Chwara' plant





“Sut beth ydi’r Stwnsh Sadwrn newydd ’ma?” holais fy nith dros y Pasg.

“Iawn” atebodd Nanw Swyn mewn llais-ymhell-o-fod-yn-iawn, gan fynd ymlaen i gyhoeddi’n llawn hyder hyfryd naw mlwydd oed nad yw hanner cystal heb Anni, Owain, Tudur na Lois. 

Am ddweud mawr, dair blynedd wedi i S4C yn ei doethineb amheus, roi’r fwyell iddyn nhw a lladd un o frandiau gorau’r Sianel. Torri costau oedd y rheswm yn ogystal â chopïo arferiad CBBC o ddefnyddio logos yn lle cyflwynwyr cig a gwaed yn ddolen gyswllt rhwng rhaglenni. Ond does gan blantos Lloegr ddim byd cyffelyb i Steddfod yr Urdd, lle mae cannoedd os nad miloedd yn mobio’r wynebau cyfarwydd rownd cae ym mis Mai ac yn mynnu crystau-t, posteri a ffrisbis o’u harwyr fythol wenog. Heddiw, mae’r pedwarawd yn barddoni a magu teulu, yn cyflwyno a dyfarnu gemau rygbi, yn diwtor clocsio ac yn cyflwyno sioe radio fasnachol Saesneg i arfordir y Gogledd.

Mae gan bawb eu hatgofion a’u harwyr rhaglenni plant Cymraeg. Roedden nhw’n rhan annatod o’n plentyndod, ac yn llawer mwy perthnasol ac agos-atoch i gynulleidfaoedd o Lanrwst i Landysul na rhyw Peter, Yvette a Diane Blue Peter a’u bathodyn bondibethma. Siŵr braidd bod plant y Saithdegau yn sbïo trwy sbectols rhosliw Blodyn Tatws ac yn hiraethu am ddyddiau seicadelic Miri Mawr. Criw’r Nawdegau wedyn, yn  dal i gofio am Planed Plant a chyfres “Noc Noc” lle’r oedd Iwan John a Mathew Glyn yn meddiannu tŷ rhyw deulu anffodus bob wythnos a Gwenllïan Jones yn llwyddo i regi’n fyw ar yr awyr. Ond yr Wythdegau oedd fy negawd i, gan ddechrau gyda’r Awr Fawr dan law Emyr Wyn a Slim. Yn bersonol, drama Americanaidd wedi’i throsleisio (yn wael, berig) o’r enw Garan o’r Gofod sy’n aros yn y cof ynghyd â chyfres gartŵn Sandor wedi’i gosod mewn galaeth arall. Yna, daeth Gaynor a Graham i lywio Hafoc (1986-1991) yn anhrefnus-wych o stiwdios BBC Llandaf, a hwyl y cymeriadau clai chwedlonol ‘Now a Ned’ (Pat & Mat o Tsiecoslofacia yn wreiddiol) a’r tedi-boi Jeifin Jenkins a’i sgetshis o Gaffi Ffortisimo gyda’i frawd Handel (Huw Ceredig). Ai fi sy’n breuddwydio, neu sét caffi Meic Pierce Pobol y Cwm a ddefnyddiwyd ar gyfer honno hefyd? Mae gen i lofnodion Graham a Gaynor yn llyfr bach coch S4C o hyd, ond dyn a ŵyr beth ydi hanes y camera bach a enillais mewn rhyw gystadleuaeth ffonio i mewn. Postio, nid trydar llun-a-chyfarchion penblwyddi wedyn. Gallaf weld Nanw Swyn yn rholio’i llygaid dros ei kindle.

Oes, mae byd o wahaniaeth rhwng rhaglenni plant Cymraeg dros y degawdau. Mae’n slot hollbwysig o ran denu Cymry 7-13 oed i wylio S4C. Heddiw, mae’r esgid yn gwasgu ac ambell Gymro Llundain yn teithio i ffilmio yng Nghaerdydd. A’r gamp aruthrol bellach ydi denu cenhedlaeth You Tube i wylio a gwrando’n Gymraeg.