Sulwyn a'r Sioe


Mae’r ysgolion a’r colegau wedi cau, a’r carafanwyr yn dechrau’i nadreddu hi ar ffordd drol yr A470. Wedi wythnosau o fochel dan yr ymbarél, daeth yr haul i wenu’n ddel ar Lanelwedd wythnos diwethaf. A-men, meddwn ni. Unwaith eto, roedd y criwiau teledu a radio yno i gofnodi pob beirniadaeth a bwrlwm y maes - a sôn am griw! Roedd Sioe ’08 megis ‘pwy ’di pwy’ y byd cyflwyno Cymraeg. Y dihafal, drwsiadus, Dai Jones yn llywio’r cyfan (dyna chi’n saff o filoedd o wylwyr yn barod) fel meistr y Prif Gylch, a’i lu o weithwyr ffyddlon ar hyd a lled y maes. Ac roedd digon i blesio pawb. Dyna chi Elen Pencwm yng nghanol y stocmyn, gan gynnwys cymeriad (arall) o Lanilar a oedd yn bedyddio pob gafr ar ôl enwau anfarwolion(!) Eurovision neu Miss World y gorffennol. Morgan Sgorio Jones wedyn yn denu’r ledis wrth bicied o stondin i stondin. A Nia Parry. Mae hon yn drysor cenedlaethol. A wnaiff rhywun botelu gwên lachar Ms Parry, a’i gadw’n saff at ddiwrnodau’r felan? Roedd rhyw fflyrtian chwareus wrth iddi holi’r hwn a’r llall, gan gynnwys perchennog cwmni nid anenwog o Gorwen oedd yn ceisio gwerthu trelar iddi gludo’i chwpwrdd dillad o fan i fan. Er hynny, efallai yr aeth hi braidd yn rhy bell wrth gynnig cynghorion ffasiwn i’r cneifwyr. Fel arfer, roedd sglein cystal â’r tractors newydd sbon danlli grai ar y rhaglenni hyn, gyda digon o amrywiaeth am awr bob nos yn gwneud i rywun ddifaru peidio â mynd yno yn y lle cyntaf. A braf gweld Sara Edwards yn llywio’r arlwy gyfatebol ar BBC2, wedi’r hen dro gwael a gafodd gan fosys Wales Today.

Mae ymweliad Pobol y Cwm â’r Sioe Fawr bellach mor draddodiadol â’r Wurzels fel adloniant noson ola’r pentre ieuenctid. Eleni, penderfynodd y sgriptwyr adael y criw ifanc gartref a chanolbwyntio’n hytrach ar yr hen stejars fwy llwyddiannus. Gyda’i gyn-wraig a’i fodryb fythol fusneslyd yn gwmni iddo, does ryfedd i Denzil ddianc yn syth i’r babell gwrw. Ac wele esgus i gyflwyno Sulwyn Thomas fel ‘seleb’ ddiweddara’r gyfres, er dyn â wyr beth oedd y cyn-ddarlledwr yn ei wneud yng nghwmni perchennog siop Cwmderi. Ta waeth am hynny, cafwyd golygfeydd digon doniol o Anti Marian wedi mopio’i phen yn lân wrth rannu gwin cartref gydag e:

“…Ma safon yn perthyn i chi…iaith raenus… ddim fel ’sda’r cryts ifanc dyddie ’ma”.

Does bosib mai cic slei gan sioe sebon o’r un stabl â Radio Gwynedd/Cymru oedd honna, yng nghanol helynt yr ailwampio arfaethedig?

