Holl amrantau'r sêr


Y syniadau symlaf ydi’r rhai gorau meddan nhw. Dwy gadair, holwr a gwestai cywir, falle potel o win neu ddanteithion (“bisgedi Berffro blas cibabs”). A chan ein bod ni yng nghanol yr C19 fawr, dim stiwdio na chynulleidfa glapiog. Yn hytrach, gardd neu batio (go sylw€ddol mewn rhai acho$ion) y gwestai dan sylw, llond silff ikea o ganhwyllau yma a thraw, tân gwersyll, a gweddïo am noson sych. Garantîd nôl ym mis Ebrill crasboeth, llai sicr ym Mehefin soeglyd. Ac wedi iddi dywyllu, mae’r byd mawr tu allan ynghwsg ac yn caniatáu i’r ddau sgwrsio’n dow dow braf heb na sŵn traffig na thrybestod last orders y pyb agosa.

Dyna gawson ni efo Sgwrs dan y lloer, comisiwn eiliad ola Tinopolis i S4C yn slot nos Lun Pobol y Cwm wedi i fywyd ddod i stop yng Nghwmderi. Yr holwraig ydi’r gantores a’r gyflwynwraig hawddgar Elin Fflur. Tasa hi’n Saesnes, byddai wedi hen ennill teitl nashiynyl treshyr a’i hwrjio mewn ffrog bling Jac yr Undeb ar gyfar seremonïau wobrwyo ITV a chanu molawd wellmeetagain i soldiwrs hen a slacwyr y teulu brenhinol. Fel mae’n digwydd, mae rhyw Gath Jenkins o Gastell-nedd eisoes wedi primarkeiddio ei hun i’r rôl honno.

Diolch i dduw, felly, mai Cymraes go iawn ydi hogan yr Harbwr Diogel. Roeddwn i braidd yn amheus i ddechrau, gyda’r gyntaf yng ngardd arfordirol (nid cwt tatws) Daloni Ffermio Metcalfe. Cyflwynydd yn holi cyflwynydd? Hmm. Ond dw i, ac aelodau eraill o’r teulu, wedi’n swyno am hanner awr bob nos Lun. Roedd rhai’n agoriad llygad.  Tudur Owen bron dan deimlad wrth ddifaru na chafodd ei fam fyth ei weld yn ennill ei blwyf fel diddanwr proffesiynol, a’r emosiwn o gael ei urddo i’r wisg las yn Eisteddfod Sir Conwy Llanrwst y llynedd.

A dyma’r peth yn fy nharo i. ’Da ni heb gael sioe siarad go iawn ar S4C ers amser maith. Tydi soffa Heno na Prynhawn Da ddim yn cyfri. Yno i hyrwyddo rhyw nofel, sioe gerdd Lundeinig, cân gorona neu gyfres deledu maen nhw'n bennaf.



Mae gen i gof plentyn/arddegol o weld tomen ohonyn nhw yn yr wythdegau, o Hywel Gwynfryn (BBC) i Vaughan Hughes (â’r teitl gwych O Vaughan i Fynwy, 1987-1991), Elinor Jones yn y ddwy iaith, Nia Roberts wedyn yn y nawdegau, efallai’n cyd-fynd ag oes aur Croes Cwrlwys a HTV. Gobeithio’n wir fod hyn yn arwydd o aileni’r hen genre cyfarwydd yn y Gymraeg. Sdim angen bysio aelodau o Ferched y Wawr Cwm-sgwt i ryw hongliad o stiwdio na chael eitem gerddorol yn y canol. Cadwch bethe’n syml. Trefnwch westai difyr, a holwr(aig) sy’n barod i ista’n ôl a gwrando. Rhywun fel, ie, Elin Fflur.



