E-wyliau

 


Pop perffaith Albwm Cymraeg y Flwyddyn

“Di Benllech ddim yn nefoedd” meddan nhw. 

Felly’r oedd hi i lawer o drigolion (brodorol, nid dŵad) ein hardaloedd mynyddig a morol llawn carafanéts a’u carthion, Brymis a beics dŵr. Doedd dim amdani felly ond aros adra’, a mynychu ein gwyliau cenedlaethol rhithiol o bell. Ac roedd arlwy Gŵyl AmGen Radio Cymru yn gydymaith difyr. Mwynheais sgwrs hir hamddenol Rhys Ifans wrth beintio ffens yr ardd rhyw bnawn Sadwrn poeth, a’r actor o Ruthun yn adrodd am ei brofiadau yn nhrwmgwsg Llundain dan glo, gan sawru a sylwi ar natur am y tro cyntaf erioed i gyfeiliant y Cyrff, SFA a Jarman. Gobeithio’n wir y bydd y theatr Gymraeg yn llwyddo i ddwyn yr hogyn nôl ryw ben. Dro arall, cefais fy swyno’n llwyr gan berfformiadau Vrï o’r Tŷ Gwerin wrth feicio i Foel Moelogan, a’m codi gan bop hapus Ani Glass yn Maes B o Bell hyd droeon diderfyn Rhaeadr Gwy.

Diolch i’n cyfryngau cenedlaethol am fynd ati i lenwi’r bwlch yn ein bywydau a’n hamserlenni radio a theledu. Yr un mwyaf llwyddiannus o bell bell ffordd oedd wythnos Eisteddfod T ddiwedd Mai pan oedden ni’n dal yn gaeth i’n cartrefi. Do, fe gawson ni’r cystadlu a’r prif seremonïau arferol, heb y feirniadaeth hirwyntog na’r daith hir o’r sedd i’r llwyfan. Gyda’r tri ar y brig yn ymddangos ar eu sgriniau unigol, a’r beirniad yn y llall, seibiau dramatig y cyflwynwyr Heledd Cynwal a Trystan Morris, llwyddwyd i greu ymdeimlad o densiwn a chyffro byw trwy gamerâu’r we er mwyn ennill tlws cain y dylunydd Ann Catrin. Pwy a ŵyr, efallai y gwelwn ni’r Urdd yn mabwysiadu rhai o elfennau arbrofol ’leni. Gareth yr Orangutang a’r seren ddrag Connie Orff yn beirniadu yn Dimbech flwyddyn nesa, unrhyw un? A diolch i’r drefn na pharhawyd â’r lol pleidlais twitter i ddewis y llefarydd gorau dan ddeg.

Erbyn mis Gorffennaf, â’r rheoliadau teithio lleol wedi’u llacio, roedd cyfle i’r gwylwyr bleidleisio dros bencampwr y pencampwyr Sioe Fawr dros y gorffennol. Wnâi fyth arddel ‘brenhinol’ y cyflwynwyr Cymraeg. Hon oedd yr ŵyl deledu lleiaf llwyddiannus i mi’n bersonol, gydag awran nosweithiol Ymlaen â’r Sioe Mari Lovgreen ac Ifan Jones Evans. Efallai y byddai cyflwyno o glydwch eu ffermydd unigol wedi bod yn well, yn hytrach na hongliad mawr gwag Llanelwedd a ategai dristwch y canslo er gwaethaf pob ymdrech gan y ddau i addo “noson a hanner” a “digon o hwyl a sbri”. 

Gadewais y maes rhithiol dan y felan. 

Teimlad tebyg i wylio Sioe yr Eisteddfod Goll ddechrau Awst hefyd, gyda chae Llancaiach Fawr ger Caerffili yn gyforiog o brops, tentiau a llwyfan berfformio fawr ond eto’n drist o waglaw. Ond llamodd fy nghalon i’r entrychion gan berfformiadau clo Syr Bryn (Terr-ffful i bob cyflwynydd Saesneg) yn enwedig yr anthem genedlaethol wedi’i harwyddo gan bobl fyddar o bob cwr o’r wlad. Gobeithio’n wir mai dyma’r cydweithio cyntaf o blith nifer rhwng y Brifwyl a Disability Arts Cymru. Gobeithio hefyd y bydd Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd S4C yn gwneud yn well o lawer na recriwtio cantores oedd yn methu’n glir ag ynganu ‘Dacw ’Nghariad’. Lle’r oedd y chwiorydd Crawford neu’r llu o artistiaid du dawnus sy’n ffrwyth addysg Gymraeg ond heb gael llwyfan ar y Sianel eto? 

Maen nhw, a ninnau’r gwylwyr, yn haeddu lot, lot gwell

Fyny Vrï