Hud yr Hen Ogledd


Nid yn aml iawn mae Dai Llanilar yn fud gan syndod. Fel arfer, mae Cocni enwocaf Cymru yn holi’r hwn a’r llall yn dwll, boed ar gae gwair neu gae rasys ceffylau. Ond y tro hwn, roedd wedi’i swyno’n llwyr gan fynyddoedd mawreddog a grug Gororau’r Alban. Ar raglen Cefn Gwlad (ITV Cymru) wythnos diwethaf, roedd Dai a’i ffon fugail yn cwrdd ag un o fechgyn Sir Drefaldwyn sy’n rheolwr fferm ar stâd Dug Buccleuch, un o berchnogion tir mwyaf Ewrop. Ac nid rhyw fferm fynydd ddi-nod mohoni chwaith. Eglurodd Siôn Williams o’r Foel, Llangadfan, ei fod yn gyfrifol am naw gweithiwr ar fferm 38,000 erw – cyfran fach iawn o’r 270,000 o erwau sydd yn nwylo’r Dug i gyd. A dyna ddechrau’r ebychiadau niferus o “mowredd” a “iesgob” o enau Dai. Dro ar ôl tro, roedd ffeithiau a ffigurau Siôn yn pwysleisio maint ei orchwyl. Roedd y siediau wyna polytwnnel yn dal 12,000 o ddefaid; wyau o 32,000 o ieir buarth yn ffynhonnell incwm gwerthfawr; a 48,000 o ffesantod yn cael eu bridio ar gyfer y tymor saethu hollbwysig. Ond er gwaetha’r niferoedd trawiadol, diddorol oedd clywed Siôn yn dweud ei fod yn chwilio am ffyrdd o arbed costau o hyd – fel creu eu dwysfwydydd eu hunain o haidd a gwenith cartref. Prawf fod hyd yn oed archffermwyr yr Alban yn gorfod gwylio’r bunt yng nghanol yr argyfwng credyd bondibethma. Yn y cyfamser, roedd Dai yn dal mewn perlewyg gyda safon y stoc, a’r ffaith fod cig eidion Scotch Buccleuch ar fwydlenni’r Ritz yn Llundain. Ond nid oedd am ganmol gormod, gan herian nad oedd gwartheg duon Aberdeen cweit cystal â’r rhai cyfatebol o Gymru!

Llwyddodd gwaith camera trawiadol Nigel Denman i gyfleu ehanger yr uchelfannau a’r lliwiau hydrefol i’r dim, a’r cestyll ganrifoedd oed yn rhoi naws Monarch of the Glen i’r cyfan. Er yr holl gyfeiriadau mynych at ei fos, ni welsom na bŵ na be o’r Dug - rhy brysur yn teithio rhwng ei bedwar plasty ar y stâd siŵr o fod. Ac roeddwn i’n ysu i glywed mwy o hanes Siôn hefyd, yn lle’r pytiau pum munud a gawsom ar ddiwedd y rhaglen. Dywedodd ei fod wedi ymgartrefu yn yr Alban ers 8 mlynedd, yn hoffi sgïo ac yn chwarae hoci bob nos Lun yn ei amser sbâr. Byddai’n grêt pe baem wedi’i weld yn cymdeithasu fin nos. Go brin y byddai Dai wedi gwrthod diferyn bach o’r ddiod genedlaethol. Ond gyda’r gyfres fytholwyrdd hon ar frig deg uchaf S4C yn rheolaidd, pwy ydw i i farnu?

Y gantores ga'dd ei gwrthod



Y Cnapan, Sesiwn Fawr, ’Steddfod a Gŵyl y Gwyniaid. Dyna drefn yr haf i mi. Gorffen helpu lapio gwlân neu’r byrnau mawr, a rhannu llond car neu fws TrawsCrwban i fanteisio ar hwyl a haul yr haf. Ac onid oedd gwyliau’r gorffennol bob amser yn llethol o braf? Wel, i’r cof hiraethus beth bynnag. A nawr, mae’n ymddangos fel pe bai gigwyr heddiw’n yfed cwrw mewn cagŵl. Neu efallai mai fi sy’n mynd yn hen. Wedi’r cwbl, ’toedd un o wyliau cerddorol poblogaidd heddiw ddim yn bodoli bryd hynny!