Efallai fod y deheuwyr yn teimlo allan ohoni braidd gan nad oes Un Ohonyn Nhw wedi ymddangos hyd yma. Allan nhw ddim defnyddio’r rheol bum milltir fel esgus, achos mae Elin a’i chriw cynhyrchu wedi teithio i bellafoedd Dyffryn Clwyd i holi Nic Parri a Robat Arwyn. Efallai’n wir y gwnawn nhw fentro i’r de o'r Ddyfi, wrth i Drakeford lacio pethau’n raddol ofalus. Waeth beth ddywed y Toris hurt bost a'u #CruelRule. 

Ond plîs, ddim gwleidydd am y tro. ’Da ni di clywed hen ddigon ganddyn nhw dros y can niwrnod diwethaf.

Fel y soniais eisoes, mae'r gyfres hon yn rhan o becyn o gomisiynau eiliad ola i lenwi gwagle gwyliau, sioeau a chwaraeon yr haf ar S4C. Dw i'n siwr fod rhaglenni dogfen nos Sul, Drych, am drefnwyr angladdau a darpar rieni yn ystod y cyfnod govidus hwn yn werth chweil, ond ddim i fi sori. Do, fe fwynheais i ddrama untro Cyswllt (Mewn Covid) rhaglen bry ar y wal Ken Hughes yn cadw ni fynd fis neu ddau yn ôl. Ond na. Bellach, dw i'n dueddol o osgoi popeth pandemig fel, ym, y pla.

Ddy Ffab Ffôr 

Na, dihangfa dwi isio bellach. Ddim adlewyrchiad o'r byd dan glo wrth roi traed i fyny o flaen y bocs. Dw i eisiau gwylio llond pafiliwn o bobl yn g'lana chwerthin ar jôcs Ifan Jones Evans (hyd yn oed os dw i ddim). Dw i eisiau dogn o hiraeth o weld cymeriadau sebon yn cwtsio a chwffio, fel rhifyn diweddar Cassie yng nghwmni Sue Roderick (pa mor dda oedd pennod Dolig 2018 efo Cassie a Jean yn Tenerife, gyda llaw). A dw i eisiau chwarae ditectif efo’r Ffrancwyr, Belgiaid a’r Pwyliaid. 

Ac oes, dwi isio mwy o sgwrsio diddan dan y lloer.


Dewch at eich coed


Tydi coedwigoedd heb gael fawr o chwara teg gan awduron ffuglen ’rioed. Beiwch yr hugan fach goch efallai. Achos mae bron pob nofel neu gyfres codi ias sydd wedi ’nghadw’n ddiddig dros y misoedd diwethaf wedi’u gosod yno, o fforestydd maith ardal Ardennes Gwlad Belg yn The Break (Netflix) i Dublin Murders RTÉ/BBC a’r gyfres olaf o The Sinner (Netflix) efo’r orwych Bill Pullman.

Dw i ar fin gorffen The Woods, addasiad o nofel ddirgel Harlan Coben wedi’i thrawsblannu o dalaith New Jersey i Wlad Pwyl heddiw fel W głębi lasu’. Hwyrach er mwyn bodloni cwota cyfresi Ewropeaidd Netflix mewn iaith heblaw’r Saesneg.


Cyfres sy’n olrhain Paweł Kopiński, twrna a thad sengl o Warszawa sy’n dal wedi’i greithio gan ddiflaniad ei chwaer Kamila yn ystod gwersyll haf chwarter canrif ynghynt a dim son am gorff. Mewn coedwig wrth gwrs. Ond pan fo corff dyn ifanc oedd yn digwydd bod gyda’i chwaer ar y pryd, yn glanio ar fwrdd marwdy lleol yn y presennol, mae Paweł yn gorfod ymgiprys â’r posibilrwydd fod Kamila yn fyw wedi’r cwbl. Mae’r gyfres yn pendilio’n ôl a mlaen rhwng '94 a 2019, rhwng hen gariadon a gelynion, a rhwng achos proffesiynol o erlyn llanc ifanc a gyhuddwyd o dreisio merch mewn parti – llanc sy’n digwydd bod yn fab i newyddiadurwr dylanwadol â fendeta personol yn erbyn Paweł.

On'd oedden nhw'n ddyddie da?

