Dwi’n cofio’r diwrnod fel ddoe. Wrthi’n claddu cinio Anti Meri cyn dychwelyd i’r cae silwair oeddwn i, pan dorrodd y newydd brawychus ar Radio Cymru. Roedd Gari Williams, un o hogia Llanrwst ac un o ddiddanwyr mwyaf y Gymraeg wedi marw. Ar noson Nadolig ychydig flynyddoedd ynghynt, roeddwn i a’r teulu’n gwylio ’nhad yn gwneud diawl o lanast gydag olwyn crochenydd ar S4C. Roedd Gari Williams a’r gynulleidfa’n g’lana chwerthin o weld y ffarmwr-bysedd-sosejus yn cystadlu yn erbyn un arall o’r gynulleidfa a oedd yn grefftwr o fri mewn gwirionedd. Mae lamp cyfres Rargian Fawr yn dal o gwmpas y tŷ’n rhywle. Ac mae gennyf gof cynharach o weld y dyn ei hun yn un o bantomeimiau Cymraeg enwog ddechrau’r 1980au, yng ngwesty Plas Maenan.
Cofio oedd thema nos Sadwrn diwethaf hefyd. Tra’r oedd ITV yn hel atgofion gyda 30 Years of an Audience With… roedd S4C wedi gwahodd cynulleidfa a crème de la crème y byd adloniant Cymraeg i Noson Cofio Gari yn Llandudno. Noson o nostalgia pur dan arweiniad John Ogwen a Tudur Owen, a ddechreuodd ei yrfa perfformio diolch i gronfa Gari Williams. Neu Emyr Pierce Williams, yn ôl ei dystysgrif eni. Yn ogystal â sgyrsiau gyda chyfoedion fel Glan Davies, Sue Roderick, Dafydd Iwan a Hogia’r Wyddfa, aeth y prifardd Myrddin ap Dafydd â ni am dro i lefydd pwysig ym mywyd Gari – o Dŷ Capel Brynrhydyrarian i Ysgol Watling a Mochdre. Datgelwyd sawl ffaith ddifyr, fel yr hanes amdano’n sgwennu sgetshis i neb llai na Llywydd y Cynulliad, a’i ymddangosiad yn nrama fawr y BBC, The Life and Times of David Lloyd George, ym 1981. Ac roeddwn i wedi anghofio’n llwyr mai fe oedd Dai Tecsas yn Superted, ac un o leisiau cyntaf Sianel Pedwar Cymru o’r herwydd. Roedd atgofion y gwesteion wedi’u clymu’n gelfydd â chlipiau o raglenni’r gorffennol, fel Mari Gwilym yng nghyfresi Galw Gari a Gaynor Morgan Rees yn Pobol y Cwm a Hafod Henri. Dwi’n dal i ddisgwyl yn ofer am ailddarllediad o’r gyfres gomedi honno yn slot Awr Aur, gyda llaw…
Elfen arall o’r rhaglen oedd doniau Dyffryn Conwy a’r glannau - Tara Bethan, Tomos Wyn ac Elgan Llŷr Thomas - yn cyflwyno fersiynau newydd o ganeuon pop, kitsh, Emyr ac Elwyn am gariad a phriodi a rhyddid y sipsi, a lwyddodd i werthu 10,000 o gopïau o record hir 1972. Swm anhygoel yn nhermau gwerthiant heddiw.
Roedd hi’n amhosib gwylio hon heb deimlo lwmp yn y gwddf, a hiraeth am raglenni S4C yn oes aur mân gwmnïau annibynnol y Gogledd. Cwmni’r Castell oedd yn gyfrifol am gyfresi Gari Williams, a fynta oedd un o’r rhai cyntaf i berfformio gerbron cynulleidfa stiwdios Barcud, Caernarfon. Teimlad o golled a chwithdod mewn mwy nag un ffordd, felly.