S'long Sheryl Ann!




Ro’n i wedi amau byth ers neges a llun ar gyfrif trydar un o gyfresi arfaethedig y Sianel, @35AWR1. Ynddi, roedd cast o ddeuddeg aelod o’r rheithgor mewn drama waedlyd wedi’i ’sgwennu gan Fflur Dafydd, yn eu plith, Lisa Victoria sy’n fwy enwog inni fel Sheryl Ann Hughes (née Howarth, née Llywelyn) ers 17 mlynedd. A dyna feddwl yn syth bín mai hi fyddai’n gadael Cwmderi mewn hers, yn stori fawr yr haf Pobol y Cwm.

Sheryl druan â’i hoffter o bopeth pinc a dynion anaddas. Sheryl hirddioddefus a gafodd ei siâr o gariadon anghynnes, yn gelpwyr, godinebwyr, treiswyr a hyd yn oed paedoffeil. A Sheryl fythol fyrlymus a gyrhaeddodd y Cwm yn llawn sgrech a sodlau uchel, ond a adawodd yn gelain ar waelod grisiau fflat y Salon. Gair i gall - peidiwch â gadael bocsys cardbord gwag ar ben landin. Na phechu hanner eich cydbentrefwyr.

Fe gafodd yr actores ddigon o straeon heriol i’w hymestyn i’r eithaf, yn enwedig y trallod o golli’r bychan, Meilyr. A hyd yn oed pan oedd ambell actor, egstra neu stori amaturaidd yn llethu’r amynedd, gallech ddibynnu ar Lisa Victoria i sicrhau safon a sglein ochr yn ochr ag Andrew Teilo, Richard Lynch a Nia Caron. Gwae chi snobs sebon ag actorion cystal â’r rhain wrthi. Nid bod pob elfen o’r stori ddirgelwch yn taro deuddeg chwaith, gyda Sheryl yn ast amhoblogaidd y Cwm mewn mater o bennod, rhestr o amheuwyr amheus (Siôn White, wir?) a phawb yn trin Esther fach yn hŷn na’i hoed.

Pobol y Cwm oedd pencampwr gwylwyr y Sianel ers talwm. 126,000 yn 2007 medd adroddiad blynyddol y flwyddyn honno. 71,000 oedd ffigur uchaf 2017/18 yn ôl Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol diweddaraf S4C. Gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol sydd ar y brig bellach. ’Feiddiai ychwanegu arlwy rhagorol Seiclo at y rhestr honno eleni, diolch i orchestion y llanc o’r Eglwys Newydd?

I fod yn deg, mae miloedd mwy ohonom yn gwylio ar declynnau a dyfeisiau symudol heddiw, ac yn dal i fyny ar wasanaethau Clic ac Iplayer. Mae’r niferoedd sy’n gwylio teledu ‘byw’ cyn brinned â datganiadau Alun Cairns heb Jac yr Undeb. Trowch i wefan twitter, ac mae’r hashnod #pobolycwm yn dangos mai’r di-Gymraeg sy’n ymateb fwyaf i’r gyfres – prawf pendant a chadarnhaol o apêl ehangach S4C ac omnibws y Sul.
Am ryw reswm, fe wnaeth mudiad Dyfodol i’r Iaith ladd ar y gyfres am “...y defnydd cynyddol o Saesneg... Mae gan raglenni o’r math rôl bwysig i’w chwarae mewn normaleiddio’r Gymraeg, a rhannu’r neges gadarnhaol fod y Gymraeg yn iaith gymunedol, a bod ei dysgu a’i siarad yn sgil sy’n agored i bawb.” Ydi aelodau ‘Dyfodol’ yn gwylio’r un sioe â mi? Iawn, roedd talp helaeth o Saesneg yn y bennod pan biciodd tad Vicky Collins o Lundain i addo’r byd a bywoliaeth iddi yn y Mwg Mawr, ond yn bersonol, fe ges i ’nghythruddo fwy gan safon actio’r tad. Mae yna fwy o Saesneg mewn cyfweliadau ar Newyddion 9 a’r Byd yn ei Le o dro i dro.

Kevin o’n i’n smyg-amau’n wreiddiol, gan ragweld clamp o dro yng nghynffon y stori. Ond mi daflodd y cynhyrchydd Llyr Morus glamp o ddŵr oer ar hynny mewn dangosiad arbennig ym mhabell ‘Sinemaes’ y Steddfod, a dweud mai un o chwech y llun hyrwyddo ydi’r llofrudd.

Gethin ydi’r drwg yn y caws erbyn hyn. A pheidiwch da chi â ’nyfynnu os daw’r gwir allan cyn y rhifyn hwn o’r Cymro.