Er bod yr holl fynd a dod rhwng y gorffennol a’r presennol braidd yn ddryslyd ar brydiau, a braidd yn ansicr i lle mae’r holl isblotiau’n mynd â ni, mae perfformiadau gafaelgar yr hen a’r ifanc a’r elfen gref o ddirgelwch “Lle’r aeth Kamila?” yn gadael blas mwy. Ac mae'n cyffwrdd â phynciau mawr ein dydd, o ryw cydsynio, trais domestig i agweddau gwrth-Iddewig. Rhowch gynnig arni. A dw i wastad wrth fy modd yn gweld llefydd a chlywed ieithoedd llai cyfarwydd ein cyfandir mawr ni ar y sgrin fach.

A chyfraniad Cymru i’r genre? Mae’n siŵr mai cyfres gynta’ Craith ydi’r amlycaf, lle’r oedd Gillian Elisa a Rhodri Meilir yn actio'r fam a’r mab erchyll fel hen fleiddiaid cas y caban pren yng nghrombil duaf Eryri.

Rapsgaliwn ar y clwt 


35 Jours


Ydych chi wedi trefnu’ch gwyliau haf eto? Dwi ddim yn eich beio chi wedi bron i bedwar mis cyfyngedig i’ch pedair wal a balconi neu gardd hancas boced, ac ambell drip hanfodol i’r Co-op.

Ac wedi’r pwl o dywydd poeth diweddar (pwl dau ddiwrnod, cofiwch), roedd hiraeth uffernol am neidio i’r môr nefolaidd braidd i gwlio lawr ar ôl crwydro arfordir Sir Benfro, o Dre-fin i Dyddewi adeg fy mhen-blwydd ddwy flynedd nôl. 16 Gorffennaf, gyda llaw, os da chi awydd anfon cerdyn. Ond gyda thraethau Aberogwr a Bournemouth yn denu’r lluoedd (chavllyd), mae gen i awgrym gwell - Riviera Ffrainc, neu’n fwy penodol, ardal hyfryd Cassis gyda’i thraethau cyn wynned â’r clogwyni calchfaen sy’n cosi Môr y Canoldir.

Dipyn brafiach nag Aberogwr 

Pam Cassis yn benodol felly? Am mai dyna ydi lleoliad caffaeliad diweddaraf yr ardderchog Walter Presents, A Deadly Union (Noces Rouges, Priodas goch/waedlyd, yn yr iaith wreiddiol). Ynddi, mae Alice (Alexia Barlier fodelaidd o dal) y chwaer afradlon (am ryw reswm teuluol a ddaw i'r amlwg eto) yn dychwelyd adre'n annisgwyl o Awstralia i briodas ei chwaer fach Sandra – dim ond i ffeindio’r briodferch yn gelain ar ôl disgyn o falconi bwyty swanc eu rhieni. Meddyliwch am yr holl fwyd aeth yn wastraff... Ta waeth, un o’r gwesteion ydi’r ffrind teuluol a’r ditectif Vincent Tambarini (Lannick Gautry, gendarme Dirgelwch y Llyn, ewrogyfres S4C a welais dro’n ôl ar Channel 4) sy’n wfftio’r syniad o hunanladdiad ar unwaith. Ac wrth gwrs, mae ’na hen hanes rhyngddo fo ag Alice wrth i’r ddau geisio canfod y gwir a chodi hen grachod teuluol.


Meddyliwch am 35 Diwrnod gyda chast Givenchy-aidd a lleoliadau ganwaith brafiach. Nid bod y deialogi cweit mor gynnil ag un Fflur Dafydd chwaith, wrth i’r awdur frysio braidd i esbonio pwy di pwy, be di ben:

 

Y Tad (wrth ei gyn-wraig, yn ystumio i’r camera tu allan i’r eglwys gyda’r cwpl hapus): O leia ’nathon ni un peth yn iawn.

Y Fam: Hwnna a’r difors.