Ar ôl llaid a llaca’r llynedd, dychwelodd Wakestock ’08 (Avanti) i fyddaru pobl Abersoch a llenwi amserlen yr haf ar S4C. Ac er gwaetha’r tywydd hydrefol, roedd gwên a gwallt Sarra “awyrgylch parti!” Elgan yn goleuo’r sgrîn wrth iddi gyflwyno uchafbwyntiau’r gigs a’r campau tonfyrddio o un o’r gwyliau mwyaf o’i bath yn Ewrop. Roedd y maes yn fwrlwm o weithgareddau, gyda phafiliwn tebyg i’r Brifwyl yn gefndir i stondinau chwaraeon dŵr, ffair a phwll anferthol lle’r oedd syrffwyr a byrddwyr yn neidio tin-dros-ben i’r dŵr. Roedd y perfformwyr Cymraeg wrth eu boddau, gyda Dyl Mei o Genod Droog yn canmol proffesiynoldeb y cyfan a’r ffaith ei bod hi’n braf cael eu trin fel “band go iawn” am unwaith; a chriw Radio Luxembourg yn cael teimlad od ond pleserus o chwarae gig ‘gartref’ o flaen cynulleidfa cwbl newydd a dieithr. Un o’r uchafbwyntiau oedd Derwyddon Dr Gonzo, gyda dau ddawnsiwr mewn siwt fanana a thedi bêr yn ymuno â’r band bywiog hwn. Ond digwyddiadau ymylon oedd y rhain mewn gwirionedd, cyn gwir seren y sioe. Roedd cyhoeddiad Sarra Elgan cyn yr hysbysebion yn ategu hynny: “Ar ôl y toriad, mwy o donfyrddio (worrever) bla bla bla…twpsod mewn siwtie gwlyb yn sythu ym Mae Ceredigion bla bla bla, a DUFFY!!” A chamodd brenhines ifanc y siartiau pop i’r llwyfan gan gyhoeddi ei bod “yn neis bod adra”, cyn chwilio am bobl Nefyn yng nghanol y dorf enfawr. Mewn cyfweliad gyda Sarra Elgan wedyn, dywedodd ei bod wedi mwynhau “carvery yn Nanhoron Arms” yn ystod ei hymweliad prin â’i chynefin. Hiwmor naturiol braf gan ferch â llais anhygoel… ac un a gafodd gam gan wylwyr Waw Ffactor!


Yn eironig ddigon, un o feirniaid (di-glem?) y sioe honno, Owen Powell, oedd cyd-gyflwynydd nerfus Lisa Gwilym o’r Sesiwn Fawr eleni. Er cystal oedd Celt a Gwibdaith Hen Frân, grŵp dawns-gwerin unigryw o Lydaw o’r enw Skilda lwyddodd i greu’r argraff fwyaf o glydwch fy soffa.

Pethau Arallfydol


23 Ionawr, 1974. Y noson y daeth un o ardaloedd anghysbell Meirionnydd i sylw’r byd. Ac un o’r nosweithiau hiraf erioed yn hanes Llandrillo, yn ôl llefarydd Britain’s Closest Encounters (nos Fercher, Channel Five). A minnau wedi mopio ar The X Files ers talwm, ac yn lled-gyfarwydd â’r llên gwerin gyfoes o Gymru, roeddwn i’n edrych ymlaen at gael mwy o’r hanes o lygad y ffynnon. Ni fyddai’r rhan fwyaf ohonom yn mentro cyfaddef ein bod wedi gweld dynion bach gwyrdd o’r gofod. Ond nid y rhain. O’r ffarmwr Huw Lloyd i’r postfeistr Idris Roberts, siaradodd pawb yn onest am eu profiadau iasol ym mynyddoedd y Berwyn. Roedd hyd yn oed yr heddwas lleol yn sôn am weld pelen werdd amheus yn y nos ddu. Law yn llaw â’r cyfweliadau, ail-grewyd digwyddiadau’r noson gydag actorion mewn hen landrofers, a dangoswyd clip o John Craven ifanc yn darllen yr hanes ar Newsround! Ond roedd cyfranwyr eraill yn taflu dŵr oer ar y cyfan. Iddyn nhw, rhyw lewyrch daear (earthlight) a welwyd yn yr awyr, yn sgîl daeargryn 3.5 ar raddfa Richter. Wfftiwyd yr awgrym lleol mai siwtiau du sinistr o’r Weinyddiaeth Amddiffyn a ddaeth i holi’r trigolion yn fuan wedyn, ac mai seismolegwyr o Gaeredin oeddynt mewn gwirionedd. Ond mae’r cyn-giper Geraint Edwards yn dal i fynnu fel arall. Ac nid ar chwarae bach mae rhywun yn cyfaddef ar deledu Prydain iddo weld UFO dros 30 mlynedd yn ôl… Mae hon yn stori a hanner, ac yn chwip o syniad i adran ddrama S4C. Lle mae’r Mulder a Scully Cymraeg? Er efallai mai calla beidio, ar ol y llanast wnaethon nhw efo SOS Galw Gari Tryfan ar ei newydd wedd Dolig diwethaf...

