"Awydd mynd i Bounce Below wedyn?" |
*Addasiad o golofn deledu fisol 'Y Cymro'
Mae’n ddu-bitsh ac yn pistyllio. Tu mewn a’r tu allan. Ac mewn tŷ cyngor ym mro’r llechi, mae dau heddwas yn ymateb i alwad dienw. Gyda dŵr yn diferu o’r llawr cyntaf, mae’r blismones yn camu’n llechwraidd i fyny’r grisiau. Drwodd i’r stafell molchi, mae’n oedi wrth i’r gerddoriaeth godi ias. Hwyrach ei bod yn cael hunllefau tawel am Psycho, wrth chwipio llenni’r gawod ar agor...
Croeso’n ôl i Craith, y gyfres dditectif joli i’n tywys at y ’Dolig ar nosweithiau
Sul S4C – gwrthbwynt perffaith
i dinsels di-chwaeth yr ŵyl. Ailymunwn â Cadi John (Siân Reese-Williams a
welwyd diwethaf yn Pili Pala) ac Owen Vaughan (Siôn Alun Davies) naw mis
wedi’r gyfres gyntaf, o lannau’r Fenai i droed y Moelwyn. Ac ar y cyrion, criw
o gymeriadau mud â’u hwynebau’n bictiwr o euogrwydd, yn poeri rhegfeydd rhwng
dracht o fodca a llond pen o sbliffs.
Fydd hon ddim at ddant cynulleidfa draddodiadol nos Sul.
O. Gwbl.
Ac fel y gyfres gyntaf, mae’r penderfyniadau castio’n uffernol o rwystredig. Ai Blaenau Ffestiniog ’ta Blaina Gwent ydan ni fod? Am bob Manon Prysor a Bryn Fôn, mae gynnon ni Lisa Victoria, Steffan Cenydd, Owain Gwynn. Actorion da, heb os, ond actorion sy’n wir ddifetha hygrededd y lle dan sylw.

’Sgwn i beth fydd ymateb pobl Tan'grisia?
Go brin fydd hynny’n poeni ambell wyliwr adra ’na thramor
chwaith. Dros yr haf, bu cyfri twitter prif sianel
y Ffindir, YLE TV1, yn hyrwyddo “A new
thrilling series in the Welsh landscape!” gyda “Magical landscapes and the
Cymric language”. Ac
ydy, mae’r gwaith camera’n gwneud cyfiawnder ag Eryri waeth beth fo’r tywydd
(digalon yn bennaf) a’r gyfres yn crefu am sgrîn UHD hanner can modfedd i
fwynhau’r golygfeydd. Mae yna berthynas hyfryd rhwng y ddau dditectif hefyd,
gyda’r naill yn malio heb fod eisiau neidio i wely’r llall, fel sy’n dueddol o
ddifetha sawl cyfres debyg. Ond prin yw'r mynadd a'r diddordab yn is-blot chwiorydd Cadi (gan gynnwys yr actores Nia Roberts) sy'n dal i hiraethu am eu tad fu farw adra o gancr ers y gyfres ddiwethaf.
O Gymru i'r Iseldiroedd |
A dw i ddim yn edrych ymlaen gymaint at wylio hon fel roeddwn i'n awchu am bob cyfres newydd o'r Gwyll. Dim mo'r un cyffro nosweithiau Sul cyn Dolig 2013 o flaen tanllwyth o dân, goleuadau pŵl a gwydraid o goch o flaen y bocs, cyn trafod y plot yn y swyddfa drannoeth. Tydi #craith heb danio'r cyfryngau cymdeithasol hyd yma, ac mae'r di-gymraeg fel un o gyd-actorion Sian RW o ddyddiau Emmerdale i'w gweld yn fwy brwd na'r brodorion.
Achos fe ddoth y Cardi Noir i ben yn rhy gynnar o lawer fy marn bach dibwys i (diffyg cyllid?), a ninnau'n dechrau dod i nabod criw Heddlu Cambria yn well erbyn y drydedd gyfres a'r olaf yn 2016. Meddyliwch am y potensial i adrodd rhagor o straeon yn seiliedig ar stiwdants a strydoedd Aber, yn lle trigolion gwyllt yr Elenydd byth a hefyd. Mae Hinterland yn rhan o arlwy netflix byd-eang os ydych chi'n dal i hiraethu am DCI Tom Mathias a'r Volvo XC40 yn nadreddu drwy ucheldiroedd epig y Canolbarth. A'r bennod olaf un wedi cau pen y mwdwl ar ddigwyddiadau erchyll hen gartref plant Pontarfynach a'r cysylltiadau â phen bandits yr heddlu (plot hirhoedlog, effeithiol, ers cyfres 1), a Mathias wedi cael rhyw fath o heddwch o'i orffennol trist yn Llundain, mae yna wir sgôp i symud ymlaen a chanolbwyntio fwyfwy ar straeon personol DI Mared Rhys a'i parka coch eiconig, y flonden, a'r boi sbectols pot jam, ymhlith eraill.
Nid bod y gyfres honno'n berffaith chwaith, gyda'r sgript yn swnio fel cyfieithiad ar brydiau. Ond yn wahanol i Craith, roedd hi'n haws credu yn y cenhedloedd unedig o acenion oherwydd lleoliad Aber fel croesfan a chanol y genedl.
Dewch o 'na Fiction Factory. Beth am aduniad arbennig ar gyfer ffilm fawr y Dolig S4C yn y dyfodol agos?

Hej! Hej! Gwenwch! |
Pwy a ŵyr, efallai fod rhyw adolygydd blin o Sweden yn
barnu acenion rhanbarthol Offeren Stockholm hefyd. Dyma gyfres deg
pennod am y troseddegydd Fredrika Bergman sy’n
dychwelyd i’r gwaith wedi damwain drasig, wedi’i ffilmio yn y golau llwydlas
unigryw hwnnw i’r cyfresi Nordig. Gyda’r bocset i gyd ar Clic, mae’n rhan o
fenter newydd gyffrous “Walter Presents ar gyfer S4C” gydag isdeitlau Cymraeg
neu Saesneg. Diolch i’r nefoedd mai isdeitlo maen nhw hefyd, nid trosleisio fel
y gwnaeth HTV gyda’r diweddar Huw Ceredig a Robin Gruffydd fel Shane y
cowboi “Cymraeg” ddiwedd y 1970au. Does dim awgrym hyd yma mai perthynas
ddwyffordd fydd hi chwaith, gan na fydd cyfresi Cymraeg yn ymuno â’r llu o rai
Ewropeaidd sydd ar gael i weddill Prydain trwy Walter Presents ar All4/Channel
4.
Mae’r galw yno. Wedi’r cwbl, mae ail gyfres gyffrous Bang - am frawd a chwaer o boptu’r gyfraith yn Aberafan – sydd eto i ymddangos ar ein sgriniau, eisoes wedi’i gwerthu i’r Swediaid.
Mae’r galw yno. Wedi’r cwbl, mae ail gyfres gyffrous Bang - am frawd a chwaer o boptu’r gyfraith yn Aberafan – sydd eto i ymddangos ar ein sgriniau, eisoes wedi’i gwerthu i’r Swediaid.
·