Dyma bwt a 'sgwennais ar gyfer tudalen flaen Yr Odyn, Hydref 2018 - papur bro Nant Conwy, y pentrefi Cymraeg gwledig sy'n cwmpasu 'Dre' (Llanrwst).
Ydych chi’n gwylio cyfres
gomedi newydd BBC Wales, Tourist Trap? Wedi’i hysgrifennu gan Sian
Harries, Gareth Gwynn a Tudur Owen sydd hefyd yn serennu ochr yn ochr ag Elis
James ac eraill, mae’n tynnu blewyn o drwyn y cwango twristiaeth Wow! Wales
dan arweiniad Saesnes a chriw PR digon di-glem. Nid mod i’n awgrymu unrhyw
debygrwydd â ‘Croeso Cymru’ am eiliad - tîm fu’n gyfrifol am ymgyrch farchnata
£5 miliwn y llynedd a arweiniodd at ddim ond 0.5% yn fwy o ymwelwyr tramor i
Gymru. Cymharwch hyn â chynnydd o 17% o dwristiaid rhyngwladol i’r Alban. Dyma
un o straeon diweddar Y Byd yn ei Le gyda Guto Harri, a gododd
gwestiynau poenus am strategaeth fethiannus Visit Wales (waeth inni
ddefnyddio’r teitl Saesneg ddim, fel diwydiant a bydolwg Seisnig ar y naw).
Cwyn perchennog gwesty o
Aberystwyth oedd bod llai o arweiniad a chydweithio i godi safonau ers
diddymu’r Bwrdd Croeso 12 mlynedd yn ôl. Ac yn ôl Sean Taylor, dyn busnes o’r
Dyffryn a pherchennog atyniadau hynod lwyddiannus Zip World, dim ond tua 2% o’i
gwsmeriaid sy’n hanu o’r tu hwnt i’r Deyrnas Gyfunol. Ei ateb? Llawer mwy o
gyllideb marchnata a chysylltiadau trafnidiaeth ganmil gwell na’r hyn sydd
gennym ar hyn o bryd. Hen gŵyn i ni sy’n gyrru’n rheolaidd ar ffordd drol
genedlaethol yr A470 wrth gwrs. Ond ateb radical Sean oedd cael ein maes awyr
ein hunain yn y Gogledd, gyda chysylltiadau hwylus â dinasoedd Ewrop - yn lle
disgwyl iddyn nhw hedfan i Fanceinion cyn wynebu dwy awr arall ar hyd yr A55 i
gyrraedd pen y daith. Wedi’r cwbl, mae gan yr Alban pum maes awyr. Dim ond
Caerdydd ’sgynnon ni. Meddyliwch mewn difrif calon pa mor chwyldroadol fuasai
Mona International. Dychmygwch petaem ni wedi defnyddio arian Ewrop a buddsoddi
i’r eithaf ym maes awyr Caernarfon, Penarlâg neu hyd yn oed leoliad newydd canolog
ar wastadeddau Abergele.
O wel. Rhy hwyr codi pais
r’ôl piso Brexit...
Tawedog iawn oedd ymateb
Llywodraeth Cymru a’r sioni bob lliw o Weinidog Twristiaeth, Dafydd Êl, i’r
rhaglen gyda llaw. Pwy sy’n atebol?!
Pwnc cysylltiol arall ydi
Cymru fel brand. Gydol fy nheithiau tramor mynych ar hyd y blynyddoedd, o
Barcelona i Oslo, sylwais fod mwy a mwy yn gwybod amdanom Ni. Diolch yn bennaf
i fyd y campau, ac anturiaethau anhygoel y Cochion yn Ewros 2016 a llwyddiant
Geraint Thomas a lapiodd eu hunain yn y Ddraig Goch gerbron cynulleidfaoedd
teledu o filiynau ledled Ewrop a thu hwnt. Oes, mae gennym ni faner cwbl
unigryw. Rhaid ei chwifio i’r eithaf a pheidio byth â gadael i Alun Cairns na
llywodraeth San Steffan wneud hynny. Pwy sy’n cofio neuadd fwyd Sioe Llanelwedd
eleni wedi’i phlastro â Jac yr Undeb dan ymgyrch slafaidd “Food is Great
(Britain)”?
Y Gymraeg hithau. Dyna
chi drysor ac arf anhepgor arall i’w ddefnyddio mewn ymgyrchoedd marchnata o
bob math. Mae gennym ni fantais aruthrol i’r Alban yn hyn o beth. Iaith fyw
gyda’r cryfaf o’r gwledydd Celtaidd, arwyddion dwyieithog (gyda pholisi
cenedlaethol Cymraeg yn gyntaf yn ddelfrydol), sianel deledu gynhenid sy’n
allforio actorion a dramâu i bedwar ban. Roedd Americanwyr y cwrddais i â nhw
yn Copenhagen wedi mopio ar gyfres Y
Gwyll ar Netflix UDA a Chanada, a miloedd mwy wedi dotio ar acen Gymreig
Matthew Rhys wrth dderbyn tlws actor gorau yng ngwobrau’r Emmys yn ddiweddar.
Hysbysebion gwyliau,
labeli cig oen, iogwrts a jin, ditectifs teledu. Mae’r angen i hyrwyddo a
heipio ein hunain yn bwysicach nag erioed, yn y dyddiau ansicr Prydeinllyd sydd
ohoni.