Ddiwylliant San Steffan trwy ddangos nad hen Gymry bondigrybwyll yn cadw sŵn mohonynt?

Dwi’n synnu’n fawr iawn fod Angharad Mair, Cyfarwyddwr Gweithredol Tinopolis a chyflwynwraig y rhaglen gylchgrawn nosweithiol, o bawb yn bwriadu ymhél â’r fath beth. Ar y llaw arall, un o is-gwmnïau Tinopolis sy’n gyfrifol am un o berlau dramâu teledu’r flwyddyn hyd yma - The Promise (Daybreak Pictures) ar Channel 4, hanes merch ifanc sy’n cael agoriad llygad yn yr Israel fodern wrth ddilyn dyddiadur ac ôl troed ei thaid a fu’n rhan o lu cadw heddwch Prydain ym Mhalestina yn y 1940au.

Ac yn ddewis amgen grymus a gwefreiddiol i’r rhai ohonom sydd heb fopio ar Alys ar nos Sul.

Pa Refferendwm?


Ydych chi’n barod i daro croes wythnos i heddiw? Am gwestiwn twp. Tydw i’n pregethu i’r cadwedig fan hyn, siŵr iawn? Wedi’r cwbl, d’yn ni’n griw bach dethol a breintiedig iawn - gyda phwyslais ar y ‘bach’ - ac yn ddigon hyddysg ynglŷn â phwysigrwydd Mawrth y Trydydd. Does dim modd osgoi’r ymgyrch ar y we chwaith. Mae fy nhudalen facebook yn boddi dan apêl am ddosbarthwyr taflenni ym Mhontyberem, Penarth ac o flaen M&S Llandudno. Ond mae ’na Wyddfa o waith caled o ran atgoffa’r mwyafrif helaeth o Gymry sydd fawr callach - rhai nad ydynt yn prynu’r papurau Cymreig, ddim yn gwrando ar fwletinau Radio Cymru a Radio Wales, nac wedi gweld negeseuon fideo Shane Williams, Matthew Rhys ac Ioan Gruffudd. A diolch i styfnigrwydd True Wales o wrthod cofrestru gyda’r Comisiwn Etholiadol fel yr ymgyrch ‘na’ swyddogol, sy’n golygu na chaiff ‘Ie dros Gymru’ wneud hynny na manteisio ar arian cyhoeddusrwydd, mae’r Refferendwm yn gymaint o ddirgelwch â giamocs Cyngor Môn. Dim taflenni drwy’r post, dim hysbysebion teledu, dim cyhoeddusrwydd ar dîn bysus bach y wlad neu hysbysfyrddau anferthol yn ein trefi a’n dinasoedd. Ac mae’r sylw ar y teledu yn druenus a dweud y lleiaf. Awr o Pawb a’i Farn o Gaergybi, a dwy raglen hanner awr ar BBC Wales. Dyn a ŵyr beth sydd gan ITV Wales dlawd i’w ddweud ar y mater, er bod Croes Cwrlwys wedi llwyddo i fachu’r gohebydd gwleidyddol profiadol Adrian Masters o Landaf.

Nos Lun diwethaf, darlledwyd Referendum 2011 - The Power Debates o Brifysgol Aberystwyth ar BBC1. Ni welais y rhaglen fyw chwaith, gan nad oeddwn i’n gwybod amdani tan sgwrs dros baned yn y swyddfa drannoeth. Tanio’r gliniadur felly, gwylio ar wasanaeth rhagorol iplayer dros fîns ar dost, ac ennyn sawl ymateb. Yn gyntaf, gwingo dros Nick Martin, True Wales, â’i gymysgedd o fwmblan a mudandod llwyr i gwestiynau’r cyflwynydd Betsan Powys. Diawlio’r deinosor Llafur Russell Goodway am gwestiynu gallu ni’r Cymry i oruchwylio’r broses ddeddfu’n iawn heb gymorth Llundain fawr. A chymeradwyo Martin Shipton, Prif Ohebydd y Western Mail, am dynnu’n sylw at “rigmarôl” y drefn bresennol lle mae un set o wleidyddion yn gorfod mynd â chap yn eu llaw i gael caniatâd gan set arall o wleidyddion ’lawr yr M4.

Er, gallwn i fod wedi rhoi’r gorau iddi ar ôl dwy funud hefyd, achos fe lwyddodd Betsan Powys i grynhoi’r cwestiwn yn dwt o’r dechrau.


Referendum 2011 – The Power Debates: BBC1,
nos Lun nesaf 10.35pm, o’r Coed-duon, Caerffili.