Nos Sadwrn diwethaf, roedd hi’n bryd dweud ta-ta wrth David Tennant a Doctor Who - tan ’Dolig beth bynnag. Wedi’r holl ddyfalu ynglŷn â phwy fyddai’n diflannu i’r bocs Tardis yn y nen, ni ddigwyddodd hynny yn y diwedd. O leiaf cafodd 9.4 miliwn o wylwyr chwilfrydig eu denu gan yr holl heip. Ac roedd yna ryw deimlad cynnes, braf, o weld holl ffrindiau’r Doc yn uno i achub y Ddaear rhag Davros (a swniai’n iasol o debyg i John Davies Bwlch-llan) a’r Daleks. Ymunodd criw Torchwood â’r antur alaethol hefyd, gyda Gwen (Eve Myles) ac Ianto yn taro’n ôl o berfeddion Canolfan y Mileniwm. Er hynny, rhyw naws drist ar y naw a gafwyd i gloi’r gyfres - gyda Rose ddanheddog (Billie Piper) yn dychwelyd i’r byd cyfochrog, Donna (Catherine Tate) sgrechlyd ’nôl yn swbwrbia, a’r Doc digymar yn ei beiriant amser.

Dros fy sbectol


Wel, mae’n Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (and Welsh Langwij) wedi cyrraedd yr uchelfannau. Yn ogystal â chael ei enw ym mhapurau tabloids Lloegr, cafodd mensh ar raglenni BBC Breakfast News, CNN a sioe Richard and Judy echnos - a ddangosodd yr erchyllglip ohono’n cyhoeddi enw’r enillydd anghywir yn seremoni Llyfr y Flwyddyn. Bellach, mae cyn-weinidog yr Annibyns wedi llwyddo i bechu’r literati Eingl-Gymreig yn ogystal â charedigion y wasg Gymraeg. Mae embaras ac esboniad yr Academi, trefnwyr y noson, yn ddigri, gan ddweud fod “fformat y garden a ddarllenodd y Gweinidog wedi cael ei ddefnyddio’n llwyddiannus ar saith achlysur blaenorol”. Yr esgus, meddai Rhodri Jin, oedd ei fod wedi anghofio’i sbectols. Stori tudalen flaen Dim Lol Steddfod Caerdydd eleni ’sgwn i?

Wele’r fideo unwaith eto. Mae ’nghalon i’n gwaedu dros Tom Bullough druan...

Taro'r nodyn cywir

O! na, medda' fi pan welais yr hys-bys ar y teledu a’r wasg. Dim eto. Rhaglen gerddoriaeth arall wedi’i chyflwyno gan un o gantoresau ifanc amlyca’r wlad. Ar ôl y siom o weld Ms Gwilym wrthi yn Noson Chis a Meinir lle’r oedd artistiaid heddiw yn canu fersiwn newydd (a gwaeth gan amlaf) o’r clasuron pop Cymraeg, roeddwn i’n barod i gael fy niflasu gan Nodyn. Y tro hwn, yr hyfryd Elin Fflur oedd â’r dasg anodd o roi gwaed newydd i’r fformiwla orgyfarwydd o roi llwyfan i gerddoriaeth ganol-y-ffordd. Ond diawch, mi lwyddodd y flonden o Fôn. Ac mae’n braf cael fy siomi ar yr ochr orau am unwaith.