(Gweld tacsi'n cyrraedd y llan)

Y Tad: Sbîa! Ein hail ferch ni!

Y Fodryb: A’r ddwy chwaer nol gyda’i gilydd unwaith eto ar ol degawd. C’est formidable!

 

Falle bod gan y Ffrancwyr lai o fynedd na ni wylwyr Cymraeg. Ond wir, mae’n werth neilltuo amser i’r gyfres o chwech, ar sail y ddwy bennod gyntaf a welais hyd yma. Ac mae’r golygfeydd yn falm i enaid caethiwus y Clo Mawr.

Ydi easyjet yn mynd i Marseille?

 

 

 

 


Canada am byth!



Waeth i mi gyfaddef ddim. Dw i fyny ag i lawr wythnos yma. Fel y boi un diwrnod, blinder affwysol diwrnod wedyn. Es i ’ngwely am hann’di naw neithiwr. Swn i’n gallu cysgu am ddiwrnod cyfa heddiw. Dyna ni. Dim ond deud. Dw i ddim isio degau o ‘hoffis’ na chwtsis rhithiol gan y cyfryngis cymdeithasol. Felly mae hi. Nid fi ydi’r cyntaf na’r olaf i gwyno.

Efallai 'mod i angen mwy o hwyl a hiwmor yn fy mywyd. Ond y gwir amdani yw hyn - mae’n well gen i nofelau a chyfresi teledu tywyll. Dw i ddim yn helpu’n hun nacdw? 

Y diweddaraf ydi cyfres dditectif o bellafoedd oer gogledd Ontario bob nos Fercher ar BBC Two, ond sy’n teimlo fwy fel nos Sadwrn BBC Four. ’Sdim rhyfedd fod amserlen pawb ar chwâl y dyddiau hyn. Croeso anferthol nôl i Cardinal felly, am y pedwerydd tro a’r olaf un yn ôl y son. Hen dro, achos mae hon gystal os nad gwell nag unrhyw beth o'r parthau Llychlynaidd dros y blynyddoedd diwethaf. Ac ydi, mae’r hen John Cardinal (fersiwn Canada o’n DCI Tom Mathias ni, os leiciwch chi) lawn mor brudd a blinedig ag erioed, a bellach yn weddw ar ôl i’w wraig gael ei lladd yn y gyfres ddiwethaf. Does ryfedd fod Toronto 240 milltir i’r de yn apelio gymaint i’w fyfyrwraig o ferch, ac i’w bartner ffyddlon Lise Delorme (yr actores québécoise, Karine Vanasse) sydd ar fin trosglwyddo i heddlu’r ddinas. Ac mae Algonquin Bay ganol gaeaf noethlwm (North Bay go iawn, poblogaeth 52,000, cyn ganolfan filwrol a rhan o warchodfa brodorion y Nipissing First Nation sy’n siarad iaith Algonquin neu Anicinàbemowin), gyda’i stryd fawr slwtslyd yn arwain at wastadeddau gwynion a choedwigoedd maith wedi’u chwipio gan wynt -40 gradd, yn lleoliad perffaith ar gyfer y genre.


Ac mae perthynas y ddau brif gopyn, Lise a Cardinal, wedi newid ac esblygu’n sylweddol ers y gyfres gyntaf pan gafodd hithau ei phlannu yn swyddfa Algonquin Bay PD er mwyn ymchwilio’n gudd i arferion plismona John Cardinal. Yn ara’ deg, daeth y naill i nabod ac ymddiried yn y llall yn well, a dod yn ffrindiau triw tra’n cadw pellter cymdeithasol o rwystredig i’r rhai ohonom sy’n ysu am weld mwy yn datblygu rhyngddynt. Ie, cliché rhif 256 y ddeuawd-ditectifs. Ond tydi hynny byth yn lladd y pleser o wylio’r perfformiadau cynnil mewn cyfres sy’n mynd dow-dow (rhy araf i rai) heb ofni gadael i seibiau ddweud llawer mwy na’r deialog. A diawcs, dw i wir yn malio am y ddau yn eu hunigrwydd.

