Rownd y Cwm

 


Maen nhw'n ôl! Wedi misoedd o fyw dan glo, mae gynnon ni hawl i droedio strydoedd Glanrafon a Chwmderi unwaith eto. Hen bryd. Roeddwn i – fel yr actorion eu hunain wnaeth y rownds hyrwyddo ar Heno, Radio Cymru a Radio Wales mae’n siŵr – wedi laru ar glywed am eu trefn newydd o weithio. Gorsafoedd diheintio, llwybrau unffordd, bag colur a dillad yr un, props eu hunain mewn bocsys, gorfod creu setiau newydd ar stad ddiwydiannol yn hytrach na defnyddio cartrefi go iawn. Rŵan bod yr hen gyfarwyddiadau covidus diflas mas o'r ffordd, roedd hi’n hen bryd cael ’bach o ddrama. 

Haleblydiliwia.

A doedd dim modd dianc rhag C-19 yn Pobol y Cwm, ar ddiwrnod cyhoeddi clofa newydd yn un o gymoedd y De-ddwyrain. Roedden ni’n ôl ym mhanig cynnar y corona, gyda Colin ac Aaron yn gosod arwydd “dim ond 2 bapur tŷ bach” y pen (ôl?), Kath Jones yn dwyn potel siampên dan fwgwd, a phawb heb weld barbwr ers misoedd. Dw i heb weld gymaint o walltiau mawr ers pennod o Dallas ym 1985, a dim ond y dynion oedd rheiny. Roedd priodas rithiol Colin a Britt yn ffordd glyfar ddyfeisgar o wasgu’r rhan fwyaf o’r cast i bennod ugain munud, wrth inni gael skypeolwg (mae yna wegamerâu eraill ar gael) ar bawb yn gwylio’r “seremoni” o bell. Seremoni a weinyddwyd gyda llaw, gan y gw’nidog lleyg Siôn White, i Britt ei gyn-wraig ac a wyliwyd yn feddw hiraethlon gan Gaynor, cyn-wraig Colin, ymhlith eraill.

Ie, ’mond ym myd sebon. Pennod hapus, cysurus braf, o weld hen ffrindiau unwaith eto. Dw i ddim yn cofio’r tro diwethaf i gymaint o’r pentrefwyr fod gyda'i gilydd. Bechod na lwyddodd y cynhyrchwyr i ddenu James Wilbraham (Chester Monk) dawnus 'nôl am bennod arbennig hefyd, a gwylio’r briodas o Bortiwgal. A Catrin Monk? Dim clem.

Y dyn drwg wrthi eto


A thra’r oedd carfan o’r genedl yn diflasu’r gweddill ohonom gyda’u campau pobi bara banana, peintio enfysau neu ganu côrona, mae Garry Monk (ta mwng?) a Jaclyn Parri (Richard Lynch a Mali Harries, hefyd o’r Archers) wedi ffeindio amser i gamfihafio yn y garej gan fod Trafyloj Llanarthur di cau. Yn wahanol i Carys ac Aled (Ceri Lloyd a Daniel Lloyd, heb Mr Pinc) sy’n dal i gadw reiat ac a sleifiodd i westy moethus ar ddiwedd y bennod gyntaf o Rownd a Rownd. Mae’r gyfres hon yn cynnig dihangfa go iawn, achos tydi’r corona ddim yn bod ar y Fam Ynys ffuglennol. Dim masg na’r un mensh am realiti’r byd mawr. Ond bydd tipyn llai o gofleidio a phaffio wrth i’r actorion orfod Cadw Pellter Hollbwysig, a ninnau’r gwylwyr yn gorfod defnyddio tipyn mwy o’n dychymyg. Mi ddown i arfer, debyg. Mae’n debyg hefyd y cawn ni gymeriad(au) newydd yn fuan, wrth i Siân achub gyrrwr mewn damwain car a’i nabod wedyn fel cyn-gydweithiwr (a mwy?) iddi gyda’r heddlu. A tybed oes ’na fwy na chyfeillgarwch yn magu rhwng Rhys y mecanig a Dylan y gŵr gweddw diweddar?

 

Clec iddi'n Copa

 

Amser a ddengys. Son am amser, mi wnaeth fy nith bwynt da am yr amserlen newydd. Gan fod Pobol bellach ddwywaith yr wythnos, nid pump, â ninnau’n prysur ddal i fyny, mae’r rhagflaenu RR ar nosweithiau Mawrth ac Iau. Gyda dramâu mor brin ar S4C, oni fydda i’n well rhannu’r ddwy sioe sebon ar nosweithiau gwahanol inni gael mwy o amrywiaeth? Dim ond sylw wrth basio.

Iesgob, mae’n braf eu cael nhw’n ôl.