Pa newydd?

Mae eisiau amynedd Job i fod yn ben bandit Radio Cymru y dyddiau hyn. Os nad ydi beirdd a chantorion y genedl wedi pwdu efo chi, mae’ch bali newyddiadurwyr ar streic undydd a’r gwrandawyr yn prysur troi cefn arnoch fel cwsmeriaid lladd-dy Llandre. Mae’r ffigurau diweddar yn sobor unwaith eto - cyfartaledd o 125,000 o wrandawyr wythnosol ym mis Rhagfyr 2012, 6.7% yn llai na Rhagfyr 2011 a 32.4% yn llai na degawd yn ôl. Colli tir fu hanes y chwaer orsaf Saesneg hefyd (436,000 yr wythnos, gostyngiad o 6.8% ers Rhagfyr 2011) tra mai Radio 2 oedd y ffefryn clir yng Nghymru (872,000 yr wythnos).



Un newydd da i Siân Gwynedd ydi’r ffaith fod ein cantorion roc a phop wedi dychwelyd i gorlan Radio Cymru dros dro, wrth i’r Gorfforaeth Lundeinig ymroi i dalu £50,000 i dribiwnlys yn hytrach na chyfrannu’n syth at gronfa Eos, y corff hawliau darlledu Cymraeg. Mae ’na rywbeth yn drewi fan’na. Ar un llaw, fe wnaeth y ‘streic’ orfodi cyflwynwyr a throellwyr disgiau’r orsaf i weithio’n galetach i’n difyrru ni, a dewis peth wmbredd o gerddoriaeth newydd a gwreiddiol o bedwar ban byd yn lle dibynnu ar restr gyfrifiadurol yn unig. Ac mae ’na berlau comedïol ymlaen bob nos Wener ar raglen Gethin Evans nad yw’n dibynnu’n ormodol ar recordiau i lenwi’r seibiau hir chwithig, wrth i’r cyflwynydd a’i seidcic Geraint Iwan gynnig comisiynau newydd i S4C, trafod straeon newyddion odia’r wythnos a gwylio-a-trydar am Teulu am y tro cyntaf erioed. Ar y llaw arall, mae rhywun yn falch o groesawu un o’r 30,000 o ganeuon aelodau Eos wedi mis o seiniau collwrs Cân i Gymru. Feddyliais i erioed y buaswn i’n clywed Nikki Fox a Derfel byth eto, a dwi ddim eisiau am sbelan go lew eto diolch yn fawr iawn.



Mae ailwampiad newyddion yr orsaf wedi ennill ei blwyf erbyn hyn. Mae arwyddgan newydd Post Cyntaf yn gleniach i’r glust ben bore, ac mae ’na fwy o drafod gemau pêl-droed y noson gynt diolch i ddylanwad Dylan Ar y Marc Jones. Ar wahân i hynny a chwarae gêm newid cadeiriau gyda chyflwynwyr profiadol, mae’r fformiwla lwyddiannus yn parhau. Trueni nad fyddai’r bosus yn caniatáu hanner awr ychwanegol i Rhodri Llywelyn a Gwenllian Grigg ar y penwythnos hefyd, er mwyn cael mwy o sylwedd na’r rhaglen news lite fore Sadwrn. Ar ben hynny, mae ’na ormod o “sori i darfu arnoch chi ond ma’ amser yn brin, diolch yn fowr”. Mae straen y stopwatsh yn broblem i ambell gyflwynydd sy’n baglu dros ei eiriau a pheri i’r gwrandäwr hanner effro golli rhediad y stori. Ac yn ’sgytwad i’r system wedi cyflwyniad hamddennol braf Galwad Cynnar o’u blaenau.