Y Byd ar Bedwar - Y Refferendwm: S4C
nos Lun nesaf 9.30pm




"Ch" Fawr



“Ch” am chwerthin hynny yw. Chwerthin am ben canser. Na, dwi heb feithrin hiwmor ffiaidd, di-chwaeth Frankie Boyle. Ond mae yna gyfres gomedi newydd o America sy’n gofyn inni chwerthin a chrio gyda Cathy Jamison (Laura Linney, seren Mystic River a Tales of a City), athrawes ysgol uwchradd o Minneapolis sy’n clywed bod ganddi’r clefyd marwol hwn. Er hynny, mae’n penderfynu cadw’r newyddion iddi’i hun am y tro - ac mae’r diagnosis ysgytwol yn ei sbarduno i fyw bywyd i’r eithaf. Mae’n gwrthod derbyn unrhyw driniaeth ac yn pw-pwio gwahoddiadau i ymuno â grwpiau cymorth. Mae’n archebu pwll nofio enfawr i’r ardd gefn, yn dangos i’w mab a’i gwr anffyddlon pwy di’r bos, ac yn benderfynol o newid bywydau ei brawd digartref a’i myfyrwyr di-gyfeiriad er gwell. Mae'r hiwmor du yn debyg i Nurse Jackie, am nyrs niwrotig sy'n llyncu pils a snwffian powdwr gwyn er mwyn ymdopi drwy'i diwrnod gwaith mewn ysbyty ym Manhattan a'i bywyd personol cymhleth. Nid Holby Shitty mohoni. Gwyliwch da chi - da chi'n sicr o gael eich synnu, chwerthin a chochi at eich clustiau a mwynhau!




The Big C More4, nos Iau 11.00
Nurse Jackie BBC2, nos Sadwrn 10.45-ish

Hei! Mrs DJ

Lwc owt. Gair i gall. Os ydych chi’n pechu’n hawdd ac ofn tagu ar eich lobsgóws i swper, peidiwch â gwrando ar Radio Cymru rhwng 6.30 ac 8 yr hwyr. Mae Meistres y Mwyseiriau a Brenhines y Tafod Brwnt yn ei hôl. Ydy, mae Eleri Siôn wedi ymuno â’r rhengoedd sy’n cadw sedd nosweithiol Geraint Lloyd yn gynnes am y tro.

Eleri Sion yn nyddiau 'Dallasty' gyda Rosalind a Myrddin

Ar ôl cael ei beirniadu am safon ei hiaith/arddull/gweddustra ar raglen foreol Daf Du, a chael ei disodli gan CPJ, mae Leri’n ôl. Mae hi eisoes yn hen law ar lywio Camp Lawn ar ei phen ei hun ar b’nawn Sadwrn (’sgwn i beth fyddai ymateb Andy Gray i hynna?!) ar ôl i Dylan Ebenezer drosglwyddo i dîm Sgorio, ac yn giamstar ar drafod pêl-droed yn ogystal â’i chariad cyntaf amlwg, rygbi. Efallai mai i’w chymar, cyn-chwaraewr Aston Villa a Dinas Caerdydd, y mae’r diolch am hynny. Dy’n ni’n clywed hen ddigon o’i hanes beth bynnag, wrth i’r gyflwynwraig dreulio cyfran o’r rhaglen yn sôn am droeon trwstan “Dave”. Ta waeth, mae hi bellach wedi ennill ei phlwyf gyda’r nos - yn groes i ’nisgwyliadau personol i o leiaf. Does dim dwywaith fod Ms Siôn wedi’i mentro hi braidd yn y gorffennol, yn enwedig wrth gyflwyno o lwyfan yr Urdd. Ac roedd ei synnwyr digrifwch yn ormod i rai amser brecwast, wrth iddi wneud ensyniadau am ryw John a Doreen o Walchmai neu fynd benben â Daf wrth geisio dweud y jôcs mwyaf/lleiaf doniol, gan ddibynnu ar eich chwaeth.

Ond gyda’r nos, mae ganddi fwy o ryddid i ddweud ei dweud a chael getawê efo’i gwesteion. Un enghraifft ddiweddar yw’r sgwrs swreal a gafodd gyda chymeriad ecsentrig â’i llond tŷ o gathod a siaradai iaith arbennig ‘miaw miaw’. Ydy, mae bywyd go iawn yn wirionach na’r byd dychmygol weithiau. O gapten tîm tynnu rhaff i reslwyr ac arweinwyr corau, mae’n gallu tynnu’r siaradwr mwyaf swil o’i gragen yn fyw ar radio cenedlaethol.