Meddyliwch am Bandit i rai sy’n rhy hen i werthfawrogi seiniau diweddara’r sin stiwdantaidd. (Moi). Ac roedd gwesteion yr ail raglen yn plesio’n fawr. Tri pherfformiwr a thri lleoliad unigryw, gyda Steve Eaves yn canu o Neuadd Powis Prifysgol Bangor, Lisa Jên Brown a 9Bach yng Nghlwb Criced Bethesda, a Siôn Williams o Dafarn Bessie, Cwm Gwaun. Roedd hi’n braf gweld prif leisydd un o grwpiau’r 90au, Dom, unwaith eto wrth ganu ‘Nos Da Irene’ gyda’i gitâr dros beint. Llwyddodd y camera i ddal yr hen dafarnwraig yn cydganu wrth bwyso ar ei bar, a’r selogion o labrwrs a ffarmwrs lleol yn eu dillad gwaith a’u capiau pêl fâs yn rhoi naws cefn gwlad Ohio i gongol fach o Sir Benfro. Ac mewn cyfweliad addas o fyr gydag Elin Fflur wedyn, dywedodd Siôn Williams fod cwmni Fflach am ryddhau crynoddisg o oreuon ei hen fand…petai ond yn gallu dod o hyd i’r tapiau “masters” i ddechrau! Roedd Lisa Jên yn westai difyr hefyd, ac ar dân dros ein hen ganeuon gwerin “amayzing” ni. Y nod, meddai, oedd rhoi cic yn dîn y traddodiad gyda sŵn drymiau a gitarau trwm yn ogystal â’r delyn. Ac ar ôl clywed fersiwn newydd, hudolus, o’r Eneth Ga’dd ei Gwrthod, dwi hefyd ar dân dros y band hwn. Ac i gloi, ymweliad diddorol â Stiwdio Bryn Derwen fu’n gyrchfan recordio hudolus i artistiaid mor amrywiol â Bryn Fôn a Beth Orton, Swci Boscawen a Kaiser Chiefs ar hyd y blynyddoedd. Ydy, mae ysbryd Pesda Roc mor fyw ag erioed!


Rhaglen hafaidd, hamddenol braf, ar noson hydrefol ar y naw. Bachwch hi cyn inni gael ein boddi gan uchafbwyntiau/ailddarllediadau o Langollen, Dolgellau a’r Vaynol!


Bilić, Roli a Kylie


Mi fydd hi'n haf a hanner i fabolgampwyr cadair freichiau eleni. Rhwng Ewro 2008, y tenis a’r Gemau Olympaidd mi fydd yr ardd fel jyngl, y car dan fynydd o lwch, y cynhaeaf ar ei hanner a’r barbeciw’n segur. Mae’n bleser gwylio’r cystadlu o dir mawr Ewrop eleni, yn absenoldeb heip a jingoistaidd Jac Sais a llwyddiant cenhedloedd bychain fel Croatia dan arweiniad Slaven Bilić. Ond waeth inni heb ag ymhyfrydu yn absenoldeb Rooney gan nad ydy Ramsey a’r giang yno chwaith. Er hynny, trueni nad oes yna raglen wythnosol arbennig gan griw Sgorio i roi’r ongl Gymraeg ar bethau. Ac er nad wyf am godi hen, hen, grachod, mae’r bêl hirgron yn amlwg iawn ar S4C eto’r haf hwn. Efallai bod cynnal Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn bluen yn het Cymru, ond faint ohonon ni sydd wir eisiau gwylio gêm fyw rhwng Iwerddon a Seland Newydd yn ystod yr oriau brig? Er ’mod i’n barod i wylio uchafbwyntiau’r brif garfan a’u hymdrechion glew yn yr ail brawf yn Ne Affrica, dwi ddim mor barod i wylio rwtsh fel Rowland ac Eleri ar y Boks. Yr unig beth clyfar am hon oedd ei theitl. Os oedd cynhyrchwyr Avanti wedi gobeithio efelychu llwyddiant Jonathan, heb y dyn ei hun yn Hemisffer y De, fe wnaethon nhw glamp o gamsyniad. Roedd hyd yn oed Nigel Owens wedi’i dallt hi a’i heglu i ddyfarnu gemau Seland Newydd. Roedd hi’n boenus gwylio Eleri Siôn yn dilyn sgript hiwmor tŷ bach ac actio’r cymeriad strêt wrth i Rowland ‘Roli’ Phillips chwarae’r bili-ffŵl arferol. Gyda chymaint o bwyslais ar jôcs rhechu a thrôns Mr Phillips, mae’n addas dweud bod hon yn gachfa go iawn.



