Aeth cyfres newydd arall â ni ymhellach yn ôl i Gymru Oes Fictoria. Mae Tudur Owen a Bethan Gwanas yn cael hwyl garw wrth geisio Byw yn ôl y Llyfr (nos Fercher), trwy ddilyn canllawiau ‘Llyfr Pawb at Bob Peth’ y Parchedig Thomas Thomas a gyhoeddwyd tua 1870 ar gyfer y dosbarth canol newydd a ffynnodd wedi’r Chwyldro Diwydiannol. Bwyd oedd thema’r wythnos hon, sy’n dwyn i gof cyfres ddifyr The Supersizers gyda’r gomedïwraig Sue Perkins a’r beirniad bwytai Giles Coren ar BBC2 y llynedd. Beth bynnag am hynny, dyma olwg tafod yn y boch ar chwaeth - a diffyg chwaeth - y Fictoriaid wrth y bwrdd bwyd. Roedd defnyddio’r actor Siôn Pritchard fel y Parch Thomas i adrodd rhai o’i gynghorion, yn ychwanegu at ysgafnder y cyfan. Gobeithio i’r nefoedd nad oeddech yn llowcio’ch swper wrth i Tudur gyfogi’i ffordd drwy’i bryd dau gwrs gan y cogydd Padrig Jones o Gaerdydd. Roedd Bethan, ar y llaw arall, yn fwy mentrus wrth flasu “danteithion” fel clustiau a throed mochyn mewn finag, ac yna pen oen mewn briwsion bara a grefi mwstard a sôs coch (oedd, mi roedd sos côch ar gael yn Oes Fictoria). Mwy o cordon bleurgh na dim arall, felly.
Gyda llaw, beth ddigwyddodd i’r hen lygoden fach ar ôl i Tudur baratoi a gadael pelenni bach o wenwyn blawd a ffosfforws iddi, “yn ôl y llyfr”?
Dudley 1870
Cael ein difetha'n rhacs
Mae’r gyfres epig hon yn dwyn i gof Llafur Cariad gan Gareth Miles ac Our Friends in the North, ffefryn personol hen hiraethyn fel fi. Yn y bennod gyntaf un, cawsom ein cyflwyno i ddau ffrind deng mlwydd oed a’u teuluoedd ym mhentref dychmygol Rhydycaeau, Sir Gâr. Mae Defi Lewis (Sam Lewis) yn fab i athro cenedlaetholgar y pentref, ac yn byw yng nghartref hynafol a mawreddog Pen Talar gyda’i fam a’i chwaer hŷn, pan nad yw’n gwneud drygau gyda Doug Green (Daniel Leyshon), mab i gyn-löwr a Llafurwr o’r hen deip. Mae’n fagwraeth ddelfrydol ar yr olwg gyntaf, gydag erwau o gefn gwlad o’u cwmpas i rasio mewn go-cart, chwarae sowldiwrs (neu Fyddin Rhyddid Cymru!), cnoi gwm a chael llymaid slei o shandi. Ond, wrth i’r bennod ddatblygu mae ’na gymylau duon ar y gorwel. A phan fod drama’n cynnwys golygfa o storm mewn coedwig, rydych chi’n gwybod yn iawn fod yna rhyw ddrwg i ddod - fel Singing Detective ac Un Nos Ola Leuad o’i blaen. Ac mae diniweidrwydd Doug a Defi yn cael ei chwalu am byth, o’r eiliad y gwelant Lorraine y Siop, merch eu breuddwydion, yn cael ei threisio gan y gweinidog lleol. Ac mae storm ehangach yn bygwth yr hen ffordd Gymreig o fyw, wrth i’r set deledu gyntaf lenwi aelwyd draddodiadol Pen Talar â’r diwylliant Eingl-Americanaidd. Ac er bod llawer o’r digwyddiadau cefndir - darlith radio enwog Saunders Lewis, hanes bomiau Tryweryn yn y papurau, a llofruddiaeth JFK ar y teledu yn teimlo fel ymarferiad ticio bocsys hanes y cyfnod - mae’n ffordd effeithiol o lywio’r plot ymlaen, a dangos ymateb y cymeriadau i’r daeargrynfeydd hanesyddol a chymdeithasol sy’n digwydd o’u cwmpas.