Ffactor arall o’i phlaid yw nad oes rhaid i ni ddioddef canu gwlad pruddglwyfus amser swper mwyach. Ac mae hi’n fwy o gymeriad na’r DJs canol-y-ffordd eraill a gymerodd yr awenau dros dro, o Terwyn Davies i ‘Marci-Jî’. Ond ow! Marc Griffiths a’i recordiau Wil Tân sy’ mlaen yr wythnos hon. Ai slot gwadd ydi hwn i fod? A fydd Mr Bois y Loris yn parhau yn y prynhawniau, ers i Jonsi adael dan gwmwl hydref diwethaf? Beth bynnag ddaw, mae’n amlwg nad yw ffans Eifion Pennant Jones wedi gadael yn llu – yn wir, mae Radio Cymru wedi llwyddo i ddenu 20,000 yn fwy o wrandawyr o gymharu â’r un adeg y llynedd yn ôl ffigyrau ymchwil diweddaraf RAJAR i gynulleidfaoedd radio gwledydd Prydain.

Cyn cloi, croeso’n ôl i’r hen ddyn blin gwreiddiol a’i lwy bren anferthol yn Wythnos Gwilym Owen ddydd Llun diwethaf a’i gyfweliad gyda Monwysyn blin arall, John Walter Jones, a gyfaddefodd iddo “gymryd y gwyllt” yn ystod ei ddyddiau tanllyd olaf ar ddec $$4/Cheque.

O Louisiana i Lyndyfrdwy

Cadwch eich sagas Twilight a The Vampire Dairies. Anghofiwch am gyfres Being Human am fampir, blaidd-ddyn ac ysbryd sy’n rhannu tŷ yn Ynys y Barri. Dim ond un gyfres oruwchnaturiol sydd i mi, sef True Blood am drigolion brith – a gwaedlyd – Bon Temps yn nhalaith Louisiana. Fersiwn Tregaron o’r Deep South os leiciwch chi. Cymeriadau fel Stookie Stackhouse, gweinyddes delepathig sydd wedi mopio efo Bill Compton, fampir 170 oed. Ond yr orau o bell ffordd ydi Tara, ffrind gorau Sookie, sy'n peltio llinellau bachog dim lol! Ac ym mhennod wythnos diwethaf, fe ddatgelodd brenin sugnwyr gwaed Mississippi ei fod yn hanu o dras freintiedig Arglwydd Glyndyfrdwy o’r 13eg ganrif. A chwarae teg, mi ynganodd yr enw Cymraeg hwnnw’n lot lot gwell na Jamie Owen a’i debyg ar Wales Today.

Dwi’n fwy o ffan nag erioed rŵan! Bachwch arni am 10 bob nos Wener ar sianel FX.






Gyda llaw, mae’r sianel cebl Americanaidd sy’n gyfrifol am hon wedi cynhyrchu cyfres gyffrous yr olwg o’r enw The Wolfman efo Benicio del Toro ac un o feibion enwocaf Port Talbot. Gobeithio y gwelwn ni hi ar deledu Prydain yn y dyfodol agos!

Lle hoffwn fod


I wlad mor fach, mae’n rhyfeddol gymaint ohoni sy’n dal yn ddieithr i mi. Dim ond y llynedd y cerddais i ben y Wyddfa fawr a hwylio drosodd i Enlli am y tro cyntaf. Ac mae ardaloedd Clawdd Offa yn ddirgelwch pur. Gobeithio y bydd Eisteddfodau Wrecsam eleni a Sir Fynwy yn 2016 yn newid hynny. Mae cyfrol Cymru – y 100 lle i’w gweld cyn marw yn drysorfa o eglwysi anghysbell, caerau hanesyddol a phlastai mawreddog, er bod ambell awgrym amheus fel Pont Hafren yn eu plith. A bellach, mae yna fersiwn teledu i’r rhai ohonom sy’n rhy arw neu ddiog i brynu a darllen y llyfr. Heb os, 100 Lle (8.25 nos Fawrth) ydi un o uchafbwyntiau’r Sianel ar hyn o bryd.

