Norwy'n galw




Mae cynlluniau gwyliau sawl un yn ffradach eleni. O safbwynt ein teulu ni, roedd fy nith a’i mam i fod i fynd efo criw o glocswyr Dyffryn Conwy i’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Ceatharlach (Carlow) yn Leinster wedi’r Pasg, a nai wedi bwriadu crwydro Awstria, Slofacia a Hwngari gyda mudiad yr Urdd. Roedd gan Iôrs Trŵli gynlluniau i dreulio dechrau Mai ym Malmö. Ond hei, mae ’na wastad yr hydref eleni, gan obeithio i'r nefoedd y bydd yr aflwydd byd-eang drosodd erbyn hynny. 

Am y tro, rhaid dibynnu ar nofel Ingrid gan Rhiannon Ifans wedi’i gosod yn yr Almaen am fy ffics o dir mawr ysblennydd Ewrop, ynghyd â chyfres ddiweddara BBC Four o Norwy. Fe wnes i adael llyfr Medal Ryddiaith Prifwyl Llanrwst ar ei hanner, felly dyfal donc a dechrau arni eto tra bod digonedd o amser hunanynysu ar fy mhlât.

Ac nid cyfres noir-aidd arferol nos Sadwrn sydd ar y bocs chwaith, na deuawd ditectifs efo car secsi a mwy o bwysau na phrif weinidog Johnson ar hyn o bryd. Mae Twin fymryn yn wahanol i’r rhelyw Sgandi, gyda chyfuniad o gyffro, dirgelwch, cwlwm teuluol, cyfrinachau du a hiwmor duach am ddau frawd dieithr - Erik, syrffiwr gwyllt a gwamal sydd mewn twll ariannol, ac Adam y dyn busnes a theulu llwyddiannus yr olwg - sy’n mynd ben-ben â’i gilydd gyda chanlyniadau trychinebu, ac Ingrid, gwraig Adam, yn y canol. A dyna gychwyn gwe o gelwyddau wyth pennod, wrth i Erik gamu i sgidia Adam a cheisio taflu llwch i lygaid ffrindiau, perthnasau a’r Politi lleol, er mwyn achub ei groen yntau ag Ingrid.



Yn ogystal â’r cawr o gochyn Kristofer Hivju megis Ray Gravell Norwyaidd a seren cyfresi rhyngwladol fel Beck a rhyw Game of Thrones – y prif gymeriad arall yw Lofoten. Nid person o gig a gwaed, ond lleoliad. Ynysfor yng nghanol Cylch yr Arctig, 940km i'r gogledd o'r brifddias Oslo. Mae'n wirioneddol wledd i’r llygaid, rhwng culforoedd a chopaon dramatig ac adeiladau pren coch yn nythu’n ddel yn y canol fel petaen nhw wedi’u creu gan arlunydd Disney.

Mae ar fy rhestr siopa gwylia i’n barod. Ac os bydd y bennod gynta'n eich drysu braidd, na phoener. Erik ydi'r un â gwallt dyn gwyllt o'r coed, tra bod Adam yn fwy slic. Mae'n ffrwyth syniad 14 mlynedd yn ol rhwng Hivju a'i ffrind coleg Kristoffer Metcalfe sydd bellach yn gyfrifol am sgwennu a chyfarwyddo'r gyfres fach unigryw hon.

Mwynhewch y siwrnai!







Pwy di pwy?
Be ydi "Lle i enaid..." yn Norsk?