Ymddiheuriadau am yr iaith, ond dwi newydd wylio ail bennod o gyfres newydd Tipyn o Stad. Beiwch Iona (Janet Aethwy) yn enwedig, sy’n bytheirio fod y cyngor wedi’i symud o ‘Faes-Jî’ i Faes Menai. Ar ôl cael ei thraed yn rhydd o’r carchar, mae’n cael ei thraed dani ar y stâd drwy werthu mwg drwg i griw o hogia ysgol. Gyda thafod miniog a wyneb miniocach, dyw hon ddim yn ddynes i’w chroesi. A gwae Susan druan, sy’n troi’i thrwyn ar y “rafins” newydd drws nesaf am “dynnu’r lle i lawr yn ofnadwy”. Mae Elen Gwynne yn ei helfen fel y snob o fam ifanc sy’n ymhyfrydu yn ei chyfoeth newydd ar ôl ennill y bingo. Ond mae ei byd pinclyd perffaith yn chwalu’n rhacs wrth i’w merch bymtheg oed, Kylie, gyhoeddi ei bod yn feichiog yn ei pharti syrpreis. Chavtastig!

Beth yw'r pwynt (i bwynt)?



Un o fanteision, neu anfanteision, adolygu rhaglenni teledu yw’ch bod yn gorfod agor eich meddwl a chanolbwyntio ar bethau na fyddech yn trafferthu sodro’ch pen-ôl ar y soffa i’w gwylio fel arfer. Pynciau sydd ddim fel at eich dant. Rasys ar Garlam (Boomerang) er enghraifft. Digon teg, dwi ddim yn foi ceffylau. Dwi’n taranu tisian a’m llygaid yn llifo fel Rhaeadr Ewynnol pan fyddaf o fewn canllath i ferlen neu ful. Ac yn ail, rhyw barchedig ofn ar ôl clywed y teulu’n sôn droeon am hen ffermwr a laddwyd gan geffyl gwedd flynyddoedd maith yn ôl. A heblaw’r arlwy flynyddol o Aintree, does gen i ddim myned gwylio rasys ceffylau. I mi, rhaid i chi fod yn y fan a’r lle i brofi holl gyffro a berw’r ras. Felly hefyd rasys pwynt-i-bwynt.

Dyma roi’r hen ragfarnau o’r neilltu am y tro, a dilyn rasys Lydstep ger Dinbych-y-pysgod - pumed cyfarfod pwynt-i-bwynt de a gorllewin Cymru. Ac os nad oeddwn i’n frwdfrydig, o leiaf roedd gan y cyflwynwyr Brychan Llŷr a Shân Cothi hen ddigon ohono fel marchogwyr o fri sy’n rhannu stablau ym mro Ogwr. Cawsom ein tywys o amgylch y cwrs cyn ras fawr Lydstep oedd â byd o wahaniaeth i feysydd Cas-gwent a Chaer. Yn syml, tir amaeth cyffredin gyda gwrychoedd a byrnau mawr fel pyst. Ac fel y dywedodd Brychan Llŷr, roedd angen ceffyl dewr a joci medrus (neu honco bost) i garlamu hyd at 40 milltir yr awr i fyny ag i lawr y cwrs. Ac yna uchafbwyntiau’r rasys gwahanol i ferched a dynion a nofis, gyda sylwebaeth ddramatig Wyn Gruffudd a Brychan Llŷr a’i dafod yn y boch braidd wrth i farchogwr anffodus gael ei hyrddio i’r llawr: “Druan â Wil, fydd e ddim yn blês iawn â ’nny”. Na finna’ chwaith, petai dwsinau o garnau gwyllt yn neidio am y gorau dros fy mhen!