Sail y gyfres deledu

Yn y gyfres olaf un (sob!), mae dyn yn cipio pobl gyda gwn tazer cyn eu clymu a’u gadael i rewi i farwolaeth mewn llecyn anghysbell, ac anfon neges fideo olaf i’w hanwyliaid – Aelod Seneddol a pherchennog canolfan arddio, a arferai fod yn gyd-ddisgyblion ysgol flynyddoedd maith yn ôl. Mae’n ras yn erbyn y cloc, gyda byd natur yn gymaint o fygythiad â’r herwgipiwr.

Rhwng awyrgylch tawel a'r myrdd o gymeriadau digyswllt, ofni be-ddaw-nesa, yr awyrluniau maith a cherddoriaeth atmosfferig “Familiar” gan Agnes Obel o Ddenmarc (siŵr iawn), dw i ar ben fy nigon.

Croeso’n ôl Cardinal.



Mewn glân briodas?


Roedd gynnon ni briodas deuluol i fod ddechrau Ebrill. Ond fel pob sbloets cyhoeddus arall, gohirio tan yr hydref fu raid gan nerfus-gymryd y bydd pethau’n ôl i drefn erbyn hynny. Doedd hyd yn oed Trystan ag Emma ddim yn gallu cynnig cawod o gonffeti achubol y tro hwn. Efallai fod y gyfres codi calonnau wedi dod i ben ar nos Sul, ond mae chwip o un arall wedi dechrau. Un sydd fymryn yn nes ati, gyda pherthnasau pwdlyd yn dod ynghyd i ddymuno’r gorau i’r cwpl ifanc. Priodas lle mae tensiwn yn ffrwtian dan y fascinators, y bwffe’n rhy sbeislyd i’r to hŷn, a mab afradlon y teulu’n cyrraedd â boliad o Stella ac yn gadael gyda llygaid du. Neu gorff yn y môr, yn achos 35 Diwrnod.


Iawn, efallai fod pumed - ia, PUMED - cyfres y fformat hynod lwyddiannus hwn (heblaw’r ail symol mewn swyddfa ’siwrans yng Nghaerdydd) braidd yn eithafol, ond bu cryn edrych ymlaen ati ers sbel. Mae’r brand ‘35’ wedi talu ar ei ganfed i S4C gan sicrhau gwobrau BAFTA Cymru i gwmni cynhyrchu Boom a gwerthiant i Seland Newydd a’r Unol Daleithiau. Cafwyd addasiad llai llwyddiannus 15 Days i Channel 5 Prydain y llynedd hefyd, yn seiliedig ar etifeddion fferm cecrus y drydedd gyfres Gymraeg. Ond y gyntaf wedi’i gosod ar stad barchus, fyglyd, Crud yr Awel nôl yn 2014 oedd yr orau gen i o bell ffordd, ac mae'r ddeuawd Val a Taz (Gillian Elisa ac Iestyn Arwel) yn saga’r rheithgor y llynedd yn dal i aros yn y cof hefyd.

Fel yr esbonia’r awdures Fflur Dafydd:

Mae’r stori yn agor gyda chriw o ferched (ac un bachgen) mewn fitting ffrog briodas, 35 diwrnod cyn y briodas. Y syniad craidd yw eu bod nhw wedi nabod ei gilydd ers yn ifanc ond mae ’na densiynau yn eu perthynas nhw yn dilyn rhywbeth digwyddodd rhyw bum mlynedd yn ôl.

Mae pennod gyntaf unrhyw gyfres ddrama newydd yn dipyn o her. Yn ogystal â’n diddanu, rhaid iddi hefyd ennyn diddordeb a chwilfrydedd. Mae angen cyflwyno myrdd o gymeriadau rydyn ni’n barod i falio amdanynt a buddsoddi’n hamser iddynt dros yr wythnosau nesaf. Mae fflachiau o hiwmor yn hollbwysig. Os oes gormod o ddüwch, waeth inni roi’r gorau iddi ac ymdrybaeddu yn Eastenders ddim.

