Ffilmio o bell


Digynsail. Dw i’n casáu’r gair yna, ond ydi, mae hi yn ddyddiau digynsail. 

Ac mae ffrwyth y pandemig yn dechrau ymddangos ar ein dramâu teledu ni – gyda’r actorion yn gorfod cadw pellter annaturiol, osgoi eistedd yn rhy agos at ei gilydd, dim dal dwylo, cwtsio na chwffio – waeth pa mor greadigol ydi’r dyn(es) camera. Mae sôn bod cyfarwyddwyr Eastenders yn defnyddio sgrin bersbecs i reoli golygfeydd cusanu rhwng cymeriadau; ac eraill fel Pobol y Cwm wedi defnyddio cymar go iawn i lapswchan, gyda Mathew Gravelle yn cymryd lle Richard Lynch wrth i’r affêr rhwng Jaclyn (Mali Harries, gwraig go iawn Gravelle) a Garry Monk orboethi yn eu swigan secsi eu hunain. Prin yw’r ecstras yn y Cwm a Rownd a Rownd. Mi ddown i arfer, berig, ond iesgob, mae’n dal i deimlo’n annaturiol ar hyn o bryd. Er hynny, rhaid eu canmol am wneud gwyrthiau dan amgylchiadau mor, ie, digynsail.

 

Mask, camera, action! Cast a chriw "Vera"

Mae eraill, am wn i, yn treulio wythnosau o fewn eu bybl eu hunain er mwyn canolbwyntio ar waith ffilmio, fel cyfres dditectif Northymbria-Noir, Vera ar ITV gyda’r hoffus Brenda Blethyn. 

Felly hefyd criw Un Bore Mercher, sydd newydd orffen ffilmio’r drydedd gyfres (a’r olaf) o felodrama Eve Myles yn ardal Talacharn, yn barod i’w darlledu ar S4C cyn Dolig. Efallai y gwna i wylio hon hyd yn oed, serch y caneuon cefndir clogyrnaidd a'r deialogi sy'n merwino'r glust. Efallai. 

Roedd Eve wir yn difaru anghofio am ei welintyns


Dw i’n cymryd hefyd nad yw actorion cyfres ddrama newydd BBC Wales wedi bod yn cadw pellter llym, a barnu oddi wrth llun hyrwyddo’r cast yn ardal Casnewydd. The Pact ydi’r teitl, cynhyrchiad gyfan gwbl Saesneg nid bac tw bac felltith efo S4C, am bum ffrind sy’n dod at ei gilydd mewn gwe o gelwyddau wedi marwolaeth annisgwyl. Thriller? Comedi dywyll? Dw’n i’m. Ond mae’n cynnwys rhai o’n hactorion Cymraeg amlycaf yn Eiry Thomas a Heledd Gwynn (35 Diwrnod) yn ogystal â Mark Lewis Jones ac Aneurin Barnard, ac Enwau Amlwg o’r Byd Saesneg (Eddie Marsan a Julie Hesmondhalgh gynt o Corrie) i sicrhau dangosiad ar rwydwaith Lloegr. Creadigaeth y sgwennwr Eingl-Awstraliaidd Peter McTighe (Neighbours a Doctor Who, fu hefyd yn gyfrifol am y fflop Cara Fi ar S4C yn 2014) ydi hon, felly cawn weld pa mor ‘Gymreig’ ydi’r ddrama a gynhyrchir gan Catrin Lewis Defis (Bang, Parch, Broadchurch). O leia mae’n newid o glywed byth a hefyd am bencadlys newydd y Gorfforaeth yn Sgwâr Canolog Caerdydd.

Dw i’n barod am ddihangfa ddramatig. 

Gwenwch, genod