Cymru, Lloegr a Denmarc

Daeth un o’m hoff gyfresi diweddar i ben wythnos diwethaf. Roedd Llefydd Sanctaidd i’r dim ar nos Sul diog rhwng smwddio a’r ciando, y golygfeydd godidog yn denu ac Ifor ap Glyn yn gyflwynydd huawdl, os socian weithiau, mewn Cymraeg naturiol braf yn hytrach na darllen cyfieithiad clogyrnaidd o’r Saesneg. Rhwng honno a thywyslyfrau gwych John Davies a Gwyn Thomas, mae ’na doreth o lefydd newydd i ymweld â nhw pan ddaw’r gwanwyn, o Gapel Gofan Sant yn Sir Benfro i Abaty Whitby ac Ynys Lindisfarne. Ac i’r rhai ohonoch sy’n hoff o ffidlan efo’r ffôn lôn ddiweddaraf, mae 'na ‘app’ newydd Cymraeg i’ch tywys i un o’r 37 lle sanctaidd a welwyd ar y sgrîn, sy’n sicrhau bod gwaddol y gyfres yn parhau. Gwych. Cydgynhyrchiad rhwng Cwmni Da o’r Felinheli a Western Front Films o Dorset oedd hon, ac mae’n debyg y bydd ’na fersiwn Saesneg Holy Places ar BBC Four yn y dyfodol. Ai Ifor Ap fydd y cyflwynydd, ac os felly, a fydd yn siarad Saesneg Cocni fel un o blant Llundain?




Mae’n ymddangos bod S4C yn rhoi cryn fri ar gynhyrchu rhaglenni ar y cyd â chwmnïau a sianel eraill. Cefais ddiawl o déjà vu o wylio’r rhaglen apocalyptaidd Y Tywydd: O Ddrwg i Waeth (Tinopolis Llanelli) fis yn ôl, gan fod y graffeg a’r effeithiau arbennig yn gyfarwydd ar y naw - cyn deall wedyn mai fersiwn gefn-gefn o Is Our Weather Getting Worse? (Pioneer Productions, Llundain) a welais ar Channel 4 dros y Dolig oedd hi, gydag ambell olygfa ychwanegol o ddilyw Llanelwy a Llanbêr yn fersiwn Erin Tywydd. Newydd gwych arall ydi bod cwmni Green Bay o Gaerdydd ar fin cyflwyno cyfres epig chwe rhan Yr Anialwch gyda chyflwynwyr fel Ffion Dafis, Lowri Morgan a Jason Mohammad yn ein tywys drwy ogoniannau’r Sahara, perfeddwlad Awstralia ac anialdir Namibia ymhlith eraill. Damia bod gwasanaeth Clirlun wedi dod i ben, tra bydd gweddill y byd yn cael mwy o wledd i’r llygaid gyda Deserts mewn HD llawn. Mae’r Sianel dan anfantais enfawr yn hyn o beth - eisoes, clywais am lu o wylwyr Cymraeg yn cefnu ar ddarpariaeth rygbi S4C er mwyn gwylio’r Chwe Gwlad ar sianel BBC HD. Gwell llun clir fel cloch na sylwebaeth gaboledig Huw Eic?




Y newyddion mwyaf cyffrous i mi’n bersonol, ydi’r darpar ditectif drama Mathias (Fiction Factory), ffrwyth cydweithio rhwng S4C a BBC Cymru-Wales. Gwyddom eisoes mai Richard Harrington sy’n chwarae’r brif ran ochr yn ochr â Mali Harries, felly digon o bosibilrwydd am densiwn yn fanno, rhywiol neu beidio. Aber a’r cylch ydy un o’r prif gymeriadau eraill, felly bydd bwrdd croeso Ceredigion yn glafoerio am gyfle i werthu’r ardal i ymwelwyr Nordig ar ôl i sianel Danmarks Radio brynu’r gyfres yn barod. Dychmygwch pa mor wych fyddai gweld drama Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg ar y sianel honno a BBC Four, ond dwi’n amau mai’r fersiwn Saesneg Hinterland gaiff ei darlledu dros Glawdd Offa. Sôn am golli cyfle euraidd i addysgu’r byd a’r betws a rhoi stamp cwbl unigryw i’r genre hynod boblogaidd hwn.

 Inspektør Tom Mathias fra Wales