Mi fuaswn i wedi leicio cwrdd â Jennie EirianDavies, fel cyd-golofnydd teledu prin yn y Gymraeg. Y Cymro yn ei hachos hi,
rhwng 1976 a ’78, lle byddai’n “mynegi ei phryderon am y diffyg oriau darlledu
Cymraeg a'i siom o weld mai yr hyn a alwai'n ‘gawl eildwym’ oedd y rhan fwyaf
o'r rhaglenni a gaed yn y Gymraeg”. Mi fyddai wedi cael haint efo Ffasiwn Bildar heddiw. Beth fyddai ei
hymateb i S4C ffwl sdop, a hithau’n un o’r cenedlaetholwyr prin iawn iawn hynny
oedd yn dadlau yn erbyn sefydlu un sianel benodol Gymraeg, fel yr Athro Jac
Lewis Williams a honnai “y byddai Cymry di-Gymraeg yn colli cysylltiad â’r
diwylliant Cymraeg”? Mae’r hysteria diweddar am isdeitlau wedi’u sodro ar y
sgrin adeg wythnos Gŵyl Ddewi yn profi’r pwynt (arbrawf da, amseru gwael
drybeilig fel IDS i Cameron) - ymgyrch hysbysebu ar S4C yn unig, lle dylai
trêls ‘Bob’ fod wedi ymddangos ar BBC ac ITV Cymru Wales neu hyd yn oed Sky1.
Yr un fath â chyfresi’r dysgwyr fel Cariad@Iaith
a ddylai gael cartref ar y naill sianel Saesneg neu’r llall. Ond dw i’n mynd ar
wasgar rŵan...
Ond yn ôl at Jennie Eirian - golygydd styfnig Y
Faner (1979-82) fu’n “fforwm golau i wyntoedd croesion y 1970au” (Cydymaith i
Lenyddiaeth Cymru). Fforwm fu hefyd yn sail i domen o lythyrau cas gan nashis
amlwg y cyfnod. Cymru fach, Cymru filain, fel yr ategodd Gwilym Owen. Mae’n
bosib mai hynny, a’i hymrwymiad i berffeithrwydd bob amser yn ei gwaith,
arweiniodd at ei marwolaeth annhymig ym mis Mai ’82. Dyna oedd canolbwynt
drama-ddogfen Jennie gyda Rhian
Morgan a ddarlledwyd 7 mlynedd yn ôl (lle ddiawl aeth yr holl amser?). Fel y dywed Branwen Jarvis
yn y rhaglen honno, “Roedd Jennie yn byw mewn cyflwr o densiwn - y tannau oedd
wedi eu tynnu mor dynn - ac mae tannau tynn yn torri.”
Elfennau eraill o’i bywyd
gafodd sylw Mamwlad gan Ffion Hague yr wythnos hon. Atgofion ohoni fel
plentyn yn Llanpumsaint, fel gwleidydd (ymgeisydd Seneddol benywaidd cyntaf
Plaid Cymru a gipiodd 7.8% o'r bleidlais yn Etholiad Cyffredinol 1955, ac 11.5%
yn isetholiad ’57) fel golygydd Y Faner ac fel ffrind. Diolch i’w mab, Siôn
Eirian am ei gyfraniad dewr a thorcalonnus, wrth gofio’r adeg pan giciodd ddrws
y bathrwm i weld ei fam wedi cael gorddos, a chau’r drws er mwyn sbario’i dad.
Dyma gyfres berffaith ar
gyfer nos Sul, cyfres sy’n codi cwr y llen ar ferched/menywod amlyca’ ein gwlad
fach angof sy’n gwybod mwy am Florence Nightingale na Betsi Cadwaladr, Emmeline
Pankhurst ar draul Margaret Haig. Oce, mae’r “actoresau” sy’n ail-greu’r
cymeriadau hynny yng ngwisg yr oes yn boenus o brennaidd a diangen ar adegau.
Ond pa mor ddeheuig ydi Mrs Hague fel hanesydd-gyflwynydd, yn mynd o le i le yn
ei BMW-heb-do a holi myrdd o arbenigwyr (benywaidd yn bennaf, wrth reswm) difyr
newydd yn lle’r un hen rai o fyd academia Bangor/Aber? Nid bod pob cyfranwraig yn
plesio’r gwylwyr-gweld-bai chwaith, pan gyfeiriodd un at y ffaith fod ’rhen
Betsi (yr honnwyd ei bod yn hoyw) yn edrych yn debyg i ddyn. Wps a deis.
Berig ’mod i’n disgwyl
gormod gan ein cwricwlwm Eingl-ganolog, ond dw i’n wir obeithio bod Mamwlad yn rhan o adnoddau Hanes ein
hysgolion.