Dylan (Geraint Todd) a Beth (Gwenllian Higginson) - y cwpl hapus?

O dipyn i beth, dechreuodd darnau jig-sos y bennod gyntaf ddisgyn i’w lle. Daethom i wybod pwy sy’n perthyn neu’n arfer canlyn ei gilydd, pwy sy’n celu rhywbeth rhag eu hanwyliaid, a bod rhyw ddigwyddiad yn clymu pawb. Dw i eisoes yn amau/gobeithio nad Dylan, y pensaer o briodfab â’r cartref clinigol o wyn sy’n euog - petai dim ond er lles yr actor Geraint Todd iddo beidio cael ei deipcastio, ar ôl gadael Cwmderi fel llofrudd. A ’sdim sicrwydd mai Bethan y briodferch (Gwenllïan Higgingson) sy’n gelain ymysg y gwymon chwaith, gan fod ei morwynion mewn lifrai gwynion tebyg.

Fflur Medi fel Ffion sy'n dychwelyd o Lundain â llond trol o drwbwl

Angharad - mam y flwyddyn? 

Ydi Dyl (Sion Ifan) y ffotograffydd yn dryst?

"...tra byddwn ni'n dau byw"

Mor braf ydi gweld llu o wynebau newydd law yn llaw â’r hen bennau fel Delyth Wyn, Catrin Fychan a Richard Elfyn. Mae Delyth Wyn yn serennu fel Alwen, mam sengl sy’n ei dweud hi fel y mae, ac yn ddoethach na mae rhai’n ei feddwl serch niwed i’w  hymennydd yn dilyn damwain. Rhieni’r darpar briodferch wedyn, Clive a Nesta (Elfyn a Fychan), â chlamp o sgerbwd yn y cwpwrdd. Roedd Fflur Medi yn ffefryn cynnar fel Rhian “y Gog o’dd yn cario babycham yn ei bag ysgol” sy’n llwyddo i bechu sawl un, a chelu poenau prifio’r gorffennol. Dyn a ŵyr beth ydi cysylltiad perchennog y B&B methiannus, Lynwen (Shelley Rees) a’i merch gegog Charlie (Hana Evans) â hyn oll, ac roedd rhywun weithiau’n teimlo bod gormod o gymeriadau ac isblotiau i’w traflyncu mewn awran arferol. Ond go brin fod awdur mor brofiadol Fflur Dafydd am wastraffu’i hamser ar unigolion dibwys, ac y bydd yn llwyddo i blethu pawb a phopeth erbyn y bennod olaf.

Mae’r gwaith camera unwaith eto’n gelfydd, yn llwyddo i ddal pob ystum a chreu awyrgylch anghysurus. Ac mae’r gyfres hon yn well o ran y lleoliadau niferus hefyd - o gartref gothig teulu Gwenllïan i hongliad gwyn modern Dylan, aelwyd deuluol Rhian wedi rhewi mewn amser er damwain drasig ei rhieni, swbwrbia lawn mor bland â Bill druan (Rhodri Meilir), arcêds afler Owen y brawd afradlon (Alex Harries) i’r tŷ gwyliau ar yr arfordir - llawer ohonynt wedi’u ffilmio gefn liw nos gaeafol i ychwanegu at y naws noiraidd. Dw i’n amau Barri a’r cylch. Cymharer hynny ag undonedd y tribiwnlys 35 Awr y llynedd.

