Ysgafnhau'r baich

Adloniant pia hi’r wythnos hon. Dyn a ŵyr, rydyn ni gyd eisiau rhywbeth i godi gwên ddiwedd Ionawr anghynnes, gyda choch y Dolig yn ddyledus, gwasanaeth iechyd Cymru yn destun gêm wleidyddol barhaus a dienyddwyr IS (ISIS, ISAs? Sy’n f’atgoffa i drosglwyddo mwy i’r coffrau hwnnw cyn 1 Ebrill) yn brawychu’r byd. Croeso mawr felly i Caryl a’r Lleill, a hynny ar nos Sadwrn bach yn annisgwyl ddigon. Ydy, mae’r gyfres sgetshis smala yn ôl i dynnu blewyn o drwyn ni Gymry Cymraeg, ond mewn ffordd annwyl yn hytrach nag atgas Clarkson, Robinson, Gill a’u teips. Ac rydan ni’n nabod ein teips ein hunain, o’r seren rygbi a’i lond ceg o ystrydebau Wenglish sy’n hyrwyddo’i bersawr ei hun (“Obviously, pour homme”) i’r snoben mwng a thlysau Dynasty Cwm Tawe/Aman sy’n magu’i phlant yn Saesneg. Mae ffrind coleg o Rydaman yn mynnu bod Caryl a Siw Hughes wedi llwyddo i gyfleu ambell Pam a Veloria lleol i’r dim.  Mae’n siŵr bod sawl un o gyffiniau Langwm yn cochi at eu clustiau bod tro y daw Sioned Grug i’r fei, bellach yn doethinebu’r Pethe ar ddyddiadur fideo, gyda dwy ffrind hirddioddefus Esyllt Rhyd Rhychiog (Sue Roderick yn feistres gomedi wrth ystumio yn unig) a Gwenan Bonc (“tydi hi ddim wedi’i henwi ar ôl y ffarm”) o Landeilo. Mae Ffion “Gross” Carlton-Lewis a’i theulu o’r Fro wastad yn bleser, ond Oswyn ag Alwyn Dre yn fy ngadael i’n fud. Ychwanegwch ’rhen gwpwl egsentrig o’r Rhos ac adar brith sunny Rhyl (mwy ohonyn nhw plîs), ac mae Caryl megis fersiwn S4C o adran dafodieitheg Sain Ffagan. Mae’n gas gen i unrhyw fath o “miwsical nymbyrs” fel arfer, ond roedd sioe canu-a-dawnsio Only Menopause yn ddiweddglo gwych i’r rhifyn gyntaf. Sori, gwuuuuuuuuuch.


Nerfus braidd oedd yr ymateb i’r newydd fod S4C am gyflwyno cwis newydd i’r genedl. Pwy all anghofio ambell drychineb o’r gorffennol, fel Risg! (2004-2005) gyda Siân Lloyd Tywydd yn gaddo hyd at £20,000 o wobr yn y pot rhwng 50 o aelodau’r gynulleidfa. Y drwg oedd bod rhywun wastad yn gwneud smonach o’r gêm nes bod yr hanner cant yn mynd adref efo £1.53 y pen. O leiaf mae gan Nia Roberts fwy o bedigri cwisfeistres o’r Penwythnos Mawr (1993) i Gemau Heb Ffiniau (1991-1994) lle’r oedd cystadleuwyr lleol yn gwneud mabolgiamocs yn erbyn cyfoedion o Slofenia, bPrtiwgal, Gweriniaeth Tsiec, Hwngari, Gwlad Groeg a’r Eidal yng nghestyll Bodelwyddan a Chaerdydd. Ac fe’ch clywaf chi gyd yn hymian arwyddgan Jeux Sans Frontières rŵan hyn...