Sir Fynwy oedd dan sylw’r wythnos diwethaf, gydag Aled Sam yn cefnu ar gartrefi ffasiynol a ffuantus 04 Wal i grwydro o amgylch abaty godidog Tyndyrn, olion hen ddinas Rufeinig Caer-went a phentrefan Tryleg. Ac roedd yr awdur John Davies Bwlch-llan wrth law i’n tywys a chyflwyno’r glo mân difyr. Ystyriwch ei sylwadau smala am gastell Cas-gwent, er enghraifft. Er bod ei sylfeini ar lan afon Gwy ers 1067, dywedodd fod y cerrig newydd a ychwanegwyd gan Cadw yn debyg i rai wedi’u prynu o B&Q. Ac ar ôl cael cam gwarthus gan drefnwyr cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, mae’n braf gweld Marian Delyth yn cael lle teilwng bob wythnos, gyda slot ohoni’n dangos ei chrefft wrth ddewis a dethol lluniau addas i’r llyfr. A beth am y cyflwynydd? Er nad yw Aled Sam â’i arddull tafod-yn-y-boch at ddant pawb, mae’n llwyddo i ennyn brwdfrydedd a chodi gwên yn tŷ ni. Er, efallai bod y Fiat bach coch yn teimlo fel rhyw gimig braidd - fersiwn newydd o Minti’r Ci hwyrach? - ac rwy’n hanner disgwyl iddo fwydro am faddondai canoloesol wrth sbecian drwy ryw siambr gladdu arall.



Gwledydd Llychlyn sydd nesaf ar fy rhestr wyliau, yn amodol ar sefyllfa’r bunt a llosgfynyddoedd stwrllyd wrth gwrs. Dwi’n darllen nofelau Arnaldur Indriðason a Henning Mankell (Wallander) fel slecs ar hyn o bryd, gyda’u ditectifs prudd a’u straeon duach na bol buwch yng nghanol gaeafau maith gogledd Ewrop. Ac am ddwy awr gyfan bob nos Sadwrn, dwi’n ymgolli’n llwyr yn ymchwiliadau’r Ditectif Sarah Lund i lofruddiaeth erchyll merch ifanc yn Copenhagen a’r cysylltiad â darpar-Faer uchelgeisiol y ddinas, yn The Killing (Forbrydelsenn). Darlledwyd y gyfres gyntaf gan Danmarks Radio yn 2007, gan ennill clod a bri Ewropeaidd ac enwebiad am wobr rhyngwladol Emmys UDA, ac mae wrthi’n cael ei haddasu i’r iaith fain gan yr Americanwyr. Gyda llaw, dwi'n amau'r tad neu un o'i weithwyr od ar y naw...

Diolch eto, BBC Four. A sori Noson Lawen a Calon Gaeth.

Gwledd o Americana


Heddiw (dydd Mawrth 1 Chwefror), mae ’na sianel newydd sbon yn cael ei lansio yng ngwledydd Prydain. Na, nid CBC (Cymru Broadcasting Coropration) yn sgil priodas orfodol BBC-S4C. A fydd hi ddim ar gael i bob un wan Jac yr Undeb. Ond i danysgrifwyr Mr Murdoch fel fi, mae Sky Atlantic (sianel 108) yn addo’r goreuon o Wlad Wncwl Sam. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys drama am deulu o blismyn Efrog Newydd (Blue Bloods gyda Tom Magnum Selleck a Donnie Wahlberg), saga Martin Scorsese am gangstyrs New Jersey yn y 1920au (Boardwalk Empire) a hynt a helynt trigolion New Orleans ar ôl corwynt Katrina (Treme gyda John Goodman a llawer o gast The Wire). Ac i ddod dros y misoedd nesaf, bydd thesbians o fri fel Jeremy Irons a Syr Derek Jacobi (Borgias wedi’i gosod yn yr Eidal Oes y Dadeni), Kate Winslett (Mildred Pierce, am ymdrechion gwraig tŷ i sefydlu busnes adeg Dirwasgiad y 30au) ac, ym, Sean Benn (Games of Throne, anturiaethau ffantasi chwedlonol). I goroni’r cyfan, bydd pumed gyfres Mad Men yn ymddangos fis Awst, tua’r un adeg â’r darllediad ar deledu America. Bendigedig! Newyddion drwg i ffyddloniaid y gyfres ar BBC Four (Geinor ac Owain) serch hynny, ac i bawb ohonom sy’n casáu hysbysebion soffas DFS bob deg munud!!



Am y tro, bydda i’n cloi’r drws ac yn diffodd y ffôn lôn am 9 o’r gloch bob nos Iau, i wylio Six Feet Under (2001-2005) o’r cychwyn cyntaf. Os na welsoch chi’r ddrama-gomedi (comedirama?) dywyll hon am deulu o drefnwyr angladdau hanner call a dwl yn LA, ar S4C neu Channel 4 ers talwm, dyma’ch cyfle euraidd chi. I mi, hon oedd Y ddrama Americanaidd orau cyn dyfodiad Don a Betty a Pete a Peggy a Roger a Joanie



Well i mi wagio'r Sky+ reit handi!

ALYS, pennod 2

Dal heb wedi f'argyhoeddi'n llwyr.