Os oes beirniadaeth, yna’r defnydd diog o eiriau Saesneg sy’n britho’r ddeialog ambell dro. ‘Motsh am y rhegi, yr iaith fain sy’n poeni dyn. Wel, fi o leia, gan ategu cwynion ambell un arall diweddar fel Cynog Dafis am safon iaith sathredig rhai o ddramâu’r Sianel yn ddiweddar. Adlewyrchu realiti iaith gyfoes y stryd ydi’r amddiffyniad bob tro, ond siawns mai camp pob awdur Cymraeg ydi sgwennu’n glir a  chywrain heb faglu’n ormodol i gors y Wenglish. Roedd Y Gwyll yn fwy euog o siarad Saesneg yn Gymraeg, Craith i raddau helaeth ac Un Bore Mercher wedyn – oll wedi’u sgwennu’n Saesneg yn gyntaf, a’u trosi’n chwithig i Welsh wedyn er gwaethaf ymdrechion awduron proffesiynol fel Caryl Lewis. Sgriptiau a brofodd fod cyfieithu yn dipyn o gamp a chrefft. O leiaf Cymraeg ydi iaith wreiddiol sgriptiau brand 35 i gyd, o stabl Siwan Jones a Wil Garn i Fflur Dafydd.

Ers sawl blwyddyn bellach, mae rhywun weithiau’n cael yr argraff mai polisi comisiynydd Parc Tŷ Glas/yr Egin ydi dramâu bei-ling bob gafael. Ac mae rhywun yn hiraethu am ddeialogi coeth y diweddar grefftwr Meic Povey, yn frith o ddywediadau a dawn deud naturiol Eifionydd yn y clasur Talcen Caled ac yn fwy diweddar yn saga’r Senedd Byw Celwydd â llond gwlad o idiomau naturiol. Felly hefyd ei gyd awdur o ddyddiau cynnar (ac oes aur yn ôl llawer) Pobol y Cwm, y diweddar ddewin Siôn Eirian.

Ond dw i’n mynd ar gyfeiliorn. Er gwaethaf popeth, dw i’n dal wedi’n rhwydo gan 35 Diwrnod

***PEIDIWCH Â DARLLEN HEB WELD Y BENNOD OLA***

Wedi smonach y parti plu, a hunllef Gwlad Thai, daeth y Diwrnod Mawr. Rhwng mam a gyffesodd ei bod am newid ei rhyw, brawd yn dweud ei fod yn dad i blentyn siawns, a phrif forwyn yn cyfaddef iddi roi ‘anrheg’ cynnar i’r priodfab noson gynt, roedd am fod yn un cofiadwy i’r briodferch am y rhesymau cwbl anghywir. Bu’n rhaid aros tan y gwrthdaro mawr olaf ar ben clogwyn gwyntog i weld pwy oedd wedi boddi. Erbyn deall, Angharad (Emmy Stonelake) y fam orbryderus a gafodd ei bwlio’n feddyliodd gan ei gŵr gydol y gyfres, aeth gyda’r llif. Sy’n eironig, gan iddi geisio cerdded i’w marwolaeth yn y môr ar noson y parti plu.

Do, fe lwyddodd Fflur Dafydd i blethu pawb a phopeth erbyn yr eiliad olaf, hyd yn oed os oedd yn teimlo fel ras wyllt tan y credits clo. Efallai fod angen pennod fach arall i ategu ambell stori, neu ryw chwarter awr ychwanegol fel finale chwe mis, flwyddyn yn ddiweddarach. A barodd y briodas? Ddaeth Nesta mas i’r byd a’r betws fel Hywel? Ai ‘mumsnet’ fwy nag apiau bachu ficeriaid sy’n mynd â bryd Rhian bellach? Ydi Colsyn yn dal yn fyw? A gafodd Bill ei haeddiant?

Efallai ddim. Hwyrach ei bod hi’n well cadw’r cyfan yn benagored, a gadael i’r gwyliwr benderfynu drosto’i hun. Felly, diolch griw 35 Diwrnod am chwe wythnos afaelgar aeth â ni i gyfeiriadau annisgwyl, am godi gwên law yn llaw a’n dychryn (y blincin CCTV na!). Diolch am waith camera a goleuo crefftus ac arwyddgan gofiadwy sydd gyda’r gorau yn y diwydiant. A diolch i dduw am ddrama newydd ar S4C, mewn cyfnod lle maen nhw mor brin â PPE yng nghartrefi nyrsio’r wlad.