Yn gydweithrediad rhwng sianeli TV3 Iwerddon a STV yr Alban, mae Celwydd Noeth yn cynnig jacpot o £10,000 i bâr lwcus sy’n llwyddo i bigo celwydd o blith ffeithiau ar sgrin fawr. Iawn, mae’r gerddoriaeth yn atgoffa rhywun o’r gyfres Milionêr anenwog honno a’r cyfweliadau gefn llwyfan yn gopi o’r Weakest Link ond roedd y tensiwn bron yn annioddefol wrth i’r naill gystadleuydd amau’r llall a Nia yn gweiddi “cloi’r celwydd” a “hanner munud” i dic docian y cloc. Anwybyddwch y peiriant clapio, mi fydd ’na hen gyffro a gweiddi atebion ar aelwydydd Cymru dros y nosweithiau Iau nesaf. Neu"bwrlwm", chwadal Sioned Gruuuuuuuuuug.




Haf ganol gaeaf




Mae trefnwyr amserlenni teledu wedi deall hi i’r dim. Gyda’r Bod Mawr yn pledu trowyntoedd, cesair peli golff ac eira taranau arnon ni feidrolion y ddaear gythryblus hon yn ddiweddar, dyma’r adeg berffaith i ddianc i ddramâu sy’n fôr o oleuni. Gydag ail gyfres siomedig sy’n datblygu i sterics sebon, llys barn amheus, sainladrad o The Killing ac ail blot diddrwg didda efo Eve Myles, yr unig achubiaeth i Broadchurch i mi ydi traethau a chlogwyni ysblennydd Dorset. Mae cyfres ddrama newydd nos Fercher hefyd yn wledd i’r llygaid, megis hysbys sgleiniog Croeso Cymru. Sut gythraul gafodd criw Lan a Lawr gymaint o haul wrth ffilmio?

Wedi pennod agoriadol awr o hyd, rydym bellach yn ôl i hanner awr wrth ddilyn hynt a helyntion Delia o Abertawe (Beth Robert) sy’n llwyddo i bechu pawb ar ôl cyflwyno’i merch 17 oed i’w thad Mal (Dewi Pws) am y tro cyntaf adeg gwibdaith o’r Gŵyr i Eryri. Mae yna lot o olygfeydd godidog o’r henwlad ’ma. Lot lot fawr. Olreit, gormodedd. Achos mae’r holl luniau llanw, y siots panoramig o’r môr a’r mynyddoedd cyn torri i siots sefydlu swbwrbia a ’Sbyty Gwynedd yn ailadroddus ac yn arafu llif y stori. Mae yna gyfuniad da o wynebau hen a newydd, heblaw’r penderfyniad od ar y naw i gastio actores ifanc o Gaerdydd fel Elen, sy’n swnio’n hollol wahanol i’w brawd sy’n Lanbêr rhonc. Efallai fod ganddi hi dad diarth o’r De hefyd. Dyn a ŵyr.

Trueni, achos mae’n tynnu oddi ar berfformiadau hyfryd y fam a’r ferch (Beth Robert ac Anni Dafydd), a’r ysgafnder rhwng mam a mab (Heulwen Haf a Dewi Rhys Williams) a’r brawd a chwaer (Llion Williams a Gwenno Hodgkins mewn aduniad C’mon Midffild). Ac mae deialog naturiol Gareth F Williams yn llifo fel mêl wedi’r holl gyfieithu a fu mewn dramâu blaenorol. Wn i ddim sawl cyfres gawn ni gyda’r prif gymeriad yn dioddef o diwmor yr ymennydd, ond mewn cyfweliad radio diweddar â Caryl, awgrymodd Beth Robert yn gryf bod ’na ragor i ddod. Gyda llai o siots llanw gobeithio.