Roedd perfformiadau’r ddau ifanc yn argyhoeddi’n llwyr, ac yn arwydd o’r cyfeillgarwch sy’n para am yr hanner can mlynedd nesaf. A chydag actorion profiadol eraill fel Aneirin Hughes, Eiry Thomas a Dafydd Hywel yn eu cynnal, a’r sgript gan Siôn Eirian ac Ed Thomas, rydyn ni mewn dwylo ’tebol iawn. Bydd cenhedlaeth y 1960au wrth eu boddau gyda’r manylder arbennig i ffasiwn yr oes, ac mae’r golygfeydd sinematig yn cyfleu harddwch Dyffryn Tywi i’r dim. Ydyn, rydyn ni am gael ein difetha’n rhacs bob nos Sul.
Och! a gwae(d)
Ond howld on Now Jon. Tydi hwn ddim yn syniad hollol newydd, achos fe ddigwyddodd rhywbeth tebyg ym 1967 ar ôl i draphont simsan ddymchwel am ben y tai teras. Dim ond gobeithio y bydd yr effeithiau arbennig dipyn bach mwy sbesh y tro yma…
I barhau â’r thema drychinebus, penderfynodd Eastenders gael gwared ar rai o’i hen setiau trwy losgi’r Queen Vic i’r llawr yn ddiweddar – ac er gwaetha’r holl sïon fod ’rhen Peggy ‘Gerraourramaaaapuuuuuuuuub’ Mitchell yn cael ei hamlosgi, cerdded i ffwrdd o’r Sgwâr ar ei phen ei hun wnaeth hi’n diwedd wedi 16 mlynedd o wisgo wigs amheus, tollti peint, torcalon a chinawau teuluol trychinebus bob Dolig.
A beth am Pobol y Cwm? Mae’n hys-bys ers tro fod Cwmderi’n symud o iard gefn BBC Llandaf i stiwdios swanc newydd yn y Bae. Cyfle perffaith, efallai, i gael gwared ar yr hen setiau trwy gael un o awyrennau’r RAF i hedfan braidd yn rhy isel a disgyn mewn pelen dân am ben y siop, y caffi a’r Deri. Bechod fod Emmerdale wedi gwneud rywbeth tebyg eisoes…
Hiwmor gwlad
Y Superman Cymraeg
Roedd yna ddeuawd gomedi wych yn Barri Griffiths: Y Reslar wrth i Barri Bach gymell a gwthio Barri Mawr i’r eithaf yn y gampfa, mewn Wenglish Port. Mewn rhaglen ddogfen bry-ar-y-wal, gwelsom y cawr 21 stôn o Dremadog, a chyn-gladiator cyfres Sky 1, yn paratoi ar gyfer gyrfa lewyrchus gyda World Wrestling Entertainment yn Florida bell. Aethom am drip siopa bwyd sylweddol i’r archfarchnad, a’i weld yn sglaffio dau dun o diwna a phwdin reis (yn syth o’r tun, siwr iawn) fel tanwydd i’w gyhyrau, cyn troi am y gwely haul er mwyn porthi’i ddelwedd newydd fel “Mason Ryan”. Talodd deyrnged hyfryd i’w fentor, Orig Williams, drannoeth ei farwolaeth. Hei lwc iddo, a siawns am Gymro llwyddiannus ym myd y campau wedi ffars tîm Tosh ym Montenegro.
“Hiwmor” sy’n dod yn syth i’r cof wrth grybwyll enw’r awdur a’r cyn-bregethwr Harri Parri. Rwyf wrth fy modd gyda hynt a helynt y gweinidog Eilir Thomas a’i braidd lliwgar ym mhentref dychmygol Porth-yr-aur, ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at glywed detholiad ohonynt yn Straeon Harri Parri gyda John Ogwen nos Sul nesa. Mae’n cyd-fynd â chyfres o’r enw Pen Llŷn Harri Parri (bob nos Lun), lle mae’r dyn i hun yn ailddarganfod ei gynefin. Roedd ganddo stôr o straeon difyr am gysylltiadau morwrol yr ardal, gan gynnwys sut y cafodd Porth Tŷ Mawr ei hailfedyddio’n Borth Wisgi wedi llongddrylliad fawr ym 1901. Roedd y criw ffilmio’n amlwg wedi llwyddo i fachu ar haul prin yr haf, a gwaith camera Mike Harrison yn dangos y penrhyn ar ei orau gyda machlud haul godidog dros Enlli. Gwledd i’r llygad a’r glust yn wir.
