Myfyriwr, perchennog caffi a'r dyn RAF


Profiad poenus ac emosiynol ar y naw oedd eistedd gerbron S4C wythnos diwethaf. Gyda’r Cyfrifiad diweddar yn cadarnhau bod ein cymunedau a’n siroedd Cymreiciaf yn boddi dan don o Saeson, bu cryn dipyn o son am foddi llythrennol arall hefyd. Ar Sam ar y Sgrin, clywsom am fersiwn DVD newydd sbon o Last Days of Dolwyn (1949) yn seiliedig ar foddi Cwm Elan meddan nhw, ffilm wedi’i chyfarwyddo gan Emlyn Williams ac yn cynnwys rhyw seren newydd o’r Richard Burton. Darlledwyd sawl rhaglen ddirdynnol am golli cwm uniaith Gymraeg yng nghefn gwlad Meirionnydd hanner canrif union ers ffrwydrad Tryweryn. Cefais bwl o deja-vu wrth i’r atgofion lifo ac ailagor hen glwyfau. Wedi’r cwbl, roedd Owain Williams (Now Gwynus neu Now Bom) eisoes wedi adrodd hanes y “trefniadau amaturaidd” ar raglen gyntaf Cadw Cwmni ddechrau Ionawr, gan ddisgrifio’r lwc mwnci o gael pyncjar cyn cyflawni’r weithred fawr yng nghanol yr eira gwaethaf i daro Cymru ers 200 mlynedd. Mae’n amlwg nad oedd yna fersiwn 1963 o Rhian Haf na Derek Tywydd a’i ‘rybudd coch’, felly.




Er gwaetha’r hanes lled-gyfarwydd, rhaid oedd neilltuo awr i wylio Tri Tryweryn (ITV Cymru), cyfuniad o luniau archif, toriadau papur newydd y cyfnod cythryblus hwnnw a phererindod chwerwfelys i’r tri a benderfynodd wneud yn lle dweud. Os mai Owain Williams ydi wyneb cyhoeddus amlwg yr ymgyrch, ac Emyr Llew ddagreuol o Ffostrasol yn ail agos iddo, roedd John Albert Jones y cyn-filwr o Fadryn yn hollol newydd a dieithr i mi. Sioc a syndod oedd deall mai dyma’r tro cyntaf erioed iddo fo ac Emyr Llew weld ei gilydd ers hanner canrif, a’r ddau wedi byw a bod yn y Gymru Gymraeg agos-atoch erioed. Elfen ddifyr arall oedd cyfweld David Walters o’r Bargod, un o ddau o Gymry di-Gymraeg Cwm Rhymni a ddysgodd y lleill sut i greu bom; a’r cynghorydd Elwyn Edwards yn cofio gorymdeithio ar strydoedd Lerpwl wrth i hen ferched y ddinas boeri arno. Roeddwn yn gegrwth o glywed bod rhai o gynghorwyr a pherchnogion busnes barus y Bala o blaid y boddi er mwyn llenwi’u pocedi. Ac ar raglen radio safonol Dei Tomos, fe chwalodd Lyn Ebenezer fyth poblogaidd arall am wrthwynebiad llwyr Aelodau Seneddol Cymru i’r boddi. Ni chododd Nye Bevan lais ar y mater o gwbl, ac atal ei phleidlais wnaeth Megan Lloyd George. Argian, mae’n wir mai ni’r Cymry ydi’n gelynion gwaethaf ni weithiau.




Roedd ’na dinc chwerw yn Cofio Tryweryn hefyd, sy’n ddim syndod gan mai cyn-brifathrawes, ffermwyr a phlant y cwm oedd y cyfranwyr. Rhaglen o archif HTV oedd hon, a ffilmiwyd pan ddaeth sylfeini’r hen gapel a’r bont garreg i’r golwg i godi arswyd yn ystod haf sych 1984. Ffaith hynod ddiddorol oedd i Éamon de Valera, arlywydd Iwerddon ar y pryd anfon llythyr o gefnogaeth i’r pwyllgor amddiffyn. A chan fod streic Eos yn dal i rygnu ’mlaen, cân ingol gan Wyddeles a glywyd yn aml ar Radio Cymru – ‘Dan y dŵr’ gan Enya – yn hytrach na theyrngedau Meic Stevens a Heather Jones i Dryweryn.