Gwaith Cartref ydi un o’r enghreifftiau prin hynny o ddrama gredadwy wedi’i gosod yn y De-ddwyrain (cofio Glan Hafren?) lle pawb yn siarad Cymraeg yn rhwydd braf â’i gilydd, yn Gog, Hwntw, dysgwr a dwli Wyn Rowlands. Ac mae mor Gymreig hefyd, gyda’r bardd-odinebwr Geraint Penlan (John Pierce Jones) yn diawlio dedleins cylchgrawn Barn a chael ei ‘urddo’ yn y garafán gan fam ei blentyn yn Steddfod Meifod 2003. Ond atgoffwch fi i ddiffodd y teli cyn i’r credits cloi ddifetha syrpreis a hanner am Lolita feichiog Bro Taf...

Broadchurch, ITV, 9 o’r gloch nos Lun
Lan a Lawr, 8 o’r gloch nos Fercher
Gwaith Cartref, 9 o’r gloch nos Sul

O'r maes rygbi i faes y gad


 
Mae’r bocs recordio acw’n dal yn drymlwythog o bethau Dolig a’r Calan. Wedi dweud mai cyfresi cerddoriaeth oedd popeth ar S4C dros y gwyliau, dyma sylwi bod y ffeithiol yn ail agos iawn. Roedd Dolig Gwyn Dolwyddelan yn gronicl difyr o ailddarganfod hen ffilm o Nadolig 1961, pan ddaeth Americanwr draw i’r pentref yn Nyffryn Lledr i dynnu lluniau a chreu ffilm ciné montage i gyfeiliant A Child’s Christmas in Wales Dillon Thomas. Awran hudolus a deimlai, serch hynny, yn fwy o gyfrwng i yrfa’r cyw gyflwynydd Aled Llywelyn ar draul rhagor o hanes y pentrefwyr. Disgwyliais yn ofer am gael gweld y ffilm ei hun yn ei chyfanrwydd wedyn.

Bues i’n hwyr (iawn) yn dal i fyny efo’r portread arbennig o lais rygbi Cymru am ddeugain mlynedd, Huw Llywelyn Davies: Tu ôl i’r meic. Mae portreadau o enwogion weithiau fel cofiannau Cymraeg – lot o hel achau diflas am hen Wncwl Walter ac enwi enwogion heb fawr o sylwedd neis-neis - ond roedd y clod a’r bri a’r geiriau “emosiynol” “gwych” a “choron ar deledu’r ŵyl” gan y twitteratis yn awgrymu bod hon yn rhywbeth go arbennig. Cafwyd coflaid o atgofion melys gyda Huw Eic hyd yn oed yn sylwebu’n blentyn wrth chwarae rygbi gyda Gareth Edwards (ie, Y Gareth Edwards) a’i frawd Gethin ar sgwâr Colbren, Gwauncaegurwen, a’r tynnu coes pan lwyddodd y mewnwr medrus i ddwyn lle GE yn nhîm Cwmgors. Y syfrdandod wedyn wrth iddo siarad o’r galon am ei byliau o iselder, a’r salwch meddwl a arweiniodd at hunanladdiad ei chwaer Beth ac yntau bendraw’r byd yn rhan o dîm sylwebu Seland Newydd ’87. A’r Cymro twymgalon, “dyn y campau a’r pethe” medd y Prifardd Ceri Wyn, a wrthododd bresant MBE gan y Frenhines, ac na aeth i Gwpan Rygbi’r Byd Awstralia 2003 oherwydd gofynion Dechrau Canu Dechrau Canmol nôl adre. Pinacl teledu’r ŵyl heb os.
 