Roedd Shân Cothi yn amlwg yn ei helfen un sydd eisoes yn gyfarwydd ar raglenni Sioe Fawr Llanelwedd bob haf. Cyfeiriodd at yr holl gymeriadau lleol sy’n rhan annatod o’r sin pwynt-i-bwynt, ac sy’n dilyn rasys y tymor o lefydd mor amrywiol â Chilwendeg a Thredegar. Trueni, felly, na chafwyd mwy o sgwrs gyda’r cymeriadau hynny ac eithrio’r ddau ffarmwr fflyrtlyd oedd wedi mopio gyda Davina Con Passionate! Trueni hefyd am iaith y rhan fwyaf o’r cyfweliadau. Gyda jocis fel Isabel Tomprett a Lucy Pearse Rowsell wrthi, mae’n amlwg nad yw'r Gymraeg ar garlam yn y byd hwn.

Wynab newydd yn blodeuo



Dwy flynedd yn ôl, bu cryn ffys a ffwdan pan benderfynodd S4C roi’r farwol i un o’i rhaglenni mwyaf poblogaidd. Roedd llinellau ffôn Taro’r Post yn eirias, a’r wasg yn llawn llythyrau blin. Gwelwyd garddwyr yn hogi’u sisyrnau torri rhosod, a fflyd o dractors torri lawnt yn heidio i Barc Tŷ Glas. Efallai ’mod i’n gorliwio braidd, ond heb os, roedd selogion Clwb Garddio wedi gwylltio’n gacwn. Dim mwy o gynghorion garddio wythnosol gan Manon Eames a’r criw, a dim mwy o Gymraeg graenus Gerallt Pennant – un o’n cyflwynwyr mwyaf profiadol sy’n rhy ddieithr o’r hanner o’n sgriniau teledu. Roedd S4C eisiau dechrau efo llechan lân.

Ac wele Byw yn yr Ardd (Cwmni Da), cyfres gylchgrawn sy’n rhoi mwy o bwyslais ar arddio’n ecogyfeillgar a rhyngweithio â’r gwylwyr gartref. Mae Bethan Gwanas wedi penderfynu crwydro gerddi Cymru yn lle’r cyfandiroedd, gan hel syniadau i’w defnyddio adref yn Ffrwd-y-gwyllt. A draw yn Rhosgadfan, mae’r wyneb newydd Russell Owen Jones wrthi’n palu llain lysiau er mwyn byw’r bywyd hunangynhaliol perffaith. Ac yn sicr, roedd ganddo awgrymiadau difyr i fynd i’r afael â’r gwlithod gythrel sy’n gwledda ar y potiau blodau acw - fel gosod plisg wyau o amgylch y planhigion, neu ddenu’r pethau bach sleimllyd i slochian mewn bowlenaid o gwrw. Dyma’r cymeriad mwyaf cŵl fel ciwcymbr organig a welais erioed. Gyda’i arddull dow-dow, mae’n braf cael cyflwynydd newydd sydd heb fod trwy ysgol brofiad bratiog rhaglenni plant a phobl ifanc y sianel. Eitem ddiddorol arall oedd ymweliad Bethan â Gardd Berlysiau’r Bont-faen ym Mro Morgannwg, sy’n pwysleisio rhinweddau ffisig yr oes o’r blaen – chwyn fel dant y llew i drin anhwylderau’r iau, llygad y wennol fel eli’r llygad, a’r hen wermod lwyd i daclo’r meigryn. Ond fel un a gafodd lymaid o de wermod gan wraig fferm yng Ngharmel flynyddoedd yn ôl, roedd y blas chwerw yn ddigon i achosi cur pen i unrhyw un!

Roedd hon fel chwa o awyr iach i’r rhaglenni garddio hynod fanwl hynny sy’n apelio at arddwyr tan gamp yn bennaf. Hoffais y defnydd celfydd o labeli blodau a phlanhigion fel teitl enwau’r cyfranwyr hefyd. Cafodd cyfeiriad y wefan ei adrodd dro ar ôl tro, a chawsom ein hannog gan Bethan i ddarllen ei blogiadur a chyfrannu cynghorion a lluniau o’n gerddi ni. Dim ond gobeithio na fydd yr holl bwyslais ar we-hebu yn ormod o fwgan i ffans traddodiadol Gerallt Pennant.