Ewropa




Dw i’n Ewropead i’r carn. Yn bachu ar bob cyfle i adael yr ynys fach oeraidd hon sy’n hwrjio’i Phrydeindod ar bawb, a chofleidio’r cyfandir mawr amlieithog sy’n estyn croeso i eraill. Oslo sydd ar y gweill fis yma. Dramâu teledu wedyn. Unrhyw beth wedi’i isdeitlo, dw i yno. Rhai Danaidd ar nosweithiau Sadwrn BBC Four sbardunodd popeth, ond bellach, mae pob sianel gwerth ei halen yn cyflwyno ditectif trwblus â dilledyn neu gar unigryw sy’n mentro i goedwigoedd a warysau tywyll heb dortsh. Mae ’na smörgåsbord ohonyn nhw ar netflix meddan nhw, ond dw i’n gyndyn o danysgrifio’n hun i fwy o ddyledion misol, felly gwasanaeth am ddim rhagorol ‘Walter Presents’ Channel Four i mi. 

Dros hirlwm y gaeaf eleni, bues i’n porthi (be’ di “binge” yn Gymraeg ’dwch?) ar gyfresi tramor, gydag uchafbwyntiau fel Tjockare än vatten (Thicker than Water) a Coppers (Rough Justice), y naill o ynysoedd Åland Sweden a’r llall o Fflandrys. Y gyntaf yn saga dau frawd a chwaer â llond wardrob ikea o sgerbydau sy’n gorfod dychwelyd adra’ i redeg hen westy’r teulu, a’r ail am dditectif o Antwerpen â bywyd personol lliwgar a hen Merc lliw mwstard. Mae’r bocsets yno’n barhaol, a’r nesaf yn y ciw ydi Hořící keř (Burning Bush) o’r Weriniaeth Tsiec, am wroldeb gwerin Prâg yn erbyn eu goresgynwyr Sofietiaidd ddiwedd y 1960au. Os gawn ni haf gwlyb, dw i’n gwybod lle i droi. Ond yn ôl at y teli bocs cyffredin, ac mae’r bytholwyrdd Bron/Broen (The Bridge) yn dychwelyd am y tro olaf erioed ac wedi ennill dyrchafiad i BBC Two. Mae arwyddgan atmosfferig Choir of Young Believers yn fy mhen o hyd.

Os nad ydi’r BBC am ddangos cyfresi Cymraeg a Chymreig ar y rhwydwaith – gweler melodrama Eve Myles yn Keeping Faith – yna waeth i S4C werthu’i bocsets i ddarparwyr fel Walter Presents ddim. Parch er enghraifft, un o’r cyfresi mwyaf gwreiddiol yn unrhyw iaith sy’n haeddu llawer iawn mwy o heip a gwylwyr o gymharu â’r rhai noir bei-ling. Soniodd sawl twitterati am “lefen y glaw” a do, arhosodd y bennod olaf hefo fi’n hir iawn wedyn, fel un sydd wedi profi galar brawychus o sydyn. Roedd ymateb tad, cyn-ŵr a chariad bore oes Myf (Carys Eleri) yn ingol, a chân Colorama yn glo perffaith i un o gyfresi gorau’r Sianel ers Con Passionate â’i chyfuniad tebyg o gomedi, pathos a ffantasi. Cyfres â chalon a chymeriadau ro’n i’n wir falio amdanyn nhw. 

Diolch Fflur Dafydd, a chwsg mewn hedd Myf.

Oes modd cael spin-off Oksana ac Elfed yn rhedeg caffi a magu’r fechan yn Estonia?