Plesio'r beirniaid?
Mae’r beirniaid llenyddol wrthi fel fflamiau y dyddiau hyn. Diolch byth nad ydw i’n nofelwr. Bu Nia Roberts a thri gwestai’n cloriannu’r cynnyrch eisteddfodol ar Pethe Hwyrach dros y tair nos Fercher diwethaf - rhai’n fwy llwyddiannus na’i gilydd. Mae dewis y gwesteion cywir yn gwneud byd o wahaniaeth, fel y tystia’r ail raglen gyda Ian Rowlands, Paul Griffiths. Roedd hi’n bleser gweld yr arlunydd a’r darlithydd celf Osi Rhys Osmond yn mynd trwy’i bethau’n garlamus, ac yn cofio Olwen Rees yn un o’r golyfeydd noeth cyntaf ar deledu Cymraeg wrth drafod Merched Eira, cynhyrchiad clodwiw Bara Caws o ddrama Aled Jones Williams. Cafodd un o feirniaid llawdrwm Gwobr Goffa Daniel Owen flas o’i ffisig ei hun, wrth i’r adolygwyr roi barn ar ei nofel ddiweddaraf. Ond os oedd Gareth Miles yn swp sâl ar ôl hynny, gobeithio na chlywodd banel Y Silff Lyfrau wrthi. Oes, mae yna reswm arall dros wrando ar Radio Cymru y dyddiau hyn - a chlywch chi mohono’ i’n dweud hynny’n aml - gyda Vaughan Hughes yn llywio’r trafodaethau llenyddol bob nos Fawrth (gydag ailddarllediad bob nos Sul). Yn ddifyr a diflewyn ar dafod, mae’r panel o bedwar yn treulio tri chwarter awr yn canmol neu’n colbio’r llyfrau diweddaraf - rhai ohonynt heb gyhoeddi dim eu hunain wrth gwrs - ac mae’n boenus gwrando arnynt ar brydiau. Ond hei! gwta flwyddyn yn ôl roedd cynhadledd fawr yn Aber yn cwyno am ddiffyg beirniadaeth Gymraeg o sylwedd. Rhwng y ddwy gyfres uchod a slot rheolaidd ar raglenni fore Sul Dewi Llwyd, does dim pall ar yr adolygwyr Cymraeg proffesiynol bellach. Mae’n braf eu cael – ond nid i’r awdur druan efallai.
Dyheu am 'bach o ddrama
Stori Luka Bartholemew oedd I Don’t Care, llanc ifanc sy’n gofalu am ei fam sy’n gaeth i’w gwely (Di Botcher, Belonging a Little Britain gynt) mewn tref glan môr dlawd yn ne Cymru (am wn i), o’r enw Porthpunnet (yn hollol!). Ar ei ben-blwydd, mae Luka yn cael seibiant o’i ddyletswyddau tendio am y tro cyntaf ers oes pys, ac yn ceisio gwneud iawn am ei ieuenctid coll trwy wasgu popeth gwyllt a gwallgof i ddiwrnod cyfan. Mae’n cwrdd â chrwydryn mewn campyrfan sy’n ei arwain at gyfeiliorn alcoholaidd gyda mwg drwg, cusan nwydus a thatŵ. Ond wrth i chwarae troi’n chwerw, buan y sylweddola nad yw’r rhyddid y bu’n dyheu cymaint amdano yn fawr o beth wedi’r cwbl. Yn y diwedd, mae’n callio ac yn cael ei achub gan Phil y beicar blewog - fersiwn hŷn o’r Luka ddiniwed efallai - sy’n cynnig pas a dihangfa i Lundain fawr. Ac wrth i’r ddau wibio ar hyd y promenâd i fyd newydd a chyffrous y tu hwnt i lwydni Porthpunnet, daeth y cyfan i ben yn ddisymwth braidd, gan adael ei fam a ninnau â llwyth o gwestiynau ar ei ôl. Ac eithrio’r cefndir Cymreig simsan, yn gybolfa o acenion Cocnis a Swydd Efrog a’r gwaith ffilmio yn Canvey Island, Essex, roedd yn hanner awr digon difyr a’r golygfeydd ffilmig yn wych. Os cewch gyfle, mae ar wefan Channel 4 am fis arall.