 

Mae’r gyfres Gohebwyr yn ffefryn mawr gen i, gydag ymchwiliadau i ddirgelion y gorffennol yn cosi’r chwilfrydedd. Fel un sy’n mopio ar hanes y Llen Haearn, roedd taith John Stevenson i Bwcarest i ddarganfod Pwy Laddodd Ian Parry? o Brestatyn megis sgript ias a chyffro, a ategwyd gydag ail-gread o’r ddamwain awyren angheuol a laddodd ffotograffydd disglair 24 oed y Sunday Times. Doeddwn i ddim mor frwd tuag at Gohebwyr: Owen Davis yn wreiddiol am mai milwr Prydeinig cyffredin nid gohebydd yn ôl traed Wyre Davis a Guto Harri oedd y cyflwynydd. Os ‘cyffredin’ hefyd, gan fod Owen Davis o Gwmtawe yn gyn-aelod o’r Marines a gafodd fedal ddewrder gan y frenhines. Ond cynyddodd fy niddordeb o ddeall bod mwy ym mhen hwn fel Cymro Cymraeg, ac iddo ddysgu’r ieithoedd cynhenid Pashto a Dari wrth gydweithio a chydfyw gyda heddlu Afghan. Dychwelyd fel ymwelydd ydoedd, i Kabul wedi’i chreithio gan olion y goresgynwyr Prydeinig, Sofietaidd ac Americanaidd yn ogystal â’r Taliban, a cheffylau a throliau ochr yn ochr â’r BMWs diweddaraf ar y strydoedd llychlyd.

Gormod o bwdin Broadchurch?




O na. Ail bennod o ail gyfres, ac mae ‘nghalon i’n suddo fel plwm. Wedi heip a hys-bys sylweddol, wynebau hen a newydd (Marianne Jean-Baptiste o ffilmiau Mike Leigh a Hollywood! Charlotte Rampling yr actores Eingl-Ffrengig! Eve Myles o, ym, Torchwood a Phontardawe!) a dirgelwch MI5-aidd ynglŷn â sut gythraul wnawn nhw ddilyn achos arestio gŵr diddrwg di-dda (Matthew Gravelle Ni) y ditectif am lofruddio bachgen dengmlwydd oed ar arfordir Dorset debycach i Fôr y Canoldir. Doedd dim rhagflas i’r wasg a’r cyfryngau - dim hyd yn oed i Golwg dlawd - cyn darlledu’r bennod gynta lwyddiannus (7.6 miliwn), a gorfu i’r sêr lofnodi cytundeb cyfrinachedd neu wynebu'r gosb eitha o ymddangos yn Birds of a Feather. Gorfu i Matthew Gravelle druan hyd yn oed fyw fel meudwy mewn gwesty ar wahân i’r actorion eraill, rhag difetha’r syrpreis am ddychweliad Jo Miller.

Ac wele’r ail bennod siomedig, a ddenodd 1.6 miliwn yn llai o selogion. Mam bach. Lle’r oedd y gyfres gynta’ (10 miliwn o wylwyr) yn gampwaith o gynildeb a datgelu pethau dow-dow, roedd hon yn llawn sterics opera sebon. Does ryfedd fod Grace Dent yn ei chymharu ag Eastenders. A does gen i ddim taten o fynedd na diddordeb yn yr ail blot gyda'r newydd-ddyfodiaid Eve Myles a James D’arcy, sy’n olrhain llofruddiaeth arall mewn rhan arall o’r wlad fu bron â dinistrio gyrfa, iechyd a hygrededd DI Alec Hardy (David Tennant sydd dan lach y Daily Mailers, c’radur, am ei acen annealladwy) cyn iddo gyrraedd pentref Broadchurch yng nghyfres 1. A sori, ond dim ond hyn a hyn o wep ddagreuol y “nashiynyl treshyr” Olivia Colman alla i oddef...

Ydw i’n hen sinig sy’n swnian? Yn bod yn rhy fyrbwyll? Wedi’r cwbl, ma ’na saith pennod arall ar ôl. Roi gynnig ar y drydedd wythnos nesa. Ac ma’r clogwyni a’r traeth godidog na’n apelio’n fawr ar nosweithiau Llun tamp a thywyll.


Cerddoriaeth iasol Ólafur Arnalds o Wlad yr Ia. I'w fwynhau'n llawn heb ymyrraeth